Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ymwelais â Japan yr wythnos ddiwethaf er mwyn hybu a datblygu cysylltiadau buddsoddi a masnachu rhwng ein dwy wlad. Mae gan tua 50 o gwmnïau o Japan bresenoldeb yng Nghymru ac maent yn cyflogi dros 6,000 o bobl. Ceir perthynas dda rhwng Cymru a Japan ac mae’n sicr yn un o’n partneriaethau tramor pwysicaf.

Mae cwmnïau arloesol o Japan wedi bod yn buddsoddi yng Nghymru ers dros 40 o flynyddoedd. Gwnes gyfarfod â Toyota, Hitachi, Sony, Toyoda, G-Tekt a chwmnïau eraill yn ystod fy ymweliad. Mae sawl cwmni o Japan wedi dangos eu ffydd yng ngweithwyr Cymru dros flynyddoedd lawer a gwnes fanteisio ar y cyfle i bwysleisio’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yr un mor ymrwymedig i’r bartneriaeth hirdymor.      

Roeddwn yn arbennig o falch o gael cyfarfod â Hitachi er mwyn trafod eu cynlluniau i fuddsoddi mewn ynni niwclear ar Ynys Môn. Yn amodol ar gymeradwyaeth gan awdurdodau rheoleiddio’r DU, a chytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch strategaeth ar gyfer prisiau ynni, gallai buddsoddiad Hitachi yn Wylfa fod yn un o fewnfuddsoddiadau pwysicaf Cymru. Bydd gan Lywodraeth Cymru rôl hollbwysig wrth hwyluso’r buddsoddiad hwn drwy wahanol gamau microeconomaidd.

Aeth grŵp o gwmnïau ar genhadaeth fusnes i Japan ar yr un pryd â mi, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, er mwyn ceisio cynyddu eu masnach â Japan neu ymuno â marchnad Japan am y tro cyntaf.  

Gwnaethom gydweithio’n agos ag Undeb Rygbi Cymru er mwyn elwa i’r eithaf ar daith tîm Cymru i Japan yn ystod ail ran eu taith. Gwnaeth y tîm a’r rheolwyr gyfraniad sylweddol drwy hyrwyddo delwedd bositif o Gymru. Roedd cydweithrediad parod a rhagorol Llysgennad Ei Mawrhydi a Llysgenhadaeth Prydain o gymorth mawr yn ogystal, gan ategu adnoddau Llywodraeth Cymru.  

Mae gan Gymru enw da iawn ymysg busnesau Japan, ac mae’r llif parhaus o fuddsoddiad hirdymor yn tystio i hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a datblygu ein cysylltiadau â buddsoddwyr Japan, rhai hen a rhai newydd. Mae’r ddwy wlad wedi elwa ar y cysylltiadau hyn ers dros 40 o flynyddoedd a hyderwn y gallant barhau i gydweithredu ac arloesi gyda’i gilydd.