Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ddiweddar bum ar daith fasnach i UDA a Canada gyda Hybu Cig Cymru (HCC).  

Pwrpas y daith fasnach hon oedd ehangu’r farchnad ar gyfer cig oen Cymru. Ar hyn o bryd, nid yw UDA yn caniatáu mewnforio cig oen o Gymru na chig o wledydd eraill Ewrop oherwydd hen bryderon am Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE).

Cwrddais â swyddogion o Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau (USDA) gan gynnwys y Gwasanaethau Marchnata Amaethyddol, y Gwasanaeth Arolygu Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r Gwasanaeth Arolygu a Diogelu Bwyd i weld sut y gellid ailgyflwyno cig oen Cymru i’r farchnad yn UDA.  Defnyddiais y cyfle i esbonio ansawdd uchel cig oen Cymru a’i Ddynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

Bu’r cyfarfodydd hyn gydag USDA yn rhai positif iawn. Bellach, maen nhw’n derbyn safbwynt Sefydliad Iechyd y Byd, sef nad yw TSE yn peri unrhyw risg i iechyd pobl, ac maen nhw wedi ymrwymo i gysoni rheolau America ynghylch TSE â’u rheol ar gyfer BSE.

Dangosais sut y gallai Cymru helpu i ysgogi’r galw am gig oen o Gymru yn UDA ac yng ngoleuni dirywiad y diwydiant cig oen domestig yn UDA, cafwyd croeso brwd i hyn gan USDA, Cyngor Mewnforio Cig America, Grŵp Cig Oen y Tair Gwlad (Tri Nations Lamb Group), a Chymdeithas Cig Gogledd America.

Mae’n amlwg bod galw mawr am y cig oen gorau yn UDA. Unwaith y byddwn wedi agor y farchnad hon i ni, amcangyfrifir y gallai Cymru allforio 3,100 tunnell o gig oen i  UDA bob blwyddyn, gan ychwanegu £20 miliwn at economi Cymru.

Ymwelais â Thoronto hefyd, i gwrdd â mewnforwyr/dosbarthwyr cig oen, Uchel Gomisiwn Prydain a Chyfarwyddwr Masnach UKTI ar gyfer Canada. Fy nod yno oedd asesu’r farchnad ar gyfer cig oen Cymru a hyrwyddo’r fasnach rhwng Cymru a Chanada.

Ymwelais â sefydliadau gwasanaethau bwyd a manwerthu sy’n stocio cig oen Cymru.  Mae galw amlwg am gig oen o ansawdd a borthwyd â glaswellt mewn busnesau manwerthu a lletygarwch ym mhen uchaf y farchnad a hefyd yn y sectorau manwerthu ac arlwyo cyffredinol yng Nghanada.

Oherwydd logisteg mwy ffafriol, ar Ddwyrain Canada y mae’r allforwyr cig oen yn canolbwyntio ar hyn o bryd, ac mae’r farchnad yn tyfu’n dda. Yn dilyn yr ymweliad diweddar, byddwn yn ymchwilio ymhellach i Arfordir y Gorllewin fel marchnad darged bosibl er mwyn ehangu allforion cig oen Cymru i Ganada.