Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ymwelais â Moscow ar 28 – 30 Mehefin 2013 yng nghwmni uwch swyddogion a thaith fasnach o bum cwmni o Gymru. Nod yr ymweliad oedd edrych ar gysylltiadau masnach gyda Rwsia a'r rhanbarth Kaluga yn benodol, a sefydlu cysylltiadau gyda staff y Llysgenhadaeth a chyrff masnachu lleol. Cododd cyfle hefyd yn ystod y Daith i helpu Undeb Rygbi Cymru gyda'u hystyriaeth gychwynnol i wneud cais am gael cynnal Cwpan Rygbi Saith-bob-ochr y Byd 2018 yng Nghaerdydd.
Yng nghwmni fy swyddogion, roeddwn yn bresennol mewn nifer o gyfarfodydd ar lefel uchel, gan gynnal trafodaethau gyda Llysgennad Prydain, ei staff allweddol a chynrychiolwyr cyrff masnach Prydeinig a Rwsiaidd. Hefyd cefais y fraint o gyfarfod dau Weinidog o Ranbarth Kaluga, sef y prif ranbarth ar gyfer y sector fodurol a pheirianneg ysgafn yn Rwsia. Roedd y cyfarfod yn un buddiol iawn, ac rwy'n dilyn sawl trywydd posibl gyda Dirprwyaeth Fasnach Rwsia yn Llundain a thrwy sianelau eraill.
Dylech wybod hefyd i mi deithio gyda chynrychiolwyr o bum cwmni o Gymru, sef Dunbia (prosesu cig), Randel Parker Foods (lladd a phecynnu cig oen a chig eidion), Hybu Cig Cymru, Corgi Hosiery a Total Engine Support (awyrofod). Bu pob un yn arddangos eu cynnyrch ac yn ymchwilio i'r farchnad yn Rwsia drwy staff UKTI.
Bu'r cwmnïau canlynol yn arddangos eu cynnyrch yn y Derbyniad Masnach; Burts Biscuits and Cakes Ltd / Ogmore Vale Bakery, Halen Môn, Welsh Hills Bakery, The Good Carb Food Company Ltd, Drink Paq Ltd / Iconiq Drinks, Clarks-UK Ltd, The Celt Experience Brewery, Wholebake Ltd, The Welsh Whisky Company, S.A. Brains Ltd (mewn cydweithrediad â'r cwmni Worldwide Drinks) a Tŷ Nant.
Roedd pob un o'r cwmnïau'n ddiolchgar tu hwnt am gymorth fy swyddogion a staff Llysgenhadaeth Prydain, ac mae pob un yn awyddus iawn i edrych ar gyfleoedd masnachol pellach yn Rwsia.
Er nad oedd yn rhan o'r cynllun gwreiddiol, yn sgil fy nhrafodaethau gyda'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol daeth yn amlwg bod angen tynnu sylw at y cyfleoedd chwaraeon, diwylliannol ac economaidd y gallwn eu cynnig, sydd o safon fyd-eang, os ydym i gael unrhyw siawns o gynnal y digwyddiad mawreddog hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fy mod am weithio gyda'r Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant i helpu Undeb Rygbi Cymru gyda'u cais.
I grynhoi, roedd fy nhaith i Foscow yn tynnu sylw at botensial marchnad Rwsia i Gymru.