Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw, gallaf gyhoeddi ein bod, gyda chymorth Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Sewta), yn creu Tasglu i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu systemau trafnidiaeth integredig yn y de-ddwyrain.
Erbyn dechrau 2013, bydd y Tasglu’n datblygu argymhellion ar gyfer system dramwy gyflym yn y de-ddwyrain sy’n defnyddio rheilffyrdd, rheilffyrdd ysgafn, bysiau a theithio llesol i ddiwallu anghenion y cyhoedd, busnesau a’r amgylchedd, i gysylltu cymunedau â swyddi ac i adeiladu ar gynlluniau trydaneiddio prif reilffyrdd y De a’r Cymoedd.
Mae’r Tasglu’n cael ei sefydlu yn dilyn trafodaethau gyda’r Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Sewta, a’r Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol sy’n cynnwys aelodau o bob un o’r 10 awdurdod lleol yn y de-ddwyrain.
Byddaf yn darparu arweinyddiaeth glir wrth ddatblygu’r weledigaeth o greu system drafnidiaeth integredig ac wrth wireddu’r weledigaeth honno, ac edrychaf ymlaen at gadeirio cyfarfod cyntaf y Tasglu cyn toriad y Nadolig.
Mae Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mewn llywodraeth leol yn glir ynglŷn â phwysigrwydd y fenter hon a’r angen i ni weithio gyda’n gilydd i fanteisio’n llawn ar y cyfle unigryw mae trydaneiddio’n ei ddarparu.
Rwy’n awyddus hefyd i sicrhau ein bod yn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd yn y gogledd-ddwyrain, gan adeiladu ar y cyfleoedd amlfodd a nodwyd yn ein hadroddiad diweddar, Astudiaeth Trafnidiaeth yn Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru. Byddaf yn cydweithio’n agos â’r Cynghorydd Mike Priestley, cadeirydd Taith, i ddatblygu partneriaeth debyg.
Mae trafnidiaeth dda yn hollbwysig ar gyfer twf economaidd a chynhwysiant cymdeithasol a lleihau tlodi. Ein prif flaenoriaeth fel Llywodraeth yw creu swyddi a galluogi twf – ac mae’n amlwg bod gwasanaethau trafnidiaeth yn rhan annatod o hyn.
Credaf y dylem sicrhau bod pawb yn cael safon byw o ansawdd da a’u bod yn gallu gofalu am eu teuluoedd. Trwy ddarparu systemau trafnidiaeth fforddiadwy, effeithiol ac effeithlon sydd wedi’u hintegreiddio’n dda, gall hyn helpu i wireddu’r ddelfryd hon.
Credaf fod angen i wasanaethau fod yn fodern a chynaliadwy a bod yna gyfle mawr i weddnewid systemau trafnidiaeth a chyfateb i’r dyhead hwn, gan ddechrau yn y de-ddwyrain trwy adeiladu ar y cynllun trydaneiddio ac, yn y gogledd-ddwyrain, gan adeiladu ar ein hastudiaeth ddiweddar o drafnidiaeth a chwilio am gyfleoedd i foderneiddio’r rheilffyrdd a gwella’r cysylltiadau trawsffiniol yn y dyfodol.
Rwyf am greu system sy’n cysylltu’r boblogaeth yn y cymunedau mwyaf difreintiedig â’r ardal fwyaf economaidd ddatblygedig yn y rhanbarth. Bydd hyn yn gwella rhagolygon cyflogaeth, gan leihau tlodi. Bydd yn sicrhau dull rhanbarthol o gynllunio trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â chynlluniau ehangach ar gyfer datblygu economaidd, tai ac adfywio a gwella’r amgylchedd.
Byddaf yn gwahodd y partneriaid canlynol i ymuno â Thasglu Trafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru:
- Llywodraeth Cymru
- CLlLC
- Sewta
- Network Rail
- CBI Cymru
- TUC Cymru
- Gweithredwyr Trenau
- Gweithredwyr Bysiau (CPT)
- Sustrans
Byddaf yn gofyn i Dasglu Trafnidiaeth Integredig De-ddwyrain Cymru ddarparu argymhellion ar sut i lywio a chydgysylltu gwasanaethau trafnidiaeth integredig yn y de-ddwyrain er mwyn sicrhau manteision i’r rhanbarth cyfan ac, yn benodol, argymhellion ar gyfer y canlynol:
- hunaniaeth glir ar gyfer y fenter trafnidiaeth integredig hon sy’n llwyr adlewyrchu ei diben llawn ar draws yr holl ranbarthau
- amserlen sy’n cefnogi trafnidiaeth integredig unedig, gan bennu dyheadau clir ar gyfer uchafswm amseroedd teithio ac isafswm mynychder i bwyntiau allweddol ac oddi yno
- cyfres o safonau gofynnol ar gyfer tocynnau, hygyrchedd, fforddiadwyedd ac atebolrwydd. Bydd cyflwyno tocynnau integredig yn nod allweddol.
- trefniant llywodraethu priodol i ddatblygu’r gwaith hwn, yn gysylltiedig ag agenda gydweithredu ehangach Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru
Rwy’n disgwyl i’r Tasglu ddefnyddio agwedd gyfannol wrth ymdrin â thrafnidiaeth gyhoeddus, teithio ar y ffordd a cherdded a beicio er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl a datblygu gweledigaeth sy’n ddarlun o ddyfodol trafnidiaeth yn y de-ddwyrain gan gyflwyno strwythur rheoli i hybu’r gwaith hwn.
Bydd y rhaglen ddilynol yn uchelgeisiol ac yn hirdymor, a byddaf yn blaenoriaethu ffrydiau ariannu presennol er mwyn sicrhau y gellir ei chyflwyno fesul cam dros amserlen ymarferol. Byddaf yn ceisio sicrhau nad ydym yn colli unrhyw gyfle ariannol a bod prosiectau’n cael eu hariannu ar ôl ystyried sut y gallent gyfrannu at y weledigaeth, a byddaf yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o wella’r gwasanaeth ar gyfer y cyhoedd heb greu costau ychwanegol.
Mae yna hefyd gyfle allweddol i ddatblygu prosiect trawsffurfiol pwysig o dan gylch nesaf y rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.
Yn y gogledd-ddwyrain, byddaf yn gweithio gyda Taith i ddatblygu rhaglen flaenoriaeth raddol i ddatblygu’r cynigion a amlinellir yn Astudiaeth Trafnidiaeth Ardal Gogledd-ddwyrain Cymru. Unwaith eto, bydd hyn yn golygu ystyried sut i dargedu ein cyllid, nodi ffynonellau ariannu eraill a dod o hyd i ffyrdd o wneud i arian fynd ymhellach trwy wella gwasanaethau.
Byddwn hefyd yn gwneud y cysylltiadau pwysig hynny y tu hwnt i Gymru ac yn sicrhau ein bod yn datblygu atebion trafnidiaeth integredig sy’n cysylltu ar draws y ffin â’r rhanbarth economaidd ehangach y mae’r gogledd yn rhan ohono.
Yr un fath â’r gwaith yn y de-ddwyrain, gallai rheilffordd fodern fod yn rhan ganolog o system drafnidiaeth integredig. Gallwn adeiladu ar drafodaethau yr wyf eisoes wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar yr achos dros foderneiddio rheilffyrdd y Gogledd a’u llwybrau allweddol. Mae’r rhain yn cynnwys Prif Linell Arfordir y Gogledd rhwng Caergybi a Crewe, trwy Gaer, y llwybrau gogledd-de i / o Wrecsam, Manceinion a Chaerdydd a chysylltiadau uniongyrchol rhwng y gogledd a Lerpwl.
Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n uniongyrchol gyda Llywodraeth y DU i gynnal yr arfarniad achos busnes angenrheidiol er mwyn cyflwyno’r achos dros y gwelliannau hyn, a bydd y gymuned fusnes a llywodraeth leol ehangach yn y gogledd yn hyrwyddo’r achos economaidd dros fuddsoddi.
Rwy’n benderfynol y bydd trafnidiaeth yn gwneud cyfraniad llawn at sicrhau y gall pob rhan o Gymru gyrraedd ei photensial ac y gall pawb yng Nghymru – ble bynnag y maent yn byw – gael gafael ar swyddi a gwasanaethau allweddol yn rhwydd ac yn fforddiadwy. Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhoi hwb newydd i’r uchelgais honno a bydd yn ein galluogi ni, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, busnesau ac eraill ledled Cymru, i hyrwyddo newid go iawn yn ein systemau trafnidiaeth.