Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd ymgynghoriad gennyf ar 29 Ionawr eleni ar gyflwyno system monitro cychod ar gyfer pob cwch pysgota yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 3 Mai. 

Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd.  Cafwyd cyfanswm o 20 o ymatebion, ar e-bost, copi caled ac arolwg ar-lein. 

Roedd rhan fwyaf yr ymatebwyr o blaid cyflwyno VMS (60%), gan gyfeirio at orfodi, cynaliadwyedd a lleihau difrod amgylcheddol fel y prif fanteision.  Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon, yn bennaf o ran preifatrwydd a diogelu data, ymarferoldeb gosod VMS ar gychod llai, yn ogystal â chostau ariannol i bysgotwyr.

Roedd rhan fwyaf yr ymatebwyr yn nodi mai VMS oedd yr unig opsiwn ymarferol, cost-effeithiol, a fyddai'n darparu data dibynadwy.  Roedd rhai ymatebwyr yn cynnig atebion eraill, ond roedd yr un ymatebwyr hefyd yn cydnabod bod cyfyngiadau i hyn.

Wedi ystyried pob ymateb, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau atebion cost isel i bysgotwyr.

Mae crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gael ar: https://llyw.cymru/systemau-monitro-cychod-ar-gyfer-cychod-pysgota-yng-nghymru.