Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Cyhoeddais yn flaenorol mewn datganiad ysgrifenedig ar 25 Medi 2014 fod System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cael ei chyflwyno, a chyhoeddwyd categori lliw pob ysgol ar ddiwedd mis Ionawr 2015.
Mae'r system gategoreiddio hon wedi'i seilio ar dri cham:
- Cam un: ystyried data a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar set o feini prawf y cytunwyd arnynt ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd
- Cam dau: ystyried hunanwerthusiad ysgolion a'u gallu i wella eu hunain gan ganolbwyntio ar yr arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu
- Cam tri: pennu dwy radd - llythyren 'A-D' yn seiliedig ar allu'r ysgolion i wella, a chategori lliw. Mae'r categori lliw yn arwain at raglen o gefnogaeth, her ac ymyrraeth sydd wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer pob ysgol. Mae'r categorïau hefyd yn cael eu defnyddio i gynllunio'r modd y caiff adnoddau'r consortia eu targedu a'u defnyddio.
Mae'n bwysig cofio mai prif ddiben y system genedlaethol ar gyfer categoreiddio ysgolion yw pennu'r ysgolion hynny y mae arnynt angen cefnogaeth fwyaf. Bydd hynny’n fodd i ni fynd ati mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a chonsortia i roi cefnogaeth a neilltuo adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl er mwyn gwella ein system ysgolion.
Ar ôl cyhoeddi'r canlyniadau cychwynnol, rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol, consortia ac undebau llafur i gryfhau'r model categoreiddio ac adolygu'r cynllun peilot ar gyfer ysgolion cynradd. Rydym wedi cytuno ar nifer o ddiwygiadau i gam cyntaf y system a chaiff y rhain eu cyflwyno ar unwaith:
- diwygio pwysoliadau'r dangosyddion sy'n sail i’r dyfarniad ar gyfer ysgolion uwchradd yng Ngham 1, er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar y gweddillebau’n ymwneud â phrydau ysgol am ddim (FSM) a llai o bwyslais ar berfformiad disgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Mân newid yw hwn a chaiff ei liniaru gan y pwynt isod
- gosod targed 3 blynedd ar gyfer perfformiad FSM ar lefel ysgol. Bydd hyn yn parhau fel cyfartaledd tair blynedd ond bydd ysgolion yn gwybod beth yw’r targed ymlaen llaw. Caiff y targed ei osod bellach ar 30% (2015), 32% (2016) a 34% (2017). Y targed presennol yw 27.2%
- symud yr asesiad o gyflawniad y targed FSM o Gam 2 i Gam 1.
Bydd unrhyw ysgol sy'n cyflawni llai na'r targed FSM yn cael ei rhoi'n awtomatig yng ngrŵp safonau 3. Os yw'r dangosyddion eraill yn dangos perfformiad gwael, caiff yr ysgol ei rhoi yng ngrŵp 4. Os yw'r dangosyddion eraill yn dda, ynghyd ag asesiad y consortia yng Ngham 2, gellir rhoi’r ysgol yn y categori melyn. Felly, ni fydd unrhyw ysgolion gwyrdd yng Nghymru sydd heb gyrraedd y targed Prydau Ysgol am Ddim.
Ar gyfer ysgolion sydd wedi'u cyfuno, caiff data eu cynhyrchu ar gyfer Cam 1 ar y flwyddyn lawn gyntaf ond ni chaiff eu cyhoeddi. Bydd Cam 2 a Cham 3 yn cael eu gweithredu gan y consortia ac yn cael eu cyhoeddi. Yn yr ail flwyddyn, bydd data Cam 1 yn cael ei gyhoeddi a bydd elfen o ddata hanesyddol wedi’i chynnwys yn y cyfrifiadau. Caiff ei bwysoli o blaid y flwyddyn ddiweddaraf ond bydd yn dal i gwmpasu cyfnod o dair blynedd.
Ar gyfer ysgolion newydd, caiff data ei gynhyrchu ar gyfer Cam 1 yn yr ail flwyddyn ar sail dwy flynedd o berfformiad.
Yn ogystal, bydd y trefniadau a dreialwyd ar gyfer categoreiddio ysgolion cynradd bellach cael eu gweithredu’n llawn fel rhan o’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion.
Yn olaf, rydym wedi cytuno â'r consortia i gyflwyno nifer o ddiwygiadau i Gamau 2 a 3 er mwyn sicrhau cysondeb ar draws Cymru, ynghyd â sefydlu proses wirio genedlaethol gadarn. Rydym hefyd wedi cytuno i fireinio'r diffiniadau o'r categorïau lliw er mwyn adlewyrchu'r lefel a'r math generig o gymorth y gall ysgol ddisgwyl ei gael.
Bydd y consortia yn hysbysu ysgolion cynradd ac uwchradd am eu categorïau dros dro ym mis Hydref. Caiff y categorïau terfynol eu cyhoeddi ar y wefan Fy Ysgol Leol ar ddiwedd mis Rhagfyr 2015.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.