Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwylio'r digwyddiadau rhyfeddol sy'n datblygu yn Syria. Gan fod polisi tramor yn fater a gedwir yn ôl, mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei bod yn monitro'r sefyllfa'n agos a'i bod mewn cysylltiad â phartneriaid rhyngwladol ac â nifer o gysylltiadau o Syria. Bydd y dyddiau a'r wythnosau nesaf yn datgelu pa effaith y gallai'r digwyddiadau diweddar ei chael ar y rhanbarth ehangach a Syria.
Rwy'n cefnogi'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad ar 8 Rhagfyr yn croesawu ymadawiad Assad ac yn pwysleisio pwysigrwydd datrysiad gwleidyddol, gan alw ar bob ochr i amddiffyn sifiliaid a lleiafrifoedd. Byddwn yn ymuno â Llywodraeth y DU i alw ar bob plaid i gefnogi mynediad dyngarol.
Mae Cymru wedi dod yn gartref i dros 2,000 o Syriaid ers dechrau'r gwrthdaro yn eu mamwlad, ac rydym yn ymwybodol y bydd Cymry o Syria a'u teuluoedd yn gwylio'r digwyddiadau sy'n datblygu yn Syria. Roedd llawer o Syriaid wedi cyrraedd Cymru o 2015 ymlaen ac maent wedi dod yn aelodau gwerthfawr o'n cymunedau, gan gyfrannu at ein heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cymru'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Genedl Noddfa a byddwn, wrth gwrs, yn parhau i fonitro'r hyn sy'n digwydd a chefnogi cymuned Syria yng Nghymru wrth i'r sefyllfa ddod yn gliriach.