Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwyf yn cyhoeddi ‘Symud Cymru Ymlaen’ – Ein Gweledigaeth ar gyfer Metro Gogledd Cymru a Gogledd-ddwyrain Cymru’.  Mae gwella gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ac ar draws y ffin yn un o flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf.  

Ein gweledigaeth yw moderneiddio trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru i greu rhwydwaith trafnidiaeth integredig o safon ar draws y rhanbarth sy’n gynaliadwy, yn ddibynadwy, yn effeithiol ac o safon uchel.  Bydd yn cysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, cyfleusterau a gwasanaethau gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd economaidd a ddaw o’r cysylltiadau ledled Cymru a’n gororau.  Golyga Brexit ei fod yn bwysicach nag erioed i sicrhau bod cysylltiadau da i farchnadoedd ar draws ffiniau Cymru a Lloegr.  Bydd cysylltiadau uniongyrchol â chanolfannau pwysig ym Mhwerdy Gogledd Lloegr, y Canolbarth a Llundain, a gwasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus uniongyrchol i feysydd awyr a chanolfannau rheilffyrdd amlwg yn helpu i sbarduno twf economaidd.  

Bydd moderneiddio trafnidiaeth Metro Gogledd a Gogledd-ddwyrain Cymru yn helpu inni gyflawni ein hamcanion llesiant.  Bydd yn cynnig y platfform iawn i sicrhau datblygiad economaidd cynaliadwy, yn cysylltu pobl, cymunedau a busnesau gyda gwaith, gwasanaethau, cyfleusterau a marchnadoedd drwy seilwaith dibynadwy, cadarn, ac yn cefnogi dull integredig o sicrhau’r newid i gymdeithas sy’n defnyddio llai o garbon ac sy’n gallu gwrthsefyll y newidiadau yn yr hinsawdd.  

Mae cysylltiadau cryf rhwng economi Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr a chaiff hyn ei adlewyrchu yn y llif o gymudwyr sy’n llifo ar draws y ffin, oddeutu miliwn o deithiau y mis.  Mae’r posibiliadau o ran y twf mewn swyddi yn y dyfodol yn sylweddol yn yr ardal drawsffiniol, a bydd angen gwelliannau i’r systemau trafnidiaeth cyhoeddus a’r rhwydwaith ffyrdd i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol ar ein rhwydweithiau trafnidiaeth.  

Mae’r gwaith yr ydwyf wedi ei baratoi ar ddyfodol y gwasanaethau bws lleol yn allweddol i ddarparu’r rhwydwaith trafnidiaeth integredig hwnnw ar draws Gogledd Cymru ac yn ardal Metro Gogledd-ddwyrain Cymru.  Bydd yr adborth o’r Uwchgynhadledd Fysiau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr yn helpu i benderfynu sut y byddwn yn cydweithio â phartneriaid i ddarparu’r gwasanaethau bws o safon ledled Gogledd Cymru y mae ein cymunedau eu hangen a’u haeddu.  

Bydd masnachfraint newydd Cymru a’r gororau wedi ei sefydlu o 2018 ac mae hefyd yn rhoi cyfle gwirioneddol inni sicrhau gwasanaethau gwell ar drafnidiaeth gyhoeddus i Ogledd Cymru ac yn ôl ac o fewn yr ardal.  Rwy’n parhau i ddadlau’r achos gyda Llywodraeth Cymru i gael cyfran decach o gyllid ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru i alluogi’r buddsoddiad sydd ei angen o ran capasiti y rheilffyrdd, gwasanaethau cadarn a chyfleusterau i deithwyr ledled Cymru gyfan.  

Rwyf wedi ymrwymo i brosiectau gwerth bron i £600 miliwn dros y blynyddoedd nesaf ar gyfer gwelliannau i’r seilwaith trafnidiaeth ar draws Gogledd Cymru, ac rwy’n parhau i geisio sicrhau cyllid ychwanegol o £41 miliwn gan yr UE ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth yn yr ardal.  Rydym wedi datblygu nifer o ymrwymiadau y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2015 ac wedi clustnodi nifer o gynlluniau eraill megis rhaglen o welliannau i fannau gwan ar y rhwydwaith cefnffyrdd.  Rydym yn datblygu prosiectau allweddol megis y Drydedd Bont ar draws y Fenai, Gwelliant i Goridor yr A55/A494/A548 yng Nglannau Dyfrdwy a chanolfannau trafnidiaeth integredig yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.  

Mae gennym weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru, ond ni allwn gyflawni hyn ar ein pennau ein hunain, bydd angen cydweithredu gyda nifer o asiantaethau i gyflawni’r weledigaeth honno.  Byddwn yn gweithio gyda phob asiantaeth ar y ddwy ochr i’r ffin i ddarparu system drafnidiaeth integredig sy’n bodloni anghenion pobl Cymru a Lloegr, gan sicrhau mynediad i gyfleoedd ar gyfer gwaith sy’n bodoli eisoes a gwaith ar gyfer y dyfodol.  

Bydd partneriaid ar y ddwy ochr i’r ffin yn cyfrannu at ddarparu’r weledigaeth drwy dargedu eu hadnoddau eu hunain i drawsnewid y sefyllfa ar draws yr ardal.  

Wrth gydnabod y swyddogaeth bwysig sydd gan ein partneriaid o helpu y Llywodraeth i gyflawni ei gweledigaeth, rwy’n cynnig sefydlu tîm i ddatblygu’r gwaith hwn.  Yn gyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar sefydlu grŵp llywio o dan arweiniad swyddog, sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu’r manylion angenrheidiol sydd y tu ôl i’r weledigaeth hon, a’r opsiynau o ran ymyrraeth y tu hwnt i’r rhai sydd eisoes ar y gweill.      

Bydd y tîm yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, cwmnïau, busnesau, y trydydd sector a chymunedau i wella y dull o integreiddio trafnidiaeth o bob math, i sicrhau bod y gwelliannau i drafnidiaeth yn cynnig system sy’n bodloni anghenion Gogledd Cymru ac sy’n cyflawni ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.  

Wrth inni ddatblygu ein dull o gyflawni, rwy’n cydnabod y bydd angen i’r trefniadau gweithio ddatblygu ac addasu wrth i drefniadau rhanbarthol sy’n gysylltiedig â diwygio’r sector cyhoeddus a Cheisiadau Twf ddatblygu.  
Mae potensial enfawr i sicrhau twf economaidd yng Ngogledd Cymru.  Mae system drafnidiaeth integredig o safon uchel yn sylfaenol i gyflawni’r potensial hwnnw ac rwyf wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y gwaith hwn i sicrhau bod y rhanbarth yn rhan cystadleuol, cysylltiedig o economi yr UE.  

http://gov.wales/topics/transport/public/north-east-wales-metro/?lang=cy