Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’n gyfnod cyffrous i weithio yn y maes deintyddiaeth yng Nghymru, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod diwygiadau i’r contract deintyddol yn datblygu ar y raddfa briodol ac yn gyflym. Mae deintyddion, gweithwyr gofal deintyddol, byrddau iechyd, ac academyddion yn cydweithio i lunio a darparu trawsnewid yn unol â’r cynllun Cymru Iachach. Rydym yn buddsoddi ym mhob un o feysydd deintyddiaeth; mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd, mewn gwasanaethau Cyffredinol a Chymunedol. Mae buddsoddiad wedi’i gynllunio i greu gwell ffyrdd o weithio ac annog arloesi a chydweithio. 

Cyflwynodd ein Cynllun Gwên raglen ofal ataliol i blant. Mae’n darparu gwell canlyniadau ym mhob grŵp cymdeithasol ac yn cyflawni arbedion effeithlonrwydd.

Rydym yn gweld y lefel mynediad uchaf gan blant i bractisau deintyddol cyffredinol yng Nghymru mewn dau ddegawd. Mae nifer y plant sy’n gorfod cael anesthetig cyffredinol i dynnu dannedd yn gostwng yn gyflym.

Er fy mod yn cydnabod y gwelliant hwn mewn gofal i blant, a mynediad at y gofal hwnnw, rwyf hefyd yn ymwybodol bod heriau yn parhau i lawer o oedolion. Ein her fwyaf yw gwneud yn siŵr y gall pob claf sydd eisiau gofal deintyddol gael mynediad at y gofal hwnnw, yn enwedig y rhai hynny â’r anghenion mwyaf na fyddant bob amser yn defnyddio ein gwasanaethau fel y bwriadwyd.

Mae angen i ni yn awr ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu i gymell y trawsnewid ehangach sydd ei angen i ddarparu canlyniadau gwell a thecach.

Mae newid yn digwydd i’r system ddeintyddiaeth gyfan yng Nghymru.  Rwyf wedi ymrwymo i gyflymu ac ehangu’r diwygiadau drwy sicrhau bod rhagor o bractisau a thimau yn cymryd rhan. Mae angen cynnydd pellach ac ymdrech barhaus i ddiwygio’r contract a systemau er mwyn cynnig mynediad cyfartal a ffyrdd newydd o weithio mewn deintyddiaeth a sicrhau mai dyma’r safon yng Nghymru. 

Rydym wedi mabwysiadu agwedd ‘profi ac addasu’ yn y rhaglen ddiwygio contract deintyddol i sicrhau bod newid yn mynd â ni i’r cyfeiriad a fwriadwyd. Mae’n rhaid i ddiwygiadau fod yn deg i dimau deintyddol, byrddau iechyd a chleifion. Nid yw unedau gwerth isel o Weithgarwch Deintyddol yn cefnogi ansawdd, ac maent yn cael eu tynnu o’r system. Rydym yn dilyn egwyddorion tegwch, cyd-gynhyrchu a chydgyfrifoldeb i sicrhau newid.

Mae baich afiechydon deintyddol yn cael effaith niweidiol ar ormod o fywydau yng Nghymru, yn enwedig mewn grwpiau agored i niwed a difreintiedig. Mae’n gostus i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), gall fod yn annymunol i’w drin ac mae rhai o’n hoedolion ifanc wedi’u heffeithio yn ddifrifol, gyda llawer ohonynt yn aml yn ymweld â gwasanaethau gofal brys mewn poen.  Mae mynediad at ofal deintyddol yn parhau i amrywio ym mhob rhan o Gymru ac mae hwn yn rhywbeth y mae angen diwygiadau contract i fynd i’r afael ag ef.

Mae iechyd y geg yn cyfrannu at iechyd a llesiant ehangach. Mae’n rhaid i ni roi gwybodaeth a grym i gleifion a’r cyhoedd er mwyn iddynt werthfawrogi, cynnal a diogelu iechyd eu ceg, ac iechyd ceg eu dibynyddion.  Rydym eisiau i gleifion ddeall sut y mae eu dewisiadau yn effeithio ar eu tebygolrwydd o ddatblygu afiechydon deintyddol. Rydym eisiau i dimau deintyddol bersonoli negeseuon allweddol, i ddarparu cyngor a gofal cyson, a fydd yn cynorthwyo cleifion i leihau eu risg o ddioddef afiechydon y geg. Mae’r adnodd ‘risg ac anghenion’ – Asesiad Risg ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) – a’r wybodaeth i gleifion a ddatblygwyd mewn practisau sy’n rhan o’r diwygio, yn ein helpu i wneud hyn.

Mae mwyafrif gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru yn cael eu darparu mewn lleoliadau gofal sylfaenol gan gontractwyr annibynnol. Rydym wedi cydnabod bod system gontractiol ddeintyddol y GIG wedi’i seilio ar ddarparu triniaeth. Dyma pam y mae’r rhaglen ddiwygio deintyddol yn canolbwyntio ar atal, wedi’i arwain gan anghenion ac yn destun dulliau mesur canlyniadau.

Rydym yn dileu’r anghymelliad ariannol fel y gall timau clinigol ganolbwyntio ar atal a defnyddio sgiliau’r tîm cyfan i hwyluso mynediad. Rydym yn sicrhau gwerthusiad ‘real’ allanol a gwrthrychol o’r rhaglen ddiwygio i adeiladu ar ddysgu a chynnwys newidiadau sy’n cyflawni ein nodau ar y cyd.

Mae’r Gronfa Arloesi ddeintyddol yn cefnogi timau clinigol drwy gyflymu’r broses o ehangu gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol. Arweiniodd yr alwad gyntaf am geisiadau at gynnig buddsoddiad uniongyrchol o tua £750,000 i 33 o bractisau ar draws y 7 bwrdd iechyd ac mae ail alwad wedi’i chynllunio ar gyfer yn hwyrach eleni.

Bellach, mae pum deg tri o bractisau deintyddol yn yr holl fyrddau iechyd yn cymryd rhan yn y broses o ddiwygio’r contract deintyddol. Mae 41 practis arall wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y cam nesaf o fis Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd ymhell dros 20% o bractisau yng Nghymru yn rhan o’r rhaglen ddiwygio.

Mae prosesau cipio data electronig bellach wedi’u sefydlu. Mae agweddau newydd at roi contractau, a mesurau mwy ystyrlon nag Unedau Gweithgarwch Deintyddol yn unig, yn galluogi deintyddion mewn practisau ddeall ansawdd, mynediad, risg ac anghenion. Mae mwyafrif y practisau sy’n rhan o’r diwygio deintyddol yn dangos bod cynyddu mynediad, gwella ymyrraeth o ansawdd ac ymyrraeth ataliol, ac ehangu’r amrywiaeth sgiliau mewn timau yn bosibl. Mae wedi cadarnhau’r dystiolaeth i gefnogi cyfeiriad ein datblygiad i’r dyfodol a hoffwn weld cynnydd eto yn nifer y practisau sy’n cymryd rhan.

Rwy’n ymwybodol bod newid ac arloesi yn y system yn ehangach hefyd wrth wraidd newid ac yn ei gymell. Mae’n bleser gen i glywed bod y system reoli e-atgyfeirio deintyddol wedi’i weithredu yn llwyddiannus ym myrddau iechyd Hywel Dda ac Abertawe Bro Morgannwg, ac y bydd yn dilyn yn y 5 bwrdd iechyd arall erbyn mis Mehefin eleni.

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno pob atgyfeiriad yn electronig i’r holl feysydd arbenigedd deintyddol. Erbyn yr adeg yma y flwyddyn nesaf, bydd ffynhonnell, cymhlethdod, a nifer yr holl atgyfeiriadau at yr holl feysydd arbenigedd deintyddol yn hysbys. Bydd yr asesiad anghenion hwn yn ysgogi trafodaeth, yn cefnogi cynllunio gweithlu sydd wedi’i hysbysu gan dystiolaeth, ac yn arwain y ffordd at ailgynllunio’r gwasanaeth – gan symud triniaethau y gellir, ac y dylid, eu cyflawni gan y modelau gofal sylfaenol uwch, allan o’r ysbyty. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd gyrfa i ddeintyddion gofal sylfaenol feithrin a defnyddio’r sgiliau ychwanegol hyn.

Hoffwn hefyd dynnu sylw at y Gyfadran Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol Cymru Gyfan sydd wedi’i sefydlu. Mae’r Gyfadran, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor, a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi’i sefydlu i ddarparu platfform i gyfoethogi’r amgylchedd hyfforddi a gallu, llesiant ac ymgysylltiad Gweithwyr Gofal Deintyddol Proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys creu dau ddatblygwr sgiliau a chyfleoedd addysgol newydd.

Edrychaf ymlaen at roi gwybod am ddatblygiadau pellach.