Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol. Llwyddwyd i recriwtio'r 500 o Swyddogion ym mis Hydref 2013, drwy’r cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru, pedair ardal Heddluoedd Cymru, a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Mae'r cyllid yn cael ei roi i'r Heddluoedd, drwy Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, gan ddefnyddio grant penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol.
Rhoddais wybod i'r Aelodau yn ddiweddar am y newyddion diweddaraf ynglŷn â chyflawni'r ymrwymiad hwn, ac mae'r datganiad hwn yn amlinellu ein gofynion mewn perthynas ag ychwanegedd.
Cafodd Swyddogion Cymorth Cymunedol eu sefydlu yn sgil Deddf Diwygio'r Heddlu 2002, a chawsant eu cefnogi yn y lle cyntaf gan grant penodol o'r Swyddfa Gartref. Cafodd y grant penodol hwnnw ei ddiddymu, ac ymgorfforwyd y cyllid mewn grant craidd sydd heb ei glustnodi. O 2013-14, mae'r Swyddogion Cymorth Cymunedol hynny nad oeddent yn cael eu hariannu drwy grant penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol, yn cael eu hariannu'n bennaf drwy gyllid craidd yr heddlu, a rhai ohonynt yn cael eu hariannu'n rhannol gan sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig â gwella diogelwch cymunedol.
Mae cyflawni'r ymrwymiad i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn fwy diogel, ar adeg pan fo cyfanswm lefelau cyllid cyhoeddus yn wynebu pwysau newydd a chyson. Yn fwyaf penodol, mae'r buddsoddiad wedi'i wneud yn ystod cyfnod pan welwyd gostyngiadau sylweddol yn y cyllid ar gyfer plismona. Rhoddwyd gwariant ar gyfer cyfnod o bedair blynedd i'r heddluoedd ar hyd a lled Cymru a Lloegr ym mis Hydref 2010. Roedd hynny'n gyfwerth â gostyngiad o 20 y cant o ran grant gan lywodraeth ganolog dros gyfnod yr adolygiad o wariant, ac mae'n ymddangos y bydd y gostyngiad hwnnw'n parhau.
Felly, wrth wneud y buddsoddiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir na fwriedir i'r cyllid sydd ar gael lenwi bylchau sydd wedi'u creu gan ostyngiadau mewn ffynonellau eraill o gyllid. Mae telerau ac amodau darparu'r grant ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yn glir – cyllid yw hwn ar gyfer cyflogi Swyddogion Cymorth Cymunedol sy'n ychwanegol at y nifer sydd wedi'i bennu i blismona (swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol) ac sy'n cael ei ariannu gan ffynonellau eraill, gan ystyried unrhyw newidiadau i'r cynlluniau hynny o ganlyniad i newidiadau yn y cyllid o'r ffynonellau hynny.
Cafodd yr amodau o ran 'ychwanegedd' eu cytuno rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ac Awdurdodau Heddlu Cymru wrth sefydlu Rhaglen Swyddogion Cymorth Cymunedol a datblygu Telerau ac Amodau'r Grant ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol. Roedd pob un o Awdurdodau'r Heddlu wedi cytuno'n ffurfiol â'r amodau hyn fel rhan o gynnig cychwynnol y grant, ac yn dilyn hynny roedd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi cadarnhau eu bod yn derbyn yr amodau hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ei bod yn debygol y byddai cyfanswm y nifer o swyddogion yr heddlu yn gostwng dros gyfnod yr adolygiad o wariant. Felly, mae monitro 'ychwanegedd' yn creu nifer o heriau, ac mae cyfres o egwyddorion wedi'i phennu i wynebu'r heriau hynny. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Nhelerau ac Amodau'r grant. Y thema sy'n sail i'r egwyddorion ar ychwanegedd yw'r angen i fod yn dryloyw o ran lefelau staffio cyfredol, cynlluniau staffio, newidiadau i gynlluniau, a'r trefniadau ar gyfer recriwtio, ac, os yw'n berthnasol, adleoli Swyddogion Cymorth Cymunedol newydd.
Nid yw'r gofynion a'r egwyddorion o ran ychwanegedd yn golygu y dylai'r buddsoddiad mewn 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol arwain at gynnydd cyffredinol yng ngweithlu'r heddlu o 500, ac nid ydynt yn golygu cynnydd o 500 yng nghyfanswm y nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol sy'n cael eu cyflogi gan bedair ardal Heddluoedd Cymru. Nid yw'r gofynion yn seiliedig ar egwyddor o gydraddoldeb ychwaith, na bod pob un o ardaloedd yr heddlu yn cael yr un nifer o Swyddogion Cymorth Cymunedol sydd wedi'u hariannu o gyllid craidd â'r rhai hynny sydd wedi'u hariannu drwy grant gan Lywodraeth Cymru.
Yn hytrach, mae gofyn bod 500 mwy o bobl gan weithlu'r heddlu na fyddai'r wedi cael ei gyflogi pe na fyddai grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol wedi'i roi. Nid yw’r gofynion yn cyfaddawdu nac yn cyfyngu annibyniaeth weithredol y Prif Gwnstabliaid wrth adleoli swyddogion yr heddlu a Swyddogion Cymorth Cymunedol, nac ychwaith atebolrwydd y Prif Gwnstabliaid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu.
Mae fy swyddogion yn cael diweddariadau chwarterol ar y nifer o swyddogion yr heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol, a staff yr heddlu, fel rhan o brosesau monitro grantiau. Yn ychwanegol, mae Grŵp Llywio, sy'n cynnwys swyddogion o Lywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o Gymdeithas Prif Swyddogion Heddlu Cymru, yn monitro bod gofynion ac egwyddorion o ran ychwanegedd yn cael eu parchu. Hefyd, rwy wedi ysgrifennu'n ddiweddar at Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu i'w hatgoffa ei bod yn bwysig i barhau i gydymffurfio â'r gofynion hyn.