Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O heddiw ymlaen, 1 Hydref, bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am drwyddedu echdynnu petrolewm ar y tir.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac Awdurdod Olew a Nwy y DU i sicrhau bod y pwerau yn cael eu trosglwyddo’n hwylus.

Yr wyf wedi gwneud y trefniadau gweinyddol i sicrhau gweithdrefn effeithiol ar gyfer y trwyddedu, sy’n cynnwys canllaw technegol, gwybodaeth, ac offeryn statudol newydd sy’n ein galluogi i godi tâl ar ddeiliaid trwydded am y swyddogaethau trwyddedu hyn.

I baratoi ar gyfer y cyfrifoldeb newydd hwn, yr wyf hefyd wedi cynnal  ymgynghoriad ym mis Gorffennaf a oedd yn ceisio barn ar y polisi a ffefrir gennym ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru yn y dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad i ben yr wythnos ddiwethaf a rydym wedi derbyn dros 1800 o ymatebion.

Rydym wedi dechrau dadansoddi'r ymatebion a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i ganlyniad yr ymgynghoriad cyn diwedd y flwyddyn.

Yn y cyfamser, mae gennym Gyfarwyddyd Hysbysu sy'n gwahardd awdurdodau cynllunio lleol rhag cymeradwyo ceisiadau cynllunio am ffracio heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.  Mae hyn yn ategu ein gwrthwynebiad parhaus i gloddio anghonfensiynol, gan gynnwys ffracio, wrth inni ddatblygu a chadarnhau ein polisi yn y dyfodol.