Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch swyddogaethau cynnal a chadw ffyrdd awdurdodau lleol, gan gyfeirio'n arbennig at yr A48 drwy Fro Morgannwg.

Mae'r rhan hon o'r A48 yn rhan o'r rhwydwaith ffyrdd lleol a Chyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol amdani. Yn unol â Deddf Priffyrdd 1980, mae pob awdurdod lleol yn penderfynu ar y safon briodol y dylid ei chynnal ar ei rwydwaith ffyrdd.

Yn gyffredinol, mae’r awdurdodau yn ariannu’r gwaith o gynnal a chadw eu rhwydweithiau ffyrdd lleol o’r grant bloc blynyddol yr ydym yn ei roi iddynt ar gyfer eu holl wasanaethau. Hefyd, dros y tair blynedd ariannol ddiwethaf, rydym wedi ei gwneud yn bosibl i awdurdodau lleol fenthyg £172 miliwn yn ychwanegol o gyllid cyfalaf drwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol er mwyn gwella cyflwr a gweithrediad y rhwydwaith ffyrdd lleol. Drwy'r Fenter hon, rydym wedi darparu cyllid i Gyngor Bro Morgannwg sydd wedi eu galluogi i fuddsoddi dros £6.690 miliwn yn ei ffyrdd, gan gynnwys yr A48.

Mae awdurdodau wedi cyflwyno achosion busnes a chynlluniau rheoli asedau manwl i ni er mwyn dangos gwerth am arian. Rhaid i'r gwaith sy'n cael ei ariannu drwy'r Fenter hon fod wedi'i seilio ar egwyddorion arfer da wrth reoli asedau, a rhaid iddo bara 20 mlynedd o leiaf.