Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y cyfamser, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Student Finance England i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth a’r cyfarwyddyd sydd eu hangen arnynt.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau ar gyfer cymorth ôl-radd ar gyfer 2017/18 a bydd yn ymateb yn ffurfiol yn fuan i adolygiad Diamond, sy’n cynnwys argymhellion ar gymorth grant i fyfyrwyr ôl-radd.

Rwyf wedi cael sicrwydd gan Student Finance England y caiff pob opsiwn posibl ei ddefnyddio i ddigolledu’r rheini sydd wedi dioddef colled ariannol yn sgil y camgymeriad. Mae SFE nawr wedi ysgrifennu at bob myfyriwr yr effeithiwyd arnynt i roi gwybod iddynt beth yw eu hopsiynau apelio a sut i wneud cwyn ffurfiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda Student Finance England a Llywodraeth y DU yn pwyso arnynt i helpu’r rheini yr effeithiwyd arnynt ac i sicrhau na fydd unrhyw fyfyrwyr yn dioddef yn ariannol oherwydd camgymeriad yn y broses asesu. Ysgrifennais at y Gweinidog Gwladol dros Brifysgolion, Gwyddoniaeth, Ymchwil ac Arloesi yn galw arno i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu digolledu am gamgymeriad SFE.

Rhoddwyd gwybod i’r myfyrwyr hyn eu bod yn gymwys i gael cymorth gan SFE, yn anghywir felly, cyn i unrhyw un sylwi ar y camgymeriad a chyn i systemau TG y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr gael eu haddasu. Rwy’n ymwybodol hefyd bod nifer fach o’r myfyrwyr hyn wedi derbyn y rhandaliad cyntaf.

Mae nifer o fyfyrwyr sydd fel rheol yn byw yng Nghymru wedi’u hasesu’n anghywir fel rhai sy’n gymwys i gael benthyciad ôl-radd gan Student Finance England (SFE) ar gyfer 2016-17.