Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Pwysleisiodd Rhaglen Lywodraethu 2011-16 gefnogaeth y Llywodraeth hon i’r Gymraeg ac ymrwymodd i gyhoeddi Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg a fyddai’n bodloni nod y Llywodraeth o “gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn bywyd pob dydd”.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi Strategaeth pum mlynedd newydd ar gyfer y Gymraeg: Iaith fyw: iaith byw. Bydd yn disodli Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog (2003) fel strategaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru fabwysiadu strategaeth ar gyfer y Gymraeg, yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Daw i rym ar 1 Ebrill 2012 a bydd yn parhau mewn grym hyd 31 Mawrth 2017.
Rwy’n awyddus i gynnal a datblygu consensws gwleidyddol ynghylch mesurau ar gyfer datblygu’r iaith a’i chynnal. Roedd y ddogfen ymgynghori ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru’n Un yn sail i’r strategaeth newydd. Datblygwyd y fersiwn derfynol â chymorth Grŵp Cynghori’r Gweinidog sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol amrywiol iawn. Rwy’n gwerthfawrogi mewnbwn gwerthfawr y grŵp ar gyfer datblygu’r strategaeth ac rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r sylwadau a’r awgrymiadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y ddogfen ddrafft.
Mae’r strategaeth yn adeiladu ar Iaith Pawb ac mae hefyd yn adlewyrchu newidiadau pwysig o safbwynt deddfwriaeth, polisi a strwythurau ers 2003. Roedd y rhain yn cynnwys newidiadau yn sgil Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a fydd yn arwain at sefydlu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ym mis Ebrill 2012, diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a throsglwyddo’r rhan fwyaf o’i weithgareddau ar gyfer hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg i Lywodraeth Cymru. Roedd cyhoeddi’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2010 yn hwb ychwanegol i ddiweddaru strategaeth y Llywodraeth ar gyfer hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang.
Mae chwe nod strategol wedi’u pennu ar gyfer y strategaeth. Trwy ymgynghori ynghylch y ddogfen ddrafft a thrafod â’m Grŵp Cynghori gwelwyd bod cefnogaeth eang ar gyfer gweithredu o fewn y meysydd hyn. Gwnaeth yr adolygiad o’r dystiolaeth a gynhaliwyd er mwyn cefnogi datblygiad y strategaeth derfynol hefyd ddarparu tystiolaeth fod y chwe nod yn briodol ac yn angenrheidiol. Dyma’r chwe nod:
- annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg o fewn teuluoedd.
- cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
- cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
- cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
- gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; a
- cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.
Mae’r strategaeth hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Llywodraeth fel elfen hanfodol wrth greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol - ar y cyd ag annog y defnydd o’r iaith o fewn teuluoedd.
Mae’r strategaeth yn rhoi pwyslais arbennig ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg, boed iddynt eu cael yn y cartref neu drwy’r system addysg, ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd.
Ceir pwyslais arbennig ar yr angen i greu rhagor o gyfleoedd i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg y tu allan i’r system addysg, ac i wneud rhagor er mwyn hybu gwerth defnyddio eu sgiliau Cymraeg ar lefel economaidd a diwylliannol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r pwyslais cynyddol ar y gweithle fel lle pwysig i feithrin y defnydd a wneir o’r Gymraeg, i fagu hyder mewn defnyddio sgiliau iaith ac i ddangos gwerth yr iaith. Mae hefyd yn cyd-fynd yn agos â’r nod o wella’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i bobl Cymru.
Mae’r strategaeth hefyd yn dangos pa mor bwysig fydd swyddogaeth y fframwaith deddfwriaethol newydd a sefydlwyd gan y Mesur. Er y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu’n annibynnol ar y Llywodraeth ac er y bydd yn pennu ei blaenoriaethau ei hun, bydd gwaith y Comisiynydd o ran datblygu safonau ar gyfer y Gymraeg a gosod dyletswyddau ar sefydliadau amrywiol iawn yn cyd-fynd â’r gweithgareddau y bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â hwy wrth weithredu’r Strategaeth hon. Bydd safonau ar gyfer y Gymraeg, yn eu tro, yn helpu i rannu’r cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg amrywiaeth ehangach o sefydliadau.
Mae’r angen i ddatblygu seilwaith ar gyfer yr iaith yn agwedd allweddol sy’n sail i’r strategaeth, ac yn benodol hefyd yr angen i fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r dechnoleg ddiweddaraf er mwyn hybu’r defnydd ohoni. Mae’n allweddol sicrhau bod datblygiadau newydd ym maes technoleg a chynnwys digidol ar gael yn y Gymraeg fel bod yr iaith yn cael ei hystyried yn iaith fodern ac yn iaith fyw – yn arbennig ymysg pobl ifanc. O’r herwydd rwyf wedi sefydlu grŵp a fydd yn ystyried sut y gallwn gefnogi datblygu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg o fewn y cyd-destun hwn.
Mae’r Gymraeg yn nodwedd bwysig a chwbl unigryw i Gymru. Mae hefyd yn perthyn i holl bobl Cymru - siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg fel ei gilydd. Wrth weithredu’r strategaeth hon hoffwn wahodd lleisiau newydd i’n cynorthwyo â’r dasg heriol o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â sefydliadau ac unigolion amrywiol iawn, gan gynnwys Cyngor Partneriaeth statudol y Gymraeg y byddaf yn ei sefydlu’n fuan.
Yn olaf, rwy’n cydnabod yn llwyr fod cynllunio iaith yn broses hirdymor. Diben y strategaeth pum mlynedd hon yw ein galluogi i fynd ati’n hyderus i geisio cyflawni ein nod hirdymor o weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at drafod y materion hyn â’r Aelodau yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 13 Mawrth.
Gellir lawrlwytho’r strategaeth o wefan Llywodraeth Cymru.