Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mpox yw’r term Saesneg newydd a ffefrir gan Sefydliad Iechyd y byd ar gyfer yr hyn a oedd yn cael ei alw gynt yn ‘monkeypox’ (brech y mwncïod). Argymhellir y ffurf ‘brech M’ yn Gymraeg.
Cafodd Strategaeth y DU (Saesneg yn Unig) ar gyfer Rheoli Brech M, y cytunwyd arni gan bob un o asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU, ei chyhoeddi ar 7 Rhagfyr. Ei nod yw rheoli achosion presennol brech M ac, yn y pen draw, rhoi diwedd arnyn nhw. Brechiadau yw un o’r wyth ymyriad iechyd cyhoeddus a nodir yn y strategaeth i gyflawni’r nod strategol o leihau niwed; atal y trosglwyddiad presennol yn y DU; lleihau trosglwyddiad achosion sydd wedi’u mewnforio a chyfrannu at leihau’r baich byd-eang.
O ystyried y cyd-destun presennol o ran y gostyngiad yn yr achosion positif, lleihad yn nrosglwyddiad brech M a’r gwerthusiad o gynllun peilot brechu mewngroenol yng Nghymru (fel y cynghorir gan JCVI), mae strategaeth frechu ddiwygiedig wedi’i datblygu yng Nghymru er mwyn sicrhau bod pob unigolyn cymwys yn cael cynnig dos sylfaenol o’r brechlyn. Byddwn yn parhau i adolygu’r rhaglen i sicrhau bod ein dull gweithredu’n adlewyrchu’r cyngor diweddaraf gan y JCVI.
Mae'r meini prawf cymhwysedd (Saesneg yn Unig) yn parhau heb newid, ond bydd disgwyl i fyrddau iechyd ddatblygu mecanwaith i adolygu eu data presennol bob chwarter. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau bod unrhyw unigolion newydd sydd wedi dod yn gymwys i gael brechiad yn ddiweddar wedi cael ei nodi ac wedi cael cynnig brechlyn.
Mae byrddau iechyd yn gwahodd unigolion sydd wedi cael y dos cyntaf i gael ail ddos, ar yr amlder a ragnodir gan y cyngor clinigol. Bydd y dechneg fewngroenol i arbed dosau yn parhau i gael ei defnyddio ar gyfer y dos cyntaf a'r ail ddos, o ystyried nad oedd y cynllun peilot a gynhaliwyd ledled Cymru wedi codi unrhyw bryderon clinigol.
Bydd unigolion a nodwyd o'r garfan gychwynnol sydd heb gael y dos sylfaenol yn gallu cael mynediad o hyd at frechiadau drwy ein hegwyddor 'Gadael neb ar ôl'. Rydym yn annog pawb sy'n gymwys i gael y brechlyn i gymryd y cynnig.
Dylai pawb fod yn ymwybodol o symptomau brech M waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu rywedd. Ymhlith y symptomau cyntaf i ymddangos y mae gwres uchel, pen tost, poenau yn y cyhyrau, cefn tost, chwarennau chwyddedig, ysgryd a blinder mawr. Bydd brech fel arfer yn ymddangos wedi i’r unigolyn ddechrau dioddef gwres uchel, gan ddechrau ar yr wyneb yn aml, cyn ymledu i rannu eraill o’r corff gan gynnwys yr organau cenhedlu, y dwylo a’r traed. Gall y frech edrych fel brech yr ieir, a ffurfio crachod, a fydd yn cwympo i ffwrdd maes o law.
Mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl, gan fod yr achosion presennol yn effeithio'n bennaf ar ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM). Ein blaenoriaeth yw cynnig y brechlyn i unigolion GBMSM sydd mewn mwy o berygl nag eraill o ddod i gysylltiad â brech M. Dylai unrhyw un sy'n credu bod ganddynt symptomau brech M gysylltu â gwasanaeth 111 y GIG neu ffonio clinig iechyd rhywiol ar unwaith, ac osgoi cyswllt personol neu rywiol agos ag eraill nes eu bod wedi ymgynghori â gweithiwr meddygol proffesiynol.
Mae nifer yr achosion o frech M yn lleihau, ond nid yw pawb sy'n gymwys i gael brechlyn wedi eu brechu. Yn fyd-eang nid yw brech M wedi diflannu. Wrth inni symud tuag at y gwanwyn a'r haf, gyda llawer o wyliau a digwyddiadau i ddod, yn y DU a thramor, mae’n bosibl y gallai’r niferoedd godi eto. Mae sicrhau bod cynifer o unigolion â phosibl yn cael eu brechu cyn tymor y gwyliau mor bwysig. Gall y rhai sy’n gymwys gael eu brechu nawr. Os ydych yn gymwys, manteisiwch ar y brechlyn fel y gallwch fwynhau’r tymor gwyliau a’ch diogelu chi eich hun, eich ffrindiau a’ch anwyliaid.: