Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Nodais yng Nghylch Gorchwyl fy Mhanel Sector Twristiaeth fy nymuniad iddo baratoi strategaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyfer twristiaeth a fyddai'n parhau hyd 2020.  

Wrth fynd i'r afael â'r gwaith hwn mae Panel y Sector wedi canolbwyntio'n fawr ar ddeall y prif heriau sy'n debygol o effeithio ar dwristiaeth hyd at 2020 a nodi'r ymatebion mwyaf effeithiol a fydd yn cefnogi twf cynaliadwy yn y sector twristiaeth.  

Mae fy nhîm Twristiaeth a Marchnata ynghyd â rhanddeiliaid eraill wedi llunio cyfres o bapurau briffio, papurau ymchwil a phapurau materion ac mae'r rhain wedi'u cyflwyno i'r Panel yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.   

Cyflwynodd y Panel ei argymhellion drafft i mi yn gynharach eleni sy'n ceisio cyflawni enillion twristiaeth uwch er mwyn cyflawni'r gwerth mwyaf ar gyfer economi Cymru a chyflawni'r blaenoriaethau ar gyfer twristiaeth a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu.  Rhannwyd yr argymhellion hyn â'r diwydiant a rhanddeiliaid drwy gyfres o weithdai ledled Cymru.  Rwyf nawr wedi derbyn argymhellion terfynol y Panel a heddiw rwy'n lansio Strategaeth Twristiaeth newydd ar gyfer Cymru

Yn fyr, bydd y strategaeth newydd yn canolbwyntio ar bum maes allweddol - Hyrwyddo'r Brand, Datblygu Cynnyrch, Datblygu Pobl, Perfformiad Proffidiol a Meithrin Lle.

Bydd y gweithgarwch marchnata yn canolbwyntio'n benodol ar farchnad Prydain Fawr ynghyd â rhai marchnadoedd tramor penodol yn Iwerddon, yr Almaen ac UDA.  Byddwn hefyd yn sicrhau bod modd cyrraedd marchnadoedd eraill yn ogystal drwy farchnata digidol a chydweithio'n agos â Visit Britain er lles Cymru drwy ei rwydwaith rhyngwladol o swyddfeydd. 

Gobeithir y bydd y strategaeth newydd hon yn ein galluogi i gynyddu enillion yn sgil twristiaeth yng Nghymru 10% erbyn 2020.

Nodir yn benodol fod gwaith partneriaeth yn gwbl allweddol ar gyfer cyflawni nodau'r strategaeth a'r cynllun gweithredu. Byddaf hefyd yn cyhoeddi mai'r enw newydd ar fy Mhanel Sector Twristiaeth fydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth. Bydd y Bwrdd hwn yn ymwneud rhagor â'r diwydiant ac â rhanddeiliaid a bydd yn fwy amlwg.

Aelodau’r Bwrdd Cynghori yw: 

Dan Clayton Jones OBE, K.St J, TD, DL (Cadeirydd)

Mae gan Dan Clayton Jones brofiad helaeth ym maes busnes yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yn y DU a thramor, a hynny oherwydd ei fod wedi gweithio i sefydliadau megis Cwmni Moduron Ford, Bwrdd Croeso Cymru, Cwmni Gwestai Rank a'i gwmni datblygu eiddo ef ei hun. Mae ganddo brofiad helaeth o'r cynnyrch diwylliannol yng Nghymru.

Mike Morgan

Mike Morgan yw perchennog Llansantffraed Court Hotel, y Fenni  a chyd-berchennog Welsh Rarebits, Great Little Places a Wales in Style sy’n cynrychioli 100 o westai, tai llety a thai bwyta yng Nghymru.

Paul Lewin

Paul Lewin yw Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Ffestiniog, un o atyniadau mwyaf adnabyddus a llwyddiannus Cymru.  Datblygodd Reilffordd Eryri a’i hailagor yn ddiweddar gan gysylltu Porthmadog a Chaernarfon.

Philip Lay

Philip Lay, Cyfarwyddwr Adwerthu S.A. Brains: mae’n wybodus iawn am y sector tafarndai a thai bwyta.  Yn gadeirydd panel cyflogwyr Cymru ar gyfer Rhoi Pobl yn Gyntaf ac yn cynrychioli Cymru ar Fwrdd Rhoi Pobl yn Gyntaf (Cyngor Sgiliau’r Sector Lletygarwch).

Margaret Llewelyn OBEMargaret Llewelyn OBE, yw Rheolwr Gyfarwyddwr Dragon Shipping Line. Mae ganddi wybodaeth helaeth am longau, porthladdoedd a’r diwydiant hwyldeithiau.  Mae hi wedi ennill gwobr Menyw’r Flwyddyn ar gyfer Rheolaeth ac yn ymgynghorydd i’r fenter Mordeithiau Cymru. Mae Margaret yn aelod o Fwrdd Cyllid Cymru a hefyd yn aelod o banel Mordeithio Cymru y Gweinidog.

Justin Albert

Justin Albert yw Cyfarwyddwr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Mae wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus ym maes darlledu a gwneud ffilmiau dogfen yn America. Dychwelodd adref i weithio i House & Country TV a sefydlu Ymddiriedolaeth Hay Castle ac fel ymgynghorydd,  cynhaliodd adolygiad trylwyr o S4C. Justin yw is-lywydd Gŵyl Lenyddol y Gelli a Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Stephen Leeke

Stephen Leeke yw Rheolwr Cyfarwyddwr Cyrchfan y Vale (Gwesty gwobr Aur) ers 1995 ac Is-Gadeirydd Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr o Leekes Limited (manwerthu) a Hensol Castle Resort Developments (datblygu eiddo).