Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Dirprwy Weinidog dros Blant

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Hoffwn roi gwybod i Aelodau’r Cynulliad y byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant Cymru ar 3 Chwefror.

Mae’r Strategaeth yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddileu tlodi plant erbyn 2020. Mae hon yn her uchelgeisiol ar adeg pan fo gwariant cyhoeddus yn crebachu.  Fodd bynnag, ers ei sefydlu, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio'n gyson bod lleihau tlodi plant yn elfen sylfaenol o'i hagenda cyfiawnder cymdeithasol ac yn rhan o’i blaenoriaeth allweddol i roi ar waith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC).

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl unigolion a’r sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad ac a fynychodd amrywiol ddigwyddiadau ledled Cymru. Er mwyn lleihau tlodi plant, gwyddom ei bod yn hanfodol symbylu ystod eang o gyrff cyhoeddus, y trydydd sector a phartneriaid eraill yng Nghymru, gan dynnu ar eu profiadau.

Mae’r holl ymatebion wedi’u dadansoddi erbyn hyn, a chaiff crynodeb ohonynt eu cyhoeddi yfory ochr yn ochr â’r Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig.

Mae’r Strategaeth Tlodi Plant hon yn nodi’n eglur beth all Llywodraeth y Cynulliad ei wneud i helpu i leihau tlodi, yn arbennig trwy wella canlyniadau iechyd, addysg ac economaidd i blant o deuluoedd incwm isel dros y tair blynedd nesaf, sef 2011-2014.  Gwneir hynny trwy ddilyn amcanion strategol i:

  • leihau nifer y teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd heb neb yn gweithio
  • gwella sgiliau rhieni a phobl ifanc mewn teuluoedd sydd ag incwm isel
  • lleihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli o ran iechyd ac addysg plant a theuluoedd trwy wella canlyniadau i’r tlotaf.

Rydym yn bwriadu cymryd camau sylweddol i gyflawni’r tri nod strategol a gynhwysir yn Strategaeth Tlodi Plant 2011-14. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar

Mae blynyddoedd cynnar plant yn gyfnod o ddatblygu cyflym.  Mae ansawdd eu profiadau yn ystod y blynyddoedd ffurfiannol hyn yn chwarae rhan arwyddocaol yn eu cyfleoedd a’u galluoedd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae cynllun Dechrau'n Deg wedi'i anelu at blant rhwng 0-3 oed sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Ei nod yw creu canlyniadau cadarnhaol yn y tymor canolig ac yn yr hirdymor. Mae hawl craidd y rhaglen hon yn seiliedig ar dystiolaeth o’r dulliau mwyaf effeithiol o wella datblygiad plant.  Mae’r rhain yn cynnwys gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel i blant rhwng 2-3 oed yn rhad ac am ddim, gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd gwell, a mynediad at sesiynau Iaith a Chwarae.

Bydd y cyllid ar gyfer Dechrau’n Deg yn cynyddu yn ystod 2012-14.  Bydd hynny’n caniatáu rhoi mwy o gefnogaeth i’r plant a’r rhieni hynny sydd ei hangen fwyaf er mwyn i fwy ohonynt elwa ar y gefnogaeth honno. Byddwn hefyd yn rhoi system fonitro seiliedig ar ganlyniadau ar waith er mwyn sicrhau bod Dechrau’n Deg yn parhau i ganolbwyntio ar wella cyfleoedd plant difreintiedig.

Mae Dechrau’n Deg yn gweithio’n agos ag ymarferwyr a theuluoedd yn yr ardaloedd a dargedir ganddo er mwyn helpu i sicrhau bod plant yn barod ar gyfer darpariaeth y lefel nesaf.  Mae hyn yn eu helpu i symud yn ddidrafferth i’r Cyfnod Sylfaen.

  • Trawsnewid cefnogaeth i deuluoedd

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen allweddol gan Lywodraeth y Cynulliad sy’n dylunio cefnogaeth wedi’i hintegreiddio’n well ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Ei phrif ffocws yw cefnogi teuluoedd drwy ymyriadau ar y cam ataliol a’r cam diogelu. Nod y rhaglen yw gwella’r ffordd y mae cefnogaeth i deuluoedd yn cael ei dylunio a’i darparu a, thrwy hynny, lleihau nifer y teuluoedd sy’n datblygu anghenion mwy cymhleth ac y mae angen cymryd camau dwysach a drutach yn eu cylch o ganlyniad i hynny.

Sefydlwyd Teuluoedd yn Gyntaf yn 2010.  Bryd hynny, cyhoeddwyd dau gonsortiwm arloesi Teuluoedd yn Gyntaf (Awdurdodau Lleol Wrecsam, Sir Ddinbych ar Sir y Fflint yn y gogledd, a Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Merthyr Tudful yn y de). Mae tair o’r ardaloedd arloesi hyn hefyd yn treialu cynllun y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd sy’n helpu teuluoedd sydd wedi cyrraedd pwynt argyfwng neu sydd ar fin dioddef argyfwng. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i ystyried ystod eang o anghenion teuluoedd yn ogystal â sut orau all gwasanaethau integredig helpu teuluoedd i fagu sefydlogrwydd.  Darparwyd £1.35m ar gyfer y consortia yn ystod 2010/11.

Caiff consortia ychwanegol, a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod 2011/12, eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Gofynnir iddynt archwilio ffyrdd o wella’r gefnogaeth a roddir i deuluoedd sy’n cynnwys plant a phobl ifanc anabl.

Cyflwynir rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf ledled Cymru ym mis Ebrill 2012. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn disgwyl gweld camau sylweddol yn cael eu cymryd i newid systemau, gyda gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar deuluoedd yn darparu cefnogaeth effeithiol ac effeithlon i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, gan leihau anghydraddoldeb.

  • Cefnogi plant agored i niwed a’u teuluoedd

Rydym yn cydnabod bod yna deuluoedd agored i niwed a chanddynt broblemau penodol a chynyddol. Mae plant anabl yn fwy tebygol o gael eu bwlio ac o ddioddef anhwylderau iechyd meddwl na phlant nad ydynt yn anabl. Yn ogystal â hynny, mae eu teuluoedd yn fwy tebygol o ddioddef lefelau uwch o straen a thlodi, ac mae lles eu rhieni’n dueddol o ddioddef. Yn hynny o beth, mae’n hynod bwysig bod plant anabl a’u teuluoedd yn gallu defnyddio ystod eang o wasanaethau, bod y gwasanaethau hynny’n gynhwysol, a’u bod yn cefnogi rhieni plant anabl i weithio neu gymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant.

Byddwn yn buddsoddi £3 miliwn mewn grant ‘troi’n oedolyn’ newydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac mewn cefnogaeth ar gyfer plant anabl drwy ein menter Teuluoedd yn Gyntaf. Bydd hynny’n sicrhau bod gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion plant a’u teuluoedd yn well.

Mae’r strategaeth hefyd yn ymateb i’r hinsawdd ariannol newidiol sydd ohoni yn y DU ac yn gosod dull unigryw i Gymru o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd hyn yn ymdrin ag achosion craidd hirdymor tlodi ac yn lleihau rhai o’r effeithiau mwyaf niweidiol. 

Er mwyn cyflawni ein nod, rydym yn dibynnu’n fawr ar gyfraniad parhaus Llywodraeth y DU i ddileu tlodi ym meysydd treth, taliadau lles a chymorth cyflogaeth, sydd heb eu datganoli, yn ogystal â gwelliant parhaus yr economi yn ehangach.

Mae effaith cyfnerthu cyllidol, ynghyd â newidiadau cyflym ym mholisïau Llywodraeth y DU, yn golygu ei bod yn anochel y bydd rhai o’r camau a’r ymrwymiadau polisi manwl a amlinellir yn y Cynllun Cyflawni, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2010, yn cael eu heffeithio gan ddigwyddiadau eraill. Felly byddwn yn datblygu’r Cynllun Cyflawni ymhellach. Bydd hynny’n golygu ei fod yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf, yn hyrwyddo’r broses o ddatblygu prosiectau ategol, ac yn meithrin partneriaethau cryfach.

I gydnabod y ffaith bod angen gweithredu ar draws ystod o asiantaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â thlodi plant, mae’r Cynllun Cyflawni yn gyfle i dynnu sylw at y camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ddileu tlodi, a hynny o ganlyniad i’w dyletswyddau newydd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru).

Bydd y dyletswyddau newydd o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn rhoi hwb newydd i’r broses am y bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol a chorff cyhoeddus yng Nghymru ddatblygu eu strategaeth ei hun i ymdrin â thlodi plant. Bydd hynny’n ategu dull Llywodraeth y Cynulliad.