Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu seilwaith cenedlaethol yng Nghymru i brofi am COVID-19. Mae hyn wedi’n galluogi ni i sicrhau bod unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 yn gallu cael prawf yn gyflym ac yn hawdd; ac wedyn rhoi ein strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu ar waith i atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo, nes bod brechlyn neu driniaeth ar gael. 

Heddiw rydym yn cyhoeddi Strategaeth Brofi ar gyfer y cam nesaf o’r ymateb i’r pandemig COVID-19, wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau a gweld nifer yr achosion yn lleihau, a pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o nifer yr achosion yn codi unwaith eto yn yr hydref a’r gaeaf. Mae’r Strategaeth yn adeiladu ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ac yn canolbwyntio ar bedwar maes â blaenoriaeth ar gyfer profi:

  1. Rheoli ac atal y feirws rhag gael ei drosglwyddo drwy gefnogi’r broses o olrhain cysylltiadau.
  2. Darparu gwasanaethau’r GIG i atal, diogelu a darparu gwasanaethau profi ac ategu diogelwch staff, cleifion a chleientiaid.
  3. Amddiffyn grwpiau agored i niwed a rheoli cynnydd mewn cyfraddau trosglwyddo, i ddiogelu a rheoli’r haint mewn grwpiau, cymunedau a lleoliadau sy’n wynebu risg uwch.
  4. Datblygu dulliau gweithredu yn y dyfodol i fanteisio ar wyliadwriaeth iechyd a thechnolegau newydd i wella ein dealltwriaeth o’r feirws ac i ddatblygu ffyrdd arloesol o brofi.

Ar hyn o bryd, mae dwy ffordd wahanol o brofi yng Nghymru; prawf i ganfod a oes gan rywun y feirws ar y pryd, a'r prawf gwrthgyrff a ddefnyddir yn bennaf i ddarganfod a yw person wedi'i heintio yn flaenorol.  Mae’r strategaeth yn ein hatgoffa nad yw profi yn rhywbeth sy’n cael ei wneud er mwyn gwneud hynny, ond y dylai fod diben clir i’r profi yn seiliedig ar dystiolaeth. Mae’r Strategaeth hefyd yn amlinellu:

  • rôl barhaus profi asymptomatig a sut y gellir ei ddefnyddio lle ceir achosion o’r feirws ac i brofi grwpiau sy’n wynebu risg uwch o gael eu heintio gan COVID-19, megis pobl hŷn a gweithwyr gofal ac iechyd;
  • diben profion gwrthgyrff wrth ddeall serogyffredinolrwydd. Hyd yn hyn mae dros 32,000 o brofion wedi cael eu cynnal ymhlith gweithwyr gofal iechyd mewn lleoliadau gofal eilaidd, cynradd a chymunedol, yn ogystal a staff dysgu. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol a phreswylwyr yn flaenoriaeth, ac mae rhaglen beilot yn cael ei datblygu i gynnal profion gwrthgyrff sy’n defnyddio ffordd newydd o brofi sy’n llai mewnwthiol.

Rwy’n gwybod bod y data a’r dystiolaeth yn parhau i ddatblygu ac mae cwestiynau am y feirws ac ymateb system imiwnedd unigolion yn parhau i fod heb eu hateb. I gadw i fyny gyda’r dystiolaeth wrth iddi newid a’r dechnoleg brofi wrth iddi gael ei datblygu, bydd y Strategaeth yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei diweddaru ochr yn ochr â’r datblygiadau hyn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid yn y GIG a’n partneriaid allweddol eraill i wella ein trefniadau ar gyfer profi.   

Profi mewn Cartrefi Gofal

Mae diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau wedi bod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig. Rydym wedi blaenoriaethu cymorth ar gyfer pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal drwy’r blaenoriaethau profi canlynol:

  • Cynigiwyd prawf i bawb sy’n byw mewn cartref gofal yn ystod mis Mai a mis Mehefin, ni waeth a oedd ganddynt symptomau neu beidio.
  • Yn dilyn y rhaglen brofi ar gyfer holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal, mae’r holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu profi unwaith yr wythnos ers 15 Mehefin, ni waeth a oedd ganddynt symptomau neu beidio.
  • Pan fydd achosion mewn cartref gofal, mae’r holl staff a phreswylwyr yn cael prawf ni waeth a oes ganddynt symptomau neu beidio.
  • Mae pawb sy’n symud i gartref gofal ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty yn cael eu profi, ni waeth a oedd ganddynt COVID-19 pan aethant i’r ysbyty.
  • Mae pawb sy’n cael eu symud rhwng cartrefi gofal neu sy’n mynd i gartref gofal o’r gymuned yn cael eu profi, ni waeth a oes ganddynt symptomau neu beidio.

Hoffwn i ddiolch i’r holl reolwyr cartrefi gofal, staff a phreswylwyr am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod cartrefi gofal yng Nghymru yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i leihau’r niwed gan COVID-19 i’r preswylwyr dan eu gofal sy’n agored i niwed.  Mae eu gwaith caled wedi golygu bod nifer yr achosion newydd ymhlith staff cartrefi gofal yn isel iawn – gyda chyfradd cyffredinolrwydd o un achos i bob mil o aelodau staff sy’n cael prawf

Y cyngor gwyddonol yw bod gwerth profi staff cartrefi gofal bob wythnos, lle mae nifer yr achosion o COVID-19 yn isel, yn gyfyngedig, gyda chanlyniadau positif anghywir yn fwy tebygol lle mae cyfraddau cyffredinolrwydd yn isel.

Rwy’n cydnabod yr angen i gynnal hyder yn y sector hwn. Felly, byddwn yn estyn y weithdrefn brofi wythnosol bresennol am bedair wythnos arall i alluogi monitro’r broses o lacio’r cyfyngiadau ag unrhyw effeithiau posibl. Fodd bynnag, os yw’r cyfraddau cyffredinolrwydd yn parhau i fod yn isel, rwy’n rhagweld y byddaf yn gallu lleihau profi mewn cartrefi gofal i unwaith bob pythefnos o 10 Awst ymlaen. Byddaf yn parhau i fonitro cyfraddau cyffredinolrwydd mewn cartrefi gofal ac effeithiau posibl y mesurau rydym yn eu cymryd i lacio’r cyfyngiadau symud, wrth i bobl ddod i gysylltiad â rhagor o bobl a dechrau defnyddio gwasanaethau a symud o gwmpas y tu allan i’w hardal leol.

Byddaf yn parhau i adolygu ac addasu ein polisi ar gyfer profi mewn cartrefi gofal ar sail y data o brofion ac wrth i’r dystiolaeth wyddonol ddatblygu.

https://llyw.cymru/strategaeth-profi-covid-19