Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae technolegau geneteg a genomeg newydd yn caniatáu inni ddeall yn fanwl y cysylltiadau rhwng ein genynnau ac iechyd. Yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd ei gydnabod yn rhyngwladol bod gan y technolegau hyn y potensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd.

Ym mis Mawrth y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ddatganiad o Fwriad ar gyfer Genomeg a Meddygaeth Fanwl, a oedd yn egluro pam y mae angen datblygu strategaeth ehangach i sicrhau bod Cymru yn elwa ar y manteision iechyd ac economaidd a fydd yn deillio o faes genomeg.

Heddiw, mae’n dda gennyf gyhoeddi Strategaeth Genomeg newydd ar gyfer Meddygaeth Fanwl. Mae’r strategaeth hon yn seiliedig ar yr egwyddorion a amlinellir yn y Datganiad o Fwriad ac mae £6.8m wedi ei neilltuo i’w chefnogi.

Cafodd y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl ei datblygu gan weithlu genomeg o dan arweiniad Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli academia, diwydiant, y trydydd sector, y GIG a’r cyhoedd. Cynhaliwy cyfres o weithdai a chyfarfodydd ledled Cymru, ac mae’r rhain wedi chwarae rôl hanfodol drwy helpu i lywio’r gwaith o ddatblygu’r Strategaeth.

Mae’r Strategaeth yn amlinellu’r camau gweithredu cychwynnol allweddol, yn rhan o gynllun 5-10 mlynedd, a fydd yn:

  • Datblygu gwasanaethau genomeg meddygol ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru a gydnabyddir yn fyd-eang – sy’n arloesol, ymatebol ac wedi’u cysylltu’n dda â’r prif fentrau geneteg a genomeg sy’n datblygu o amgylch y byd.
  • Datblygu llwyfannau rhagorol ar gyfer meddygaeth fanwl a gwaith ymchwil mewn genomeg a gydnabyddir yn fyd-eang, wedi’u harwain a’u cydgysylltu ar lefel Cymru gyfan a chyda cysylltiau cryf â geneteg glinigol.
  • Bod yn eangfrydig, a chwilio’n weithredol am bartneriaethau a all gryfhau ymchwil a gwasanaethau genomeg a meddygaeth fanwl yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y partneriaethau hynny a fydd yn cyflwyno’r manteision gorau i gleifion.
  • Datblygu gweithlu’r GIG a’r gweithlu ymchwil yng Nghymru, i gydnabod y bydd y buddsoddiad hwn yn cael yr effaith fwyaf ar ein gallu ni i wireddu potensial genomeg a meddygaeth fanwl er budd y claf.

Drwy amlinellu’r camau cychwynnol y mae angen eu cymryd i ddatblygu seilwaith genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl, mae’r strategaeth yn gosod y sylfeini ar gyfer sicrhau bod defnyddio technolegau genomeg yn dod yn rhan arferol o’r dulliau meddygaeth fanwl sydd ar waith yng Nghymru. O wneud hyn, mae cleifion, a phobl Cymru yn gyffredinol, yn elwa ar y gofal iechyd gwell a gynigir, ac mae’r sail hon yn hanfodol os ydym am warantu dyfodol disglair i’r defnydd o dechnolegau genomeg blaengar yn y GIG yng Nghymru.

Mae’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl ar agor, a bydd yn parhau ar agor hyd at 24 Mai 2017.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.