Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn ein hymateb i’r pandemig, mae’n gyfle i bwyso a mesur ac i gadarnhau ein cynlluniau ar gyfer dyfodol rhaglen frechu Covid-19. Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein Strategaeth Frechu Covid-19 wedi’i diweddaru, sy’n nodi sut y bydd y rhaglen frechu yn parhau i ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed a diogelu Cymru.

Mae brechu yn parhau i fod yn ganolog i’n hymateb i’r pandemig a bydd yn chwarae rhan allweddol yn y ffordd y byddwn ni’n byw gyda’r feirws yn y tymor hir.

Gan symud i ffwrdd o’r ymateb brys cychwynnol i’r pandemig a’r gwaith o gyflwyno brechlynnau Covid-19, tuag at ddull gweithredu mwy arferol, byddwn yn parhau i gael ein llywio gan y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf a'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Phrif Swyddog Meddygol Cymru. Mae’r Strategaeth Frechu Covid-19, sydd wedi’i diweddaru ac yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw, yn nodi’r prif feysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn 2022. 

Mae’r strategaeth yn ymdrin â’r canlynol:

  • Yr ymgyrchoedd presennol, gan gynnwys y rhai a gynghorwyd gan y JCVI yn yr wythnos diwethaf – brechu plant 5-11 mlwydd oed a brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r oedolion mwyaf agored i niwed
  • Y senarios mwyaf tebygol, y gofynnir i fyrddau iechyd gynllunio ar eu cyfer yn ystod gweddill 2022, gan gynnwys brechu ar raddfa fwy eto pe bai angen inni ehangu ein hymateb yn sgil ton newydd o'r pandemig yn y dyfodol neu amrywiolyn newydd sy’n peri pryder
  • Cynlluniau i integreiddio rhaglen frechu Covid-19 â rhaglenni brechu eraill sydd eisoes yn bodoli drwy ddatblygu Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd i Gymru.

Blaenoriaeth sylfaenol y rhaglen frechu o hyd yw diogelu’r henoed, y rhai sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n wynebu’r risg glinigol fwyaf. Mae hyn yn cynnwys cynnig ail frechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i’r rhai mwyaf agored i niwed, yn unol â chyngor diweddar y JCVI.

Dyma rai o amcanion a blaenoriaethau eraill y strategaeth newydd:

  • Parhau i ganolbwyntio ar beidio â gadael neb ar ôl, gan addo sicrhau nad yw hygyrchedd yn ffactor sy’n dylanwadu ar gyfraddau brechu
  • Sicrhau bod byrddau iechyd yn parhau i gynnig gwasanaeth brechu pwrpasol i’w cymunedau lleol
  • Byddwn yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru i sicrhau bod gwybodaeth am frechu ar gael yn hwylus a’i bod yn cael ei theilwra yn ôl oedran ac amgylchiadau
  • Bydd ein gwasanaeth aildrefnu ar-lein yn cynnig ffordd gyfleus i bobl aildrefnu apwyntiadau.

Bydd y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn ein helpu i wireddu ein huchelgais i sicrhau canlyniadau sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran clefydau y gellir eu hatal drwy frechu. Bydd holl raglenni brechu Cymru yn rhan ohono, gan gynnwys Covid-19 a ffliw tymhorol. Bydd yn annog cyfraddau brechu uchel, yn lleihau cyfraddau marwolaethau, yn sicrhau mynediad a chyfle cyfartal, yn datblygu dulliau gweithredu effeithiol ac yn darparu gwerth am arian.

Rydym wedi dysgu cymaint yn ystod y pandemig ac mae angen inni ddefnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu ar gyfer y dyfodol. Mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau bod gwasanaethau brechu ac imiwneiddio yn addas i’r diben ac yn addas at y dyfodol, gan gynnwys sicrhau eu bod yn ddigon cadarn i ymdopi â brigiadau o achosion yn y dyfodol.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol i bobl ledled Cymru. Bydd angen i'r GIG ymateb yn brydlon ac yn effeithiol, fel y mae wedi’i wneud drwy gydol y pandemig, gan brofi bod ganddo’r ystwythder a’r hyblygrwydd, yn ogystal â’r gweithlu medrus a phrofiadol angenrheidiol i barhau i roi ein rhaglen frechu ar waith yn llwyddiannus.

Ein cyngor o hyd yw manteisiwch ar eich cynnig o frechlyn ac edrych ar wefan eich bwrdd iechyd i gael cyngor.

Rydym wedi dod drwy’r gwaethaf ond mae angen inni barhau i ddiogelu Cymru gyda’n gilydd.

Byddaf yn cyhoeddi’r Diweddariad Brechu nesaf ymhen pythefnos.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.