Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi cyflawni ein carreg filltir gyntaf, sef cynnig y brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol mis Chwefror. Rydym bellach yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni ein carreg filltir nesaf, sef cynnig y brechlyn i bob unigolyn yng ngrwpiau blaenoriaeth 5 i 9.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi nodi y dylid estyn gwahoddiad i bobl gydag anabledd dysgu difrifol/dwys ac unigolion â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, neu unrhyw salwch meddwl sy’n achosi nam difrifol ar weithrediad, i gael y brechlyn fel rhan o grŵp blaenoriaeth 6.

Mae adnabod yr unigolion yn y grwpiau hyn yn her, yn enwedig gan nad yw’r iaith a ddefnyddir gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu fel rheol yn cael ei defnyddio yng Nghymru, ac rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl. Heddiw rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar adnabod unigolion cymwys yn y grwpiau hyn a sut i’w cefnogi i dderbyn y cynnig o’r brechlyn.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu hefyd wedi dweud y dylid cynnwys rhai o’n gofalwyr di-dâl amhrisiadwy yng ngrŵp blaenoriaeth 6. Rydym hefyd heddiw wedi cyhoeddi canllawiau ar adnabod y gofalwyr di-dâl hynny sy’n gymwys i gael eu blaenoriaethu ar gyfer y brechlyn, a’r broses ar gyfer gwneud hyn. Rwy’n ddiolchgar i’r sefydliadau cenedlaethol sy’n cefnogi gofalwyr am eu cymorth gyda’r gwaith hwn.