Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda iawn gen i gyhoeddi heddiw Strategaeth Effeithlonrwydd Ynni gyntaf Cymru.

Y nod wrth ddatblygu’r strategaeth oedd pennu cyfeiriad clir i’r dyfodol, a sbarduno gweithredu pellach ym mhob sector: domestig, busnes a chyhoeddus.

Mae defnyddio ynni’n effeithlon yn cynnig cyfleoedd mawr i sicrhau twf gwyrdd trwy swyddi a sgiliau newydd a chadwyn gyflenwi gref.  Dyma’r ffordd fwyaf cost-effeithiol i wireddu’n hymrwymiad i leihau allyriadau carbon tra’n gostwng prisiau ynni i fusnesau a’r sector cyhoeddus.  Bydd hefyd yn delio’n uniongyrchol â thlodi tanwydd trwy ostwng cost gwresogi cartrefi pobl sy’n agored i niwed.

Rydyn ni yng Nghymru wedi arwain y ffordd o ran gwireddu gweledigaeth ar gyfer effeithlonrwydd ynni sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio llai o ynni a rhyddhau llai o allyriadau carbon, creu swyddi a threchu tlodi.

Mae’r strategaeth yn adlewyrchu ôl gwaith y llywodraeth gyfan gan gydnabod rôl bwysig pob adran i droi’r weledigaeth yn realiti.

Mae’r farchnad ynni wrthi’n cael ei gweddnewid, yma yng Nghymru a thu hwnt, gan symud at systemau ynni callach a mwy cysylltiedig sy’n integreiddio ffynonellau cynhyrchu ynni a mesurau storio ac arbed ynni. Trwy wynebu’r heriau hyn, byddwn yn sicrhau bod pob sector, cartref, busnes a’n sector cyhoeddus yn defnyddio llai o ynni ac yn elwa ar fanteision defnyddio ynni’n effeithlon.

Mae gweithredu ar ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon yn cyfrannu at wireddu nodau llesiant y Llywodraeth, ac mae gwneud Cymru’n fwy ynni effeithlon yn enghraifft gynnar ohonom yn rhoi ar y waith y pum ffordd o weithio a argymhellir yn y Ddeddf.  

Mae gwella’n heffeithlonrwydd ynni mewn ffordd integredig fel hyn yn golygu dod â buddiannau niferus i bobl nawr ac yn y tymor hwy, gan helpu i atal effeithiau hinsawdd sy’n newid trwy gyfranogiad pobl a chydweithio ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector.

Treuliais amser cynhyrchiol iawn ym mis Rhagfyr yn y trafodaethau ar y Newid yn yr Hinsawdd ym Mharis.  Roedden ni’n rhan allweddol o ddirprwyaeth y DU, gan ddangos ein hymrwymiad clir o blaid Cymru sydd â chyfrifoldebau byd-eang.  Roedd y cytundeb y trawyd arno ym Mharis yn fwy uchelgeisiol na’r disgwyl ac yn drobwynt amlwg lle cytunodd holl wledydd y byd i ymrwymo at ddyfodol carbon isel cynaliadwy.  Bydd ein strategaeth effeithiolrwydd ynni newydd yn gyfraniad pwysig at ddatblygu Cymru carbon isel.  Lle rydym yn rheoli pethau, rydym wedi torri tir newydd.  Trwy Fil yr Amgylchedd (Cymru), bydd adnoddau Cymru’n cael eu rheoli mewn ffordd mwy proactif, cynaliadwy a chydgysylltiedig.  Mae’r Bil yn cyflwyno targedau strategol a chyllidebau carbon: bydd cynhyrchu ynni carbon isel ac arbed ynni yn elfennau allweddol.

Mae’r cynnydd yng nghost ynni wedi bod yn destun gofid mawr i bobl a busnesau Cymru yn y blynyddoedd diwethaf.  Gwn mai’r cam mwyaf uniongyrchol y gallwn ei gymryd at leihau biliau ynni pobl gyda’r pwerau sydd gennym yw trwy wneud adeiladau’n fwy ynni-effeithlon.

Mae’n bwysig gwneud tai teuluoedd incwm isel yn rhatach ar ynni, nid yn unig am ein bod am gael pobl i ddefnyddio llai o ynni a gostwng biliau ynni, ond hefyd am fod byw mewn cartref oer yn gwneud drwg i iechyd a lles pobl.

Gall cartrefi oer arwain at anhwylderau anadlu a’r perygl o drawiad y galon neu’r strôc, yn ogystal â chyfrannu at fwy o farwolaethau yn y gaeaf.

Gall poeni am filiau ynni arwain at fwy o stres a salwch meddwl.  Rydym yn gwybod hefyd bod rhai’n prynu llai fwyd neu hanfodion eraill er mwyn gallu talu’u biliau ynni, gan effeithio’n ddrwg eto ar eu hiechyd.  Mae hyn oll yn arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth ar aelwydydd isel eu hincwm a mwy o bwysau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae tlodi tanwydd a byw mewn cartref oer yn cael effaith ddrwg ar fwy nag iechyd a lles; maen nhw hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol os nad oes gan blant le cynnes tawel i astudio, neu os ydyn nhw’n colli ysgol yn amlach oherwydd salwch.  Mae pobl yn fwy tebygol o gael eu hallgau’n gymdeithasol am eu bod yn amharod i wahodd ffrindiau i gartref sy’n oer neu’n llaith.

Yn ogystal â darparu arian i’n pobl a chymunedau mwyaf bregus, rydym yn neilltuo arian i arbed ynni y gall y sector domestig ehangach, busnesau a’r sector cyhoeddus fanteisio arno.  Mae’r strategaeth newydd hon yn darparu gwybodaeth  am fecanweithiau ariannu heblaw grantiau i dalu am ffyrdd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon.  Mae’r strategaeth yn cydnabod bod dulliau gwahanol yn briodol ar gyfer grwpiau gwahanol ac mae’n sicrhau bod amrywiaeth o fecanweithiau cymorth ariannol gwahanol ar gael  fel sylfeini cadarn i dirwedd gyfnewidiol.

Mae gan y sector cyhoeddus ran amlwg i’w chwarae fel arweinwyr yng Nghymru.  Rwyf eisoes yn rhoi cefnogaeth i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gyflymu prosiectau arbed ynni ac i gymryd y risg oddi arnyn nhw.  Cyhoeddais yn ddiweddar mod i newydd sicrhau £1.5 miliwn gan Raglen ELENA Banc Buddsoddi Ewrop i helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Rydym wrthi nawr yn ceisio cynyddu’r cynnig all ddenu dros £30 miliwn o fuddsoddiad risg isel i arbed ynni dros y tair blynedd nesaf.

Byddai gwneud y sector cyhoeddus yn fwy ynni effeithlon yn rhyddhau adnoddau i’w gwario ar wasanaethau’r rheng flaen.  Ddoe, ymwelodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth a finne ag enghraifft wych o’r arbedion all gael eu gwneud. Gwelon ni sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi defnyddio nawdd gan Fuddsoddi i Arbed i osod goleuadau LED yn Ysbyty Plant newydd Cymru a thwneli tanddaearol o fewn prif adeilad Ysbyty Athrofaol Cymru.  Mae’r benthyciad o £252,000 wedi arbed £63,000 y flwyddyn gan olygu y bydd y prosiect wedi talu amdano’i hun ymhen pedair blynedd.

Bydd pennu cyfeiriad i Gymru a sicrhau effeithlonrwydd ynni a’r manteision cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol tymor hir y gall esgor arnyn nhw yn parhau’n flaenoriaeth imi.