Julie James, AS, Gweinidog Newid Hinsawdd
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Strategaeth y DU ar gyfer Diogelu Ynni.
Cyhoeddir y strategaeth yn ystod argyfwng costau byw ac er apelio’n daer dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i helpu’r rheini sydd fwyaf tebygol o ddioddef oherwydd prisiau ynni uchel, nid yw’r strategaeth yn gwneud unrhyw beth i helpu’r bobl. Yn hytrach, mae perygl i’r strategaeth glymu’r DU i ddibynnu ar danwyddau ffosil gan roi beichiau ariannol trwm ar genedlaethau’r dyfodol er bod opsiynau rhatach ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr.
Mae blynyddoedd o bolisi ynni disymud ar lefel y DU wedi’n gadael yn agored i hyrddiau yn y prisiau rhyngwladol. Mae’r strategaeth ddeng mlynedd yn rhy hwyr i aelwydydd a busnesau ac nid oes ganddi’r ehangder sydd ei angen i daclo’r argyfwng costau byw na’r argyfwng hinsawdd.
Pe bai Llywodraeth y DU wedi cymryd camau eofn i inswleiddio’n cartrefi a busnesau, cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a mwy o wahanol fathau ohono, a defnyddio technoleg glyfar, byddem ar drywydd system ynni lân a sicr. Pan roedd angen i’r DU gynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy, yr hyn wnaeth y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain oedd torri’r cymorthdaliadau fu mor effeithiol i gefnogi technolegau newydd, gosod rhwystrau i ynni gwynt ar y tir pan roedd costau ei gynhyrchu’n cwympo a pheidio â buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o dechnolegau a fyddai wedi sicrhau’r capasiti sylfaenol yr oedd ei angen pan fyddai cynhyrchiant ffurfiau traddodiadol o ynni adnewyddadwy’n isel.
Â’r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn cadarnhau’r wythnos hon bod angen gweithredu ar fyrder i leihau allyriannau, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gloddio am fwy o danwyddau ffosil. Mae hynny’n amhosibl ei gyfiawnhau. Ni fyddai’r llywodraeth sy’n onest ynghylch ei hymrwymiad i sero net yn gallu ystyried opsiynau i gloddio am danwyddau ffosil newydd. Byddwn yn parhau i wrthwynebu unrhyw gynlluniau i godi tanwydd ffosil yng Nghymru, bydd ein gwrthwynebiad i ffracio yn parhau a byddwn yn cefnogi’r symudiad i roi’r gorau i ddefnyddio tanwyddau ffosil cyn gynted ag y bydd yn ymarferol gwneud hynny.
Yn hytrach na pharau i ddibynnu ar danwyddau ffosil, dylai’r strategaeth fod wedi creu’r amodau ar gyfer ehangu cynlluniau ynni adnewyddadwy a sicrhau’r hyblygrwydd sydd ei angen i gyrraedd sero net.
Mae’r strategaeth yn ddiffygiol yn hyn o beth. Unwaith eto, nid yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar y cyfle i gynyddu ynni gwynt ar y tir. Mae manteision mawr o ran costau i’r math hwn o ynni o’i gymharu â’r rhan fwyaf o ffurfiau ynni eraill. Mae Llywodraeth y DU felly wedi anwybyddu anghenion defnyddwyr trwy beidio ag ystyried un o’r ffynonellau ynni gwyrdd rhataf, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar anghenion ASau Ceidwadol ei meinciau cefn. Yma yng Nghymru, byddwn yn parhau i helpu i fuddsoddi mewn ynni gwynt ar y tir trwy weithio gyda chymunedau i gynyddu gwerth economaidd a chymdeithasol y cynlluniau hynny, gan gynnwys defnyddio cynlluniau ynni gwynt newydd i ostwng biliau ynni domestig.
Mae’n destun siom aruthrol nad yw Llywodraeth y DU wedi cydnabod potensial adnoddau’r llanw i gynhyrchu ynni adnewyddadwy rhagweladwy. Mae’r ddadl dros dechnoleg ynni amrediad y llanw eisoes wedi’i phrofi, yn fwyaf diweddar yn adolygiad Hendry yn 2017. Er hynny, nid yw Llywodraeth y DU wedi creu strategaeth glir ar gyfer cefnogi’r dechnoleg hon sydd â’r potensial i ddiwallu cyfran arwyddocaol o’n hanghenion sylfaenol pan fydd ynni gwynt a haul yn isel.
Un agwedd ar y pwnc rydym yn cytuno â Llywodraeth y DU arni yw gwynt y môr. Mae yna botensial aruthrol o gwmpas arfordir Cymru ac rydym am weld polisi sy’n cefnogi cynhyrchiant newydd sydd hefyd yn parchu amgylchedd ein moroedd. Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod ein cyfrifoldebau datganoledig trwy’r systemau trwyddedu a chydsynio amgylcheddol a gweithio gyda ni i sicrhau’n bod yn cydbwyso anghenion yr argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd. Gall buddsoddi newydd ddod â manteision aruthrol i’n heconomi a’n cymunedau. Rydym am i borthladdoedd Cymru a diwydiant Cymru fod yn greiddiol i chwyldro diwydiannol newydd a sicrhau bod y buddsoddi yn ein harfordir yn esgor ar y manteision lleol mwyaf posibl. Byddaf yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatblygu strategaeth gwynt y môr i sicrhau y daw’r buddsoddi sydd ar y gweill â’r gorau posibl i’r economi ac i’n cymunedau yng Nghymru gan gynnwys y cyfleoedd i gynhyrchu hydrogen gydag ynni gwynt y môr.
Rydym hefyd am weithio’n adeiladol ar botensial economaidd ynni niwclear yng Nghymru. Cawsom ddoe beth eglurder ynghylch cyfeiriad polisi ynni niwclear at y dyfodol, ac rydym yn croesawu’r arian newydd i helpu i sbarduno cynigion newydd. Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi’r ysgogiad sydd fawr ei angen ar brosiectau yn Wylfa a Thrawsfynydd. Ond ar ôl methu yn y gorffennol â denu buddsoddiad yn y Gogledd, rhaid i Lywodraeth y DU ailennyn ffydd ein cymunedau a’r diwydiant. Gwnaethon ni sefydlu partneriaeth lwyddiannus i ystyried yr achos o blaid buddsoddi o’r newydd yn Wylfa ac mae Cwmni Egino, y cwmni datblygu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu safle Trawsfynydd, eisoes mewn sefyllfa dda i ddatblygu cynlluniau ynni niwclear bach. Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni i gydweithio â phartneriaid lleol ac â’r strwythurau rydym wedi’u sefydlu i fynd â’r cynigion ynni niwclear yn eu blaen yn y Gogledd.
Gwnaed y datganiad hwn yn ystod y toriad i ymateb i gyhoeddiad pwysig gan Lywodraeth y DU. Bydd Gweinidogion yn fwy na pharod i roi datganiadau pellach i’r Senedd os bydd angen.