Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gadarnhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn ymestyn y ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol (PPE) am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Wedi’r ymateb cychwynnol i’r pandemig, cytunwyd ar drefniant ffurfiol ym mis Medi 2020 er mwyn darparu cyfarpar diogelu personol am ddim i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaethpwyd hyn drwy gytundeb lefel gwasanaeth rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Yn ddiweddarach, adnewyddwyd y cytundeb lefel gwasanaeth ar yr un telerau ac amodau, ac ar gyfer cyfnod dan gytundeb o 1 Medi 2021 tan 31 Mawrth 2022. Mae’r cytundeb lefel gwasanaeth yn cael ei adnewyddu unwaith eto, ar yr un telerau ac amodau ac ar gyfer cyfnod dan gytundeb o 1 Ebrill 2022 tan 31 Mawrth 2023.

Mae sicrhau cyfarpar diogelu personol am ddim i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol cyhyd ag y bo angen i’w cynorthwyo i ddelio â’r pandemig yn un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu. Bydd parhad y cytundeb lefel gwasanaeth yn rhoi sicrwydd i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol y byddwn yn parhau i’w cefnogi â chyfarpar diogelu personol am ddim dros y flwyddyn nesaf.

Gall ein cydweithwyr yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a chyhoeddus fod yn hyderus bod ein sefyllfa o gyflenwad cyfarpar diogelu personol yn parhau i fod yn sefydlog. Drwy gydol y gaeaf, gofynnwyd i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sicrhau cyflenwad wrth gefn o gyfarpar diogelu personol nad yw’n llai na 16 wythnos o gyflenwad. Mae hyn yn seiliedig ar y raddfa ddosbarthu ar frig y pandemig.

Rydym yn parhau i gydweithio’n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gadw golwg ac adolygu’r canllawiau atal a rheoli heintiau er mwyn sicrhau’r defnydd priodol o gyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r canllawiau diweddaraf ar gael ar: Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU