Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymdeithas, a'r gofal y maent yn ei ddarparu i'w teulu a'u ffrindiau. Cafodd ein strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl ei chyhoeddi yn 2021, ac mae'r ddogfen yn nodi ein hymrwymiadau a'n blaenoriaethau gweithredu. Rydym yn bwriadu adolygu'r strategaeth yn 2025.
Mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Ofalwyr Di-dâl yn goruchwylio'r gwaith a gyflawnir o dan y strategaeth. Mae aelodau'r grŵp hwn yn cynrychioli sefydliadau gofalwyr cenedlaethol, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, rheoleiddwyr, swyddfeydd y Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn, ac ymchwilwyr, ac mae hefyd yn cynnwys unigolion sy'n ofalwyr di-dâl.
Rydym wedi gweithio’n galed i gyflawni yn erbyn ein strategaeth bresennol, gan gynnwys y canlynol:
- Bydd ein cynllun seibiannau byr gwerth £9 miliwn yn darparu 30,000 o seibiannau ar gyfer gofalwyr di-dâl erbyn 31 Mawrth 2025.
- Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr gwerth £4.5 miliwn yn darparu 15,000 o grantiau bach ar gyfer cymorth ariannol brys erbyn 31 Mawrth 2025.
- Bydd Carer Aware a rhaglenni a ariennir eraill yn cefnogi gofalwyr, yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol, ac yn sbarduno newidiadau diwylliannol er budd gofalwyr di-dâl.
- Rhoddir £1 miliwn i fyrddau iechyd i gefnogi gofalwyr di-dâl pan fo’n unigolyn y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu ei ryddhau o’r ysbyty.
Mae'r grŵp wedi adolygu ein blaenoriaethau ar gyfer gweithredu yn 2025/26, gan nodi y gellir darparu ar eu cyfer o fewn pedair blaenoriaeth gyffredinol y strategaeth bresennol. Mae ein gweithgarwch ymgysylltu â gofalwyr, ac adroddiadau a gynhyrchwyd gan Gofalwyr Cymru, yn adlewyrchu profiadau a safbwyntiau gofalwyr sydd hefyd yn cyd-fynd â'r strategaeth hon.
Ym mis Hydref, ysgrifennodd y Prif Weinidog at aelodau'r Cabinet yn ein hannog i ganolbwyntio ein hadnoddau ar gamau gweithredu sy'n ysgogi gwelliannau uniongyrchol i bobl Cymru. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer rhoi cymorth wedi'i dargedu i ofalwyr yn 2025/26 yn cyd-fynd â'r strategaeth bresennol, ac felly rwyf wedi penderfynu y byddai'n fwy buddiol targedu adnoddau i ddatblygu cynllun cyflawni blynyddol cadarn ar gyfer 2025/26, yn hytrach na defnyddio ein hadnoddau i gynnal adolygiad llawn. Bydd hyn yn adnewyddu ein dull gweithredu strategol. Byddwn yn cynnal adolygiad llawn o'r strategaeth genedlaethol yn nes ymlaen yn 2025, a bydd ar waith erbyn mis Ebrill 2026.