Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth sy'n diwallu anghenion ein cymuned Gwasanaethau Arfog. Fel rhan o'n cefnogaeth rydym yn benderfynol o ddarparu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar gyn-filwyr i addasu i fywyd y tu allan i'r Lluoedd Arfog neu i helpu i ddelio ag effeithiau gwasanaeth sy'n newid yn aml

Yn ddiweddar, fe wnes i fynychu Bwrdd y Cyfamod a Chyn-filwyr Gweinidogol lle cytunom, ynghyd â Gweinyddiaethau eraill y DU, i gefnogi Strategaeth Cyn-filwyr newydd. Mae'r Strategaeth honno wedi'i chyhoeddi heddiw ac rwyf wedi gosod copi yn y Cynulliad.

Mae'r Strategaeth yn cydnabod bod pob gwlad yn y DU yn wahanol a bydd y ddarpariaeth yn edrych yn wahanol ym mhob rhan o'r wlad. Fodd bynnag, mae'r Strategaeth yn cadarnhau, pob rhan o ymrwymiad y DU i gyflawni gweledigaeth a rennir a'r canlyniadau gorau i'n Cyn-filwyr.

Gellir dod o hyd i copi o'r Strategaeth, wedi ei gyhoeddi yn y Gymraeg a Saesneg, ar:

www.llyw.cymru/cefnogiylluoeddarfog