Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Roedd cyhoeddi’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn Ebrill 2010 yn garreg filltir bwysig yn hanes datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Am y tro cyntaf, datganodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i osod cyfeiriad strategol genedlaethol i gynllunio a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Roedd hefyd yn nodi’n glir yr angen i wella addysgu a dysgu Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Mae’n bleser gen i gyhoeddi’r bumed adroddiad blynyddol ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod 2014-15, sydd yn cyd-fynd â chyhoeddiad yr Adroddiad Blynyddol ar y Strategaeth Iaith. Nid oes dadlau bod rôl allweddol bwysig gan y system addysg wrth sicrhau dyfodol yr iaith. Y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sydd wedi sicrhau’r cynnydd mwyaf yn y nifer o bobl ifanc sy’n rhugl ac yn hyderus eu sgiliau iaith yn y Gymraeg.
Wrth i gyfnod y Strategaeth ddirwyn i ben, hoffwn edrych yn ôl dros y cyfnod pum mlynedd o weithredu’r Strategaeth, gan ganolbwyntio ar y prif gamau a gymerwyd i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru. Roedd sefydlu prosesau cynllunio ar draws yr holl gyfnodau addysg a hyfforddiant yn rhan greiddiol o’r Strategaeth. Y prif ddatblygiad yn hyn o beth oedd gosod Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar sail statudol.
Mae gofyn i awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach gyflwyno cynlluniau blynyddol i Lywodraeth Cymru, gan nodi pa ddarpariaeth fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu yn 2011, ac yn gweithio’n effeithiol gyda’r Prifysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ystod eang o bynciau.
Yr her yn awr yw sicrhau bod yr holl brosesau cynllunio newydd yn gwreiddio ac yn cael eu gweithredu a’u gwireddu. Mae angen i awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a’n partneriaid eraill chwarae eu rôl.
Pan gyhoeddwyd y Strategaeth, pennwyd pum deilliant a thargedau meintiol fel dull o fesur cynnydd. Mae’n siomedig i nodi nad yw’r holl dargedau wedi’u cyrraedd. Serch hynny, mae cynnydd wedi bod yn erbyn pedwar ohonynt, ac mae’r nifer uchaf erioed o blant saith oed yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.
Rydym wedi comisiynu gwerthusiad o’r Strategaeth, a gobeithiwn gyhoeddi’r adroddiad terfynol, sydd yn benllanw ar dair mlynedd o ymchwil, yn yr hydref. Byddwn wedyn yn mynd ati i adolygu’r Strategaeth a’r targedau cyn pennu’r cyfeiriad ar gyfer y cyfnod nesaf o weithredu.
Ni all Llywodraeth Cymru wireddu ein dyhead i weld addysg cyfrwng Cymraeg yn parhau i dyfu a gweithredu’r newid sydd ei angen i wella safonau mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg ar ei phen ei hun. Bydd angen mewnbwn ac arbenigedd gan ymarferwyr ac arweinwyr y sector wrth i ni roi’r cynlluniau hyn ar waith. Byddwn hefyd yn mynd ati o ddifri i weddnewid y modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu yn yr ysgolion cyfrwng Saesneg er mwyn rhoi’r cyfle gorau i bob plentyn yng Nghymru gaffael yr iaith. Bydd hyn yn cyfrannu at wireddu ein gweledigaeth yn y Strategaeth Iaith, Iaith fyw: iaith byw i weld y Gymraeg yn ffynnu.
Rydym yn cychwyn ar gyfnod cyffrous iawn ar gyfer addysg yng Nghymru, a bydd yr iaith Gymraeg yn rhan greiddiol o’r newidiadau i’r gyfundrefn addysg.