Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 – 2016

Roedd cyhoeddi’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn 2010 yn garreg filltir hanesyddol yn natblygiad addysg cyfrwng Cymraeg. Heddiw, mae’n bleser gen i gyhoeddi’r pedwerydd adroddiad blynyddol ar y Strategaeth, sydd yn nodi’r cynnydd a wnaed yn ystod 2013-14.

Rwy’n falch o allu datgan bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i weithredu’r holl gamau y’u clustnodwyd ar ein cyfer yn Rhaglen Weithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg. Roedd nifer o’r camau yn golygu cyflwyno polisïau newydd neu gyflwyno dulliau newydd o gynllunio, tra bod eraill yn ymwneud â datblygu ac ariannu prosiectau penodol i wella rhai elfennau o’r system addysg a hyfforddiant.

Hoffwn dynnu sylw at rai o’r prif ddatblygiadau dros y flwyddyn ddiwethaf, sef:

  • cyflwyno Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013 a derbyn y cynlluniau statudol cyntaf
  • rhannu data am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar er mwyn hwyluso’r broses o gynllunio addysg statudol
  • cyflwyno gofynion penodol ar ddarparwyr hyfforddiant yn seiliedig ar waith fel rhan o’r tendr ar gyfer pennu darparwyr
  • cyflwyno rhaglen o hyfforddiant iaith i ymarferwyr yn y sector gofal plant
  • ymestyn y Cynllun Sabothol i gynnwys cynorthwywyr dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • derbyn argymhellion y grŵp adolygu Cymraeg i Oedolion a chychwyn ar y gwaith o’u gweithredu
  • cyhoeddi 160 o adnoddau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gefnogi’r dysgu ac addysgu
  • lansio ymgyrch farchnata a chyfathrebu tair blynedd i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.

Fe wnaethom gydnabod yn agored y llynedd nad ydym yn debygol o gyflawni’r holl dargedau’r strategaeth erbyn 2015. Fodd bynnag, mae’n dda gallu nodi bod cynnydd pellach i’w weld yn erbyn rhai o’r targedau, a bod y targed i gynyddu nifer y dysgwyr 16–19 oed sy’n astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn colegau addysg bellach neu ddysgu seiliedig ar waith bellach wedi’i gyflawni. Fodd bynnag, mae dilyniant ieithyddol rhwng cyfnodau allweddol yn parhau i fod yn achos pryder a bydd Llywodraeth Cymru yn annog yr awdurdodau lleol i roi sylw pellach i hyn yn ystod y flwyddyn nesaf. Yn ogystal, mae nifer y myfyrwyr sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch wedi gostwng ers cyhoeddi’r strategaeth. Gobeithir y bydd y cynlluniau i ddiwygio’r manylebau Safon Uwch yn helpu i liniaru’r gostyngiad hwn i’r dyfodol.

Wrth i ni droi ein golygon at y flwyddyn olaf o Raglen Weithredu’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, yr her yw sicrhau bod y consortia rhanbarthol, awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, prifysgolion, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a’n partneriaid eraill (megis cyrff dyfarnu, cyhoeddwyr a mudiadau Cymreig) yn chwarae eu rôl. Ni all Llywodraeth Cymru wireddu’r newid systematig sydd ei angen i sicrhau bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn parhau i ffynnu ar ei ben ei hun. Mae angen i'n rhanddeiliaid ar bob haen o’r system weithredu er mwyn sicrhau bod amcanion y Strategaeth yn cael eu 
cyflawni.