Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

O heddiw (25 Mehefin) ymlaen, bydd pobl yng Nghymru yn gallu dangos eu statws brechu ar y rhyngrwyd drwy Bàs COVID digidol y GIG os oes gwir angen iddynt deithio ac os ydynt yn bodloni’r gofynion brechu ar gyfer y wlad y maent yn teithio iddi. Mae Pàs COVID y GIG ar gael yma: www.llyw.cymru/manteisiwch-ar-bas-covid-y-gig-i-ddangos-eich-statws-brechu-er-mwyn-teithio.

Mae Pàs COVID y GIG yng Nghymru yn golygu y bydd pobl yn gallu dangos tystiolaeth o’u statws brechu ar eu ffôn, eu llechen neu eu gliniadur a dylai hwn fod y dewis diofyn ar gyfer pawb sydd angen tystiolaeth o’u statws brechu pan fyddant yn teithio’n rhyngwladol.

Mae Pàs COVID y GIG wedi bod ar gael ar ffurf llythyr yng Nghymru ers mis Mai i bobl sydd wir angen teithio’n rhyngwladol. Mae’n profi eu statws brechu drwy dystysgrif sy’n cael ei hanfon atynt yn y post. Hyd yma, gwnaed cais am bron i 15,000 ohonynt. Bydd y llythyrau yn parhau i fod ar gael ond dim ond i bobl na all gael at y Pàs digidol drwy Wasanaeth Ardystio Brechiadau Cymru, sy’n cael ei gynnal gan dîm olrhain cysylltiadau Cyngor Abertawe. Gall pobl wneud cais am Bàs COVID y GIG dwyieithog ar ffurf llythyr drwy ffonio 0300 303 5667.

Nid yw Ap y GIG a ddefnyddir yn Lloegr ar gael i bobl ei ddefnyddio yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gwaith ar y gweill i gyfuno systemau Ap y GIG yn Lloegr a Chymru er mwyn i bobl yng Nghymru fedru ei ddefnyddio.

I ddechrau, dim ond yn Saesneg y bydd y Pàs COVID ar gael tra bydd y gwasanaeth dwyieithog yn cael ei ddatblygu. Bydd Gwasanaeth Ardystio Brechiadau Cymru yn parhau i gynnig gwasanaeth dwyieithog.

Nid yw ein cyngor wedi newid. Rydym yn annog pobl i beidio â theithio dramor oni bai ei fod yn gwbl hanfodol.