Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy llythyr 6 Hydref hysbysais Aelodau am y cynlluniau gan Southern Cross Healthcare  Ltd i drosglwyddo pob un o’i gartrefi gofal yn y DU i ddarparwyr amgen ac amgaeaf gopi o’r datganiad gan y cwmni ynghylch hyn.
 
Drwy gydol y broses hon byddwch yn gwybod mai preswylwyr y cartrefi yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt fu pwysicaf i mi. Rwyf yn falch o allu cadarnhau felly fod pob un o 33 cartref gofal y cwmni yng Nghymru wedi’i drosglwyddo a’i gofrestru yn llwyddiannus gyda  darparwyr yn unol â’r amserlen. O ganlyniad, mae preswylwyr y cartrefi hyn wedi cael parhad o ran eu gofal yn unol â’r bwriad ac nid yw eu lleoliadau wedi bod mewn perygl. Newyddion i’w croesawu yw hyn.

Bydd cyn gartrefi gofal Southern Cross yng Nghymru bellach yn cael eu gweithredu gan bedwar darparwr amgen, sef HC One (gyda 23 o gartrefi), Four Seasons (Rhif 9) (gyda 7 cartref), Adiemus (gyda 2 gartref) a Handsale (gydag 1 cartref). Bu’n rhaid i’r darparwyr hyn ddangos eu bod yn gallu bodloni’r meini prawf llym ar gyfer cofrestru i ddarparu  gwasanaethau a bennir gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a’r rheoliadau a wneir o dan y ddeddf hon ar gyfer cartrefi gofal. Bu’n rhaid i’r darparwyr ddangos hefyd eu bod yn gallu cynnal y gwasanaethau hyn at y dyfodol. Mae’r asesiadau a wnaed gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) i sicrhau hyn wedi bod yn gadarn. Bu’n rhaid i’r darparwyr amgen ddangos eu hyfywedd ariannol a gweithredol i weithredu’r cartrefi hyn, gyda’u ceisiadau’n cael eu hasesu’n drylwyr gan dîm penodedig yn AGGCC gyda chymorth gan yr Adran  Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS). Mae eu hymdrechion yn hyn o beth wedi bod yn helaeth ac yn amhrisiadwy ac rydym yn eu gwerthfawrogi’n fawr. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd  AGGCC yn parhau i fonitro ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn y cartrefi hyn yn y misoedd i ddod er mwyn sicrhau bod y gofal a ddarperir o safon uchel.

Er bod y sefyllfa hon yn rhoi mwy o sicrwydd i breswylwyr a’u teuluoedd yng Nghymru, rwyf yn cydnabod bod yna faterion ehangach o hyd mewn perthynas â Southern Cross. Mae nifer o gartrefi yn dal heb gael eu trosglwyddo a’u cofrestru yn Lloegr ac yn yr Alban. Mae’r awdurdodau yng Nghymru’n monitro sefyllfa eu preswylwyr sy’n cael eu gosod yn y cartrefi hyn. Yn ogystal mae profiad Southern Cross wedi codi cwestiynau pwysig o safbwynt comisiynu a rheoleiddio gwasanaethau. Fel rhan o’n gwaith i ddiwygio gwasanaethau cymdeithasol byddwn yn archwilio pa gamau y mae angen eu cymryd i feithrin dealltwriaeth well o risg masnachol a pha newidiadau y mae angen eu gwneud mewn perthynas ag arferion comisiynu a’r fframwaith rheoleiddio i reoli hyn.  Rydym yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU ac â gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch y materion ehangach hyn.