Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r datganiad hwn yn cael ei ryddhau yn ystod toriad yr haf er mwyn hysbysu’r Aelodau. Byddaf yn barod iawn i gyflwyno datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad Cenedlaethol ddychwelyd pe bai’r Aelodau’n dymuno i mi wneud hynny.
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 12 Gorffennaf, dywedais wrth yr Aelodau fod Southern Cross wedi cyhoeddi bod masnachu yn ei gyfranddaliadau wedi’i atal ac y byddai’r broses ailstrwythuro yn golygu bod gweithrediad holl gartrefi gofal y cwmni yn cael ei drosglwyddo i’w landlordiaid a darparwyr gofal eraill. Roedd hyn yn cynrychioli cyfnod yn y broses barhaus, a gytunwyd rhwng y cwmni, ei landlordiaid a benthycwyr, ar gyfer ailstrwythuro cydsyniol a diddyled. Mae trafodaethau’n parhau i ddatrys y camau sy’n weddill.
Cafwyd cyhoeddiad pellach ar 18 Gorffennaf gan un o landlordiaid Southern Cross, NHP Health Care, sydd berchen ar y rhan fwyaf o’r cartrefi gofal yng Nghymru a effeithiwyd. Cadarnhaodd NHP ei fod wedi cadw oddeutu £14m o daliadau llog ar fenthyciad er mwyn gwneud darpariaeth ar gyfer gofynion cyfalaf gweithio cwmni newydd y mae NHP yn disgwyl iddo ymddangos ar ddiwedd y broses gydsyniol bresennol o ailstrwythuro. Nododd NHP bod Court Cavendish, yr arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cynghori NHP, wedi derbyn yn amodol y gwahoddiad i ymuno â NHP i sefydlu’r cwmni gweithredol newydd hwn. Datganodd NHP ei fod, ar ddiwedd y cyfnod trosglwyddo pedwar mis a gytunwyd, yn bwriadu creu cwmni gweithredol newydd gyda Court Cavendish er mwyn gosod ei 249 o gartrefi yn y DU ar sylfaen ariannol cadarn, ac i ddarparu sicrwydd a dilyniant mewn gofal. Bydd y cwmni newydd hwn yn parhau i ddibynnu ar staff presennol Southern Cross, sy’n rheoli 249 o gartrefi (gan gynnwys cartrefi yng Nghymru) a’r gwasanaethau cefn swyddfa a ddarperir gan seilwaith presennol Southern Cross i sicrhau dilyniant mewn gofal a pharhad gweithrediadau.
Ni fydd y cyhoeddiad diweddaraf hwn yn cael unrhyw effaith ar unwaith ar y ddarpariaeth ofal nac ar weithrediad cartrefi gofal. Mae Southern Cross yn parhau mewn busnes a bydd yn parhau i redeg pob un o’i gartrefi gofal hyd nes y bydd trosglwyddiadau i weithredwyr newydd wedi digwydd. Deallwn y disgwylir i’r broses hon fod wedi’i chwblhau erbyn diwedd mis Hydref. Mewn trafodaethau â’r cwmni, pwysleisiwyd y dylai pob un o’r partïon amlinellu eu cynlluniau mor gyflym â phosibl, er mwyn rhoi sicrwydd i breswylwyr a’u teuluoedd. Bydd y cwmni’n rhyddhau adroddiadau cynnydd wrth i’r trefniadau hyn gael eu cwblhau. Hysbyswyd ni y bydd trosglwyddo cartrefi gofal Southern Cross i ddwylo gweithredwyr gofal eraill yn broses a fydd yn cael ei rheoli, gan sicrhau dilyniant mewn gofal i breswylwyr. Mae Southern Cross wedi tynnu ei rybudd diswyddo statudol yn ôl, gan wneud ymrwymiad i staff cartrefi gofal y byddant yn trosglwyddo i ddwylo gweithredwyr newydd ar eu telerau presennol.
Rwyf am ei gwneud yn eglur na fydd unrhyw drosglwyddo cartrefi yn digwydd heb i weithredwyr newydd fod wedi’u cymeradwyo a’u cofrestru gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Mae’r gofynion statudol yn mynnu y bydd yn rhaid i unrhyw weithredwyr amgen fod ag enw da ac yn brofiadol fel darparwyr gofal, ac yn gallu bodloni AGGCC eu bod yn abl i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac i fodloni’r holl safonau rheoleiddio. Bydd trafodaethau rhwng AGGCC ac NHP a’r gweithredwyr newydd arfaethedig yn mynd rhagddynt. Bydd yn ofynnol iddynt hwy, ac unrhyw ddarparwyr newydd eraill nad ydynt ar hyn o bryd wedi’u cofrestru gydag AGGCC, gyflwyno cais newydd i gofrestru i ddarparu gofal. Bydd y cais yn agored i’w graffu arno’n llawn cyn pennu addasrwydd i ddarparu gwasanaeth. Prif gonsýrn AGGCC yw diogelwch defnyddwyr gwasanaeth, ac nid yw’n fodlon cyfaddawdu ar y safonau sy’n ofynnol. Mae swyddogion yn cadw mewn cysylltiad agos ag uwch reolwyr Southern Cross a hefyd â Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn sicrhau bod cynlluniau effeithiol wrth gefn wedi’u sefydlu.
Gofynnwyd i mi a wyf yn ystyried y mesurau angenrheidiol sydd angen eu cymryd er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg rhag codi eto. Ystyrir opsiynau ar gyfer rheoleiddio ariannol neu fesurau eraill yn rhan o ddatblygiad y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol arfaethedig.
Gall fod datblygiadau pellach dros gyfnod toriad yr haf yng nghyswllt trosglwyddo cartrefi Southern Cross yng Nghymru i ddwylo gweithredwyr newydd. Byddaf yn sicrhau bod Aelodau’n cael gwybod am unrhyw gynnydd neu newid arwyddocaol yn y broses honno.
Mae mesurau diogelu clir wedi’u sefydlu yn wyneb y sefyllfa yng nghyswllt Southern Cross. Ni fydd unrhyw breswylwyr, boed wedi’u hariannu’n gyhoeddus neu’n eu hariannu eu hunain, yn cael eu gadael heb gartref neu heb ofal. Mewn argyfwng, mae gan awdurdod lleol bwerau i ddarparu llety preswyl i unrhyw un sydd ag angen brys amdano. Byddai awdurdod lleol yn parhau i ddarparu gofal i unrhyw breswylwyr sy’n eu hariannu eu hunain ac yn methu â dod o hyd i ofal neu’n methu â threfnu gofal drostynt eu hunain.