Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig dyddiedig 25 Gorffennaf, rhoddais wybod i Aelodau am y cynnydd a wnaed o ran ailstrwythuro Southern Cross Healthcare Ltd a'r bwriad i drosglwyddo pob un o'i gartrefi gofal i ddarparwyr gofal amgen. Drwy gydol y broses hon prif bryder Llywodraeth Cymru fu lles pob preswylydd yr effeithir arno gan y gwaith ailstrwythuro. 

Dros yr haf mae swyddogion wedi bod mewn cysylltiad agos ag uwch reolwyr Southern Cross. Dywedwyd wrthym fod landlordiaid Southern Cross wedi bod yn gweithio gyda phedwar darpar ddarparwr a rhyngddynt, maent bellach wedi dangos diddordeb mewn gweithredu pob un o'r 33 o gartrefi gofal yng Nghymru.

Mae nifer o gamau y mae angen eu cymryd o hyd cyn y gellir trosglwyddo'r cartrefi hyn. Mae angen i gytundebau gael eu llofnodi rhwng Southern Cross a'r darpar ddarparwyr er mwyn trosglwyddo ei fusnes a'i asedau ym mhob cartref iddynt, ac mae angen ymgynghori â staff o dan reoliadau TUPE. Rhoddwyd gwybod inni fod y camau hyn ar y gweill.

Er mwyn gweithredu, rhaid i'r darpar ddarparwyr sicrhau eu bod yn cofrestru eu gwasanaethau ag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC). Bydd hyn yn sicrhau y gallant ddarparu gwasanaethau cynaliadwy o safon uchel.  Yn ogystal, bydd angen iddynt ddangos eu hyfywedd ariannol i weithredu eu cartrefi.  Mae cofrestru’n gam hollbwysig, ac mae gan y darparwyr newydd ddyletswydd i ddangos eu bod yn gallu cyrraedd y safonau gofal sy’n gyreithiol ofynnol, a’r gallu i gynnal y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.

Mae cynlluniau wrth gefn i ymateb i unrhyw ddigwyddiadau andwyol yn parhau i gael eu cynnal yn lleol gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru hefyd wedi cynnal dau weithdy i awdurdodau a byrddau iechyd rannu arfer gorau o ran y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau hyn a hefyd i gyfarfod â chynrychiolwyr o'r darpar ddarparwyr gofal amgen.