Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol, gofynnais gwestiynau am y trefniadau presennol sy'n galluogi rhieni i atal eu plant rhag astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Rhyw (oni bai eu bod yn rhan o raglen astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol). 

Ein gweledigaeth yw sefydlu system addysg gwbl gynhwysol lle mae gan bob dysgwr gyfle teg i gael addysg sy'n diwallu ei anghenion ac yn ei alluogi i gymryd rhan mewn dysgu, cael budd ohono a'i fwynhau.

Mae Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn bynciau statudol o fewn y cwricwlwm presennol.  Rydym yn cynnig y bydd y pynciau hyn yn parhau i fod yn statudol o fewn fframwaith newydd Cwricwlwm i Gymru 2022.

Drwy Addysg Grefyddol mae dysgwyr yn archwilio'r amrywiaeth o gredoau ysbrydol, athronyddol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn eu cymuned, ledled Cymru ac ym mhedwar ban byd. Rwy'n cynnig newid enw Addysg Grefyddol i “Crefyddau a Bydolygon”, sy'n adlewyrchu ymarfer addysgu yn y cwricwlwm newydd yn briodol, ac yn galluogi dysgwyr i archwilio amrywiaeth o gredoau crefyddol ac athronyddol, yn ogystal â chredoau eraill a bydolygon eraill, gan gynnwys bydolygon anghrefyddol.

Fel llywodraeth rydym yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc, drwy addysg y wladwriaeth, yn gallu dysgu mewn ffordd sy'n eu helpu i feithrin gwybodaeth am eu cymunedau a'u gwlad eu hunain, yn ogystal â gwybodaeth, empathi a dealltwriaeth o wahanol bobl, diwylliannau a chymunedau.

Mae deall eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill yn bwysig er mwyn cyflawni dibenion y cwricwlwm newydd.  Dylai plant allu cael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n eu galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas – byd sy'n newid ac yn datblygu'n gyson ac sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni a'u rhieni ein magu ynddo.

Rhaid i'r holl ddysgu ac addysgu fod yn ddatblygiadol briodol.  Rhaid i'r hyn y bydd plant yn ei ddysgu gael ei egluro i'w rhieni, a dylai fod yn hawdd i'r rhieni drafod y rhan hon a rhannau eraill o'r cwricwlwm ag ysgolion. 

Bydd y dysgu a'r addysgu ym mhob ysgol yn gallu defnyddio fframwaith y byddwn yn ei ddarparu yn y canllawiau a dylent adlewyrchu'r gymuned (a'r wlad) y mae'r ysgol yn ei gwasanaethu.

Rwy'n awyddus i sicrhau ei bod yn ofynnol i bob plentyn a pherson ifanc astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd, yn hytrach na pharhau â'r anomaledd y gall rhieni benderfynu atal eu plant rhag mynychu'r gwersi craidd penodol hyn. 

Felly, rwy'n lansio ymgynghoriad heddiw sy'n ceisio barn ar oblygiadau ymarferol newid o'r fath.  Dyma gyfle i rieni, athrawon, pobl ifanc a rhanddeiliaid helpu i lywio'r maes pwysig hwn yn y cwricwlwm.   

Drwy wneud hyn, rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni weithio gyda rhieni a gofalwyr.  Byddwn yn parchu eu barn ac yn ystyried sut y gallwn daro cydbwysedd rhwng hawliau rhieni i feithrin eu plant, gofalu amdanynt a'u harwain wrth iddynt dyfu'n oedolion, a chyflawni ein dyletswydd i ddarparu addysg eang a chytbwys er mwyn i blant ddatblygu'n ddinasyddion modern a llawn, yn ogystal â gwasanaethu er budd y cyhoedd.