Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n bleser gennyf eich hysbysu bod ein hadolygiad o roi systemau draenio cynaliadwy, neu SDCau, ar waith wedi cael ei gyhoeddi. Mae ein partneriaid datblygu a chyflenwi tai, gan gynnwys awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr, wedi bod yn aros yn awyddus am yr adolygiad hwn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lunio'r adroddiad hwn. Mae'r gwaith ar SDCau yn enghraifft o'n dull Tîm Wales o weithredu lle rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector cymdeithasol a'r sector preifat, i gael gwared ar rwystrau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer atebion sy'n seiliedig ar natur a seilwaith gwyrdd.
Mae ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud fel llywodraeth. Gwnaethom ymrwymo i adolygu'r ffordd roedd deddfwriaeth SDCau yn gweithio ar ôl iddi gael ei chyflwyno yn 2019, ac er bod angen gohirio hynny er mwyn ymateb i'r pandemig, ym mis Mai y llynedd gwnaethom gomisiynu ARUP i gynnal yr adolygiad hwn ar ein rhan.
Rydym yn gwybod bod seilwaith gwyrdd yn ddull sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol wrth fynd i'r afael â llawer o'r problemau y mae ein hamgylchedd adeiledig a naturiol yn eu hwynebu. Yn ôl rhagfynegiadau hinsawdd ar gyfer y DU, bydd Cymru yn gweld gaeafau mwynach a gwlypach, cyfnodau mwy rheolaidd o law dwys, rhagor o lifogydd ar yr arfordir, a hafau twymach a sychach. Bydd SDCau yn gwella ein gallu i wrthsefyll effeithiau hinsawdd sy'n newid, gan sicrhau dulliau rheoli llifogydd gwell, ansawdd dŵr gwell a thrin dŵr gwell, ac amwynderau a bioamrywiaeth well. Mae SDCau hefyd yn sicrhau ac yn cyfrannau at lawer o fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, gan gynnwys ansawdd aer gwell, lleihau carbon, a gwella amryw agweddau ar iechyd a lles y gymuned a all gynnwys tawelu traffig a llai o drosedd.
Cydnabuwyd bod angen newid y ffordd rydym yn rheoli dŵr wyneb yn dilyn y llifogydd yn y DU yn 2007. Arweiniodd hyn at ddarpariaethau cyfreithiol i ddiddymu'r hawl awtomatig i ddraenio dŵr wyneb i'r garthffos gyhoeddus, ac i'r llywodraeth benderfynu pwy ddylai fod yn berchen ar SDCau a'u cynnal a'u cadw.
Cyn 2019 roeddem yn cyhoeddi safonau cenedlaethol ar sail wirfoddol, ond nid oedd hyn wedi cael llawer o effaith neu ddim effaith o gwbl ar SDCau, ac roedd angen newid sylweddol. Felly, gwnaethom benderfynu cychwyn Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010: y wlad gyntaf yn y byd i fod â deddfwriaeth o'r fath ar gyfer SDCau. Mae'n werth nodi bod ein profiadau yng Nghymru wedi arwain at Loegr yn paratoi ar gyfer deddfwriaeth debyg iawn.
Isod mae rhestr o rai o brif ganfyddiadau'r adroddiad, a’r camau gweithredu rwyf wedi gofyn i swyddogion eu cymryd fel mater o frys.
Un o'r prif argymhellion yw diwygio'r safonau Amwynderau a Bioamrywiaeth cenedlaethol ar gyfer SDCau. Bydd hyn yn cefnogi ac yn cyd-fynd â nifer o amcanion polisi eraill:
- Gweithredu Dyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth.
- Alinio fframwaith DECCA a Pholisi Cynllunio Cymru i sicrhau y cymerir camau yn ystod y cam cynnig datblygiad a'r cam cynllunio i gynnal a gwella cydnerthedd bioamrywiaeth ac ecosystemau, ochr yn ochr â rheoli perygl llifogydd ac anghenion economaidd-gymdeithasol ehangach busnesau a chymunedau.
- Byddwn yn ystyried sut y gall y diwygiadau hyn gefnogi Amcan 6 yr Archwiliad Manwl i Fioamrywiaeth, i ryddhau arian preifat ac arian cyhoeddus i gyflawni er mwyn natur yn gyflymach ac ar raddfa fwy.
- Ac, yn fwy penodol, byddwn yn defnyddio'r diwygiadau hyn i gyflawni'r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i atgyfnerthu'r gofyniad i SDCau ddarparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.
Gan droi yn ôl at ganfyddiadau ehangach yr adolygiad, rwyf wedi gofyn i swyddogion darparu opsiynau ac amserlenni i gynyddu capasiti a chynnal rhagor o hyfforddiant ar gyfer cyrff cymeradwyo SDCau. Bydd hyn yn cyfrannu at Amcan 5 yn ein Harchwiliad Manwl i Fioamrywiaeth wrth helpu i adeiladu sylfaen gref er mwyn adfer natur yn y dyfodol.
Byddwn yn archwilio i oblygiadau ymarferol y safonau newydd ar gyfer cynnwys elfennau o ddylunio SDCau ar ffyrdd newydd a ffyrdd presennol. Byddai hyn yn ein galluogi i fynd i'r afael â dŵr wyneb sy'n draenio yn uniongyrchol i afonydd a chyrff dŵr eraill – ffynhonnell llygredd nad yw, i raddau helaeth, yn derbyn sylw.
Byddwn ni hefyd yn archwilio a datblygu'r mecanwaith gorau ar gyfer casglu data ac ar gyfer adroddiadau gan gyrff cymeradwyo SDCau. Bydd hyn yn ysgogi gwelliannau i berfformiad ledled Cymru, ac yn ein galluogi i ystyried a yw'r strwythur ffioedd presennol yn briodol. Byddwn yn ystyried gwerth ehangach posibl y data sy'n gael ei gasglu ar berfformiad. Er enghraifft, mae'n bosibl y gallai gwybodaeth am ddraenio dŵr wyneb wedi'i gasglu gan gyrff cymeradwyo SDCau chwarae rôl yn y dyfodol mewn perthynas â gofynion adrodd o dan Adran 19 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr.
Byddwn yn cyfuno'r holl ddogfennau canllaw ar gyfer SDCau yn ddogfen sengl sy'n cynnwys datblygiadau mawr a bach, yn ogystal ag adeiladau amaethyddol. Byddwn yn cael gwared ar yr amwysedd a'r anghysondeb sy'n bodoli ar hyn o bryd ar draws y dogfennau hyn i wella eglurder. Byddwn yn ceisio gwneud hyn yn ystod y 12 mis nesaf.
Bydd hyn hefyd yn cynnwys canllawiau newydd ar gyfer senarios yr ystyrir eu bod yn cydymffurfio neu sy'n cael eu hesemptio o'r angen am gymeradwyaeth. Bydd y datblygiadau y byddwn yn eu hystyried yn hyn o beth yn cynnwys rhandiroedd, rhai mathau o lwybrau neu lwybrau mynediad, gwaith brys, neu fathau o adeiladu yr ystyrir eu bod eisoes yn cydymffurfio â safonau cyfatebol.
Byddwn hefyd yn archwilio i'r argymhelliad sydd wedi derbyn cefnogaeth helaeth i sefydlu a chefnogi grŵp cynghori ar SDCau i rannu gwersi a'r arferion gorau ar gyfer ymgeiswyr a chyrff cymeradwyo SDCau fel ei gilydd. I sicrhau gwerth yn hyn o beth, byddwn yn asesu'r adnoddau sy'n helpu i ddatblygu rhaglen weithredu i fynd i'r afael ag argymhellion yr adolygiad. Un o'r tasgau cyntaf fydd nodi'r opsiynau a'r costau cysylltiedig ar gyfer datblygu proses ymgeisio gyson, fwy cymesur ledled Cymru. Byddwn yn archwilio'r opsiynau a ffefrir ar gyfer gwneud hyn ar y cyd â rhanddeiliaid, gyda'r nod o gynnal y cyfarfod cyntaf yn yr Hydref.
Yn olaf rwyf wedi gofyn i swyddogion gwmpasu, costio a chaffael dull cenedlaethol ar gyfer cyfrifo symiau cymudedig, i gynnwys, o bosibl, cyfraddau a hyd y cyfnod cynnal a chadw, a'r canllawiau cysylltiedig. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion roi blaenoriaeth uchel i'r gwaith hwn, er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan ddatblygwyr ac awdurdodau lleol, ac i helpu i gyflawni ein targed ar gyfer 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd cyn diwedd 2026.
Byddaf yn ystyried argymhellion yr adolygiad, ynghyd â'r dystiolaeth, ymhellach cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch addasiadau i'r gyfundrefn bresennol. Oherwydd goblygiadau a chyfleoedd trawsbynciol SDCau, mae fy swyddogion yn gweithio ar y cyd i ddeall a dadansoddi'r canfyddiadau manwl a'r argymhellion, ac i ddatblygu rhaglen weithredu, gan gynnwys targedau cyflawni ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a'r hirdymor. Cyhoeddir y rhaglen yr hydref hwn.
Yn 2019, ni oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer gofyniad SDCau ar ddatblygiadau newydd. Rydym wedi dysgu llawer, ac wrth inni fwrw ymlaen â rhagor o welliannau, byddwn yn parhau i arwain yn ein dull arloesol ar gyfer rheoli dŵr wyneb a lleihau'r perygl o lifogydd cymaint ag y bo modd.
Gyda'r rhain, a newidiadau eraill i'r gyfundrefn SDCau, byddwn yn cynyddu a gwella'r mannau gwyrdd cymunedol yn ein pentrefi, ein trefi a'n dinasoedd, gan wneud Cymru yn lle gwell byth i fyw a gweithio ynddi ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol.