Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol yr aeth Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain (BAAF) i ddwylo’r gweinyddwyr ar 31 Gorffennaf. Roedd BAAF Cymru yn darparu gwasanaethau pwysig i gefnogi mabwysiadu a maethu yng Nghymru, gan gynnwys y cyfrifoldeb am gadw Cofrestr Fabwysiadu Cymru a’r drefn adolygiadau annibynnol statudol.

Cyn gynted ag i ni wybod am gynlluniau BAAF i gau, cawsom drafodaethau gyda’r gweinyddwyr i sicrhau bod y gwasanaethau’n parhau’n sefydlog am chwe wythnos arall i helpu plant a chynorthwyo pobl sydd eisiau maethu a mabwysiadu. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi hyrwyddo strwythur cadarn newydd sy’n adeiladu ar arbenigedd BAAF Cymru ar draws ystod o wasanaethau a gweithgareddau. Mae staff BAAF Cymru wedi parhau i ddarparu’r gwasanaethau hyn nes y dyddiad cau ar 4 Medi, felly nid oedd unrhyw darfu ar wasanaethau.

O dan y trefniadau newydd rydym wedi’u gosod, mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol bellach yn gyfrifol am Gofrestr Fabwysiadu Cymru.  Mae staff perthnasol BAAF Cymru yn trosglwyddo i’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i barhau â’r gwaith hwn. Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn rhannu ein nod o gryfhau a gwella’r gofrestr. Rwy’n credu bod y trefniadau newydd hyn yn gam tuag at ei gwneud yn fwy effeithiol a hawdd ei defnyddio.

Plant yng Nghymru fydd bellach yn gyfrifol a y drefn adolygu annibynnol. Mae’r drefn hon yn adolygu penderfyniadau ynghylch ceisiadau maethu a mabwysiadu, ac yn ystyried ceisiadau datgelu mabwysiadu.

Bydd cyfrifoldeb am hyfforddiant, ymgynghori, cyngor cyfreithiol a llinell gymorth i’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol yn cael ei roi i gorff newydd i’w sefydlu gan Gymdeithas Plant Dewi Sant, o dan yr enw Cymdeithas Maethu a Mabwysiadu Cymru @ Dewi Sant. Bydd y corff newydd yn gweithredu fel canolbwynt gwybodaeth, gan gynnig adnoddau dysgu i hyrwyddo ac adlewyrchu arfer gorau. Bydd ei wasanaethau, adnoddau a chyhoeddiadau’n cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau ac amgylchiadau Cymru. Bydd y gwasanaeth yn recriwtio o blith cyn staff BAAF Cymru.

Bydd y trefniadau newydd yn cryfhau ac yn sicrhau dyfodol y gwasanaethau mabwysiadu a maethu yr oedd BAAF Cymru yn eu darparu, yn ogystal â sicrhau swyddi i staff oedd yn cael eu cyflogi gan BAAF Cymru, gan fanteisio ar eu sgiliau a’u harbenigedd.  

Rwy’n hyderus y bydd hyn yn arwain at well gwasanaethau a hoffwn gofnodi fy niolchiadau i’r staff a’r sefydliadau sydd wedi gweithio gyda ni i sicrhau’r canlyniad cadarnhaol hwn. Gyda’n gilydd, rydym wedi gosod trefniadau effeithiol i helpu i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus yng Nghymru.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.