Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar hyn o bryd, Asesiadau Athrawon yw’r brif ffordd o fesur cynnydd dysgwyr yng Nghymru hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Mae tystiolaeth ymchwil yn dweud wrthym fod gan Gymru’r holl nodweddion sydd eu hangen ar gyfer system asesu lwyddiannus. Fodd bynnag, er gwaethaf buddsoddi sylweddol, mae’r adborth a geir gan y sector addysg yn awgrymu bod angen gwella hyder pobl yn y system.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar gynigion ar gyfer polisïau i wella’r hyder hwn. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 6 Mawrth 2015. Cyhoeddwyd crynodeb lawn o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar 8 May 2015. Roedd un o’r cynigion polisi yn gofyn a ddylid cael goruchwyliaeth neu wiriad allanol o’r broses asesiadau athrawon. Byddai hyn yn caniatáu haen arall o fanylrwydd, ac yn galluogi ysgolion i gael adborth ychwanegol ar sut mae’r broses asesu wedi cael ei gweithredu. Bydd hyn yn helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth o asesiadau athrawon. Yn gyffredinol, cefnogwyd y cynnig hwn.

Rwyf felly’n falch o gyhoeddi bod Y Bartneriaeth, sy’n cynnwys pob un o’r consortia rhanbarthol a chwmni CDSM Interactive Solutions Ltd,  wedi cael y contract ar gyfer gwneud y gwaith gwirio allanol ar asesiadau athrawon.

Rwy’n hyderus mae’r Bartneriaeth hon sydd yn y sefyllfa orau i gyflawni’r rhaglen, a hynny’n gywir ac yn gost effeithlon. Bydd y Bartneriaeth yn rhoi gwybodaeth i’r system gyfan er mwyn gwella dibynadwyedd asesiadau athrawon a darparu mwy o fanylrwydd. Yn y pen draw, y nod yw gwella hyder pobl yn y system asesiadau athrawon. Agwedd bwysig ar y gwaith fydd trafod canfyddiadau gydag ysgolion, gan sicrhau bod ysgolion ac athrawon yn cael cefnogaeth dysgu proffesiynol wrth weithredu asesiadau athrawon. Mae’r gefnogaeth hon yn hanfodol i sicrhau bod y rhaglen yn gwella addysg plant, sef y prif nod.

Mae adroddiad yr Athro Donaldson yn nodi argymhellion uchelgeisiol o ran asesiadau ac atebolrwydd. Bydd y rhain yn destun cryn drafod a gwaith datblygu at y dyfodol. Fodd bynnag, yn y cyfamser, rhaid inni gynnal y system sydd gennym ar hyn o bryd er mwyn cael gwybodaeth ar berfformiad, cynnydd ac er mwyn pennu cefnogaeth briodol. Mae asesiadau athrawon yn ffordd werthfawr o sicrhau dealltwriaeth am y ffactorau hyn; y peth allweddol yw sicrhau bod y ddealltwriaeth yn gyson ar draws y wlad.

Wrth gyflawni’r contract hwn, mae’n bosibl y gwnaiff y gwell manylrwydd ym maes asesiadau athrawon effeithio, yn y pen draw, ar ddyfarniad Lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. I mi, yr hyn sy’n bwysig yw bod asesiadau athrawon yn ddibynadwy, yn asesu datblygiad ein dysgwyr yn onest ac yn gywir, ac yn rhoi syniad da inni o ble mae angen cymorth proffesiynol. Caiff hyn ei adlewyrchu yn y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion. Mae ail gam y broses hon yn galluogi consortia i wneud dyfarniad ar sail gallu’r ysgol i wella. Bydd data asesiadau athrawon mwy cywir a dibynadwy yn rhoi mwy o hyder i gonsortia wrth wneud hyn – a dylai hyn gael ei adlewyrchu yn y categorïau yn y pen draw.

Bydd y rhaglen wirio’n cychwyn yn y flwyddyn academaidd hon, gan ddefnyddio deunyddiau safoni cyfredol ar gyfer pynciau mathemateg a gwyddoniaeth. Bydd hyn yn rhyw fath o gyfnod  rhagarweiniol i roi syniad inni am ein sefyllfa. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod y fethodoleg samplo a methodoleg y rhaglen at y dyfodol ar gael yn y man.