Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Rhaglen Wirio Allanol Genedlaethol ei chyflwyno yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod tymor y Gwanwyn 2015. Diben y Rhaglen oedd cryfhau cywirdeb a chysondeb asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3.

Ffurfiodd y pedwar consortia addysg rhanbarthol a’r darparwr TG, sef CDSM Interactive Solutions, Bartneriaeth Genedlaethol a ddarparodd y rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd academaidd.  Yn 2014-2015, gwriwyd mathemateg a gwyddoniaeth, ac y llynedd bu’r rhaglen yn canolbwyntio ar wirio Cymraeg a Saesneg.

Dros y cyfnod o ddwy flynedd bu’r Rhaglen yn asesu pa mor dda oedd y prosesau asesu a safoni athrawon yn gweithio ac yn helpu i nodi’r hyfforddiant oedd ei angen ar ysgolion a chlystyrau. Darparodd y Bartneriaeth adborth i ysgolion, awdurdodau lleol a’r consortia, a rhoddwyd canllawiau i bob ysgol yn eu rhanbarth.

Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i bob ysgol a chlwstwr ledled Cymru sydd wedi cydweithredu a chymryd rhan yn y Rhaglen. Roedd cymryd rhan mewn modd cadarnhaol yn help mawr i’r Rhaglen gyfrannu at wella cywirdeb a chysondeb asesiadau athrawon, a hynny trwy roi adborth o ansawdd uchel.

Yn awr, mae’r amser wedi dod i symud ymlaen. Er mwyn cyflawni ein hamcanion o ddiwygio asesiadau a’n nod cenedlaethol i well addysg i bob person ifanc yng Nghymru, dylai pawb fod yn rhan o’r gwaith o wella asesiadau athrawon. Rhaid i Lywodraeth Cymru, y consortia rhanbarthol a’r ysgolion weithio ar y cyd. Bydd y gwersi a ddysgwyd o’r Rhaglen Wirio Allanol yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru, fel y nodir yn Dyfodol Llwyddiannus.

Felly, yn unol ag argymhelliad y Bartneriaeth, rwyf wedi penderfynu dod â’r Rhaglen Wirio Allanol i ben a rhoi rhaglen yn ei lle a fydd yn cadw at y nod gwreiddiol o wella asesiadau athrawon a chanolbwyntio ar anghenion athrawon ac ysgolion. Bydd y rhaglen yn gynaliadwy, ac yn rhan o waith ehangach i gyflwyno agenda ddiwygio Dyfodol Llwyddiannus drwy’r Rhwydwaith Ysgolion Arloesi, a chaiff ei chynnwys yng Nghynlluniau Busnes y consortia rhanbarthol

Mae sicrhau bod asesiadau athrawon yn gywir, yn ddibynadwy ac yn gyson drwy Gymru yn parhau’n flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen ehangach, newydd yn rhoi cyfle i Gymru daro’r hoelen ar ei phen yn hyn o beth.