Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n benderfynol o sicrhau bod adnoddau'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael eu defnyddio'n briodol a bod ein gwaith a'n buddsoddiad wedi cael yr effaith angenrheidiol ar gyrhaeddiad addysgol plant o gefndiroedd difreintiedig.

I gefnogi ysgolion, Awdurdodau Lleol a Chonsortia gyda'u hymdrechion i wella deilliannau dysgwyr difreintiedig mewn modd sy'n gynaliadwy, rwyf wrth fy modd cael cyhoeddi bod Syr Alasdair MacDonald wedi ei benodi yn 'Eiriolwr Codi Cyrhaeddiad' i Gymru.

Mae Syr Alasdair yn ymarferydd uchel ei barch a chanddo hanes llwyddiannus o bennu strategaethau ar gyfer gwella lefelau cyrhaeddiad pob dysgwr ond yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig.

Fel pennaeth Ysgol Uwchradd Morpeth yn ardal Tower Hamlets yn Llundain, cafodd Syr Alasdair brofiad uniongyrchol o leihau anghyfartaledd rhwng perfformiad bechgyn a merched, y cyfoethog a'r tlawd ac ar draws grwpiau lleiafrifoedd ethnig. 
 
Bydd Syr Alasdair yn gyfrifol am ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion, Awdurdodau Lleol a chonsortia er mwyn;

  • codi proffil, ymhlith ysgolion ac ymarferwyr, a thynnu eu sylw at bwysigrwydd mynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad; 
  • hyrwyddo dyheadau uwch ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig; 
  • cefnogi ac ennyn brwdfrydedd arweinwyr ysgolion i fanteisio ar ddulliau ysgol gyfan, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, o fynd i'r afael â thangyflawni ymhlith dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig; 
  • herio safbwyntiau negyddol a disgwyliadau isel;
  • rhoi adborth i Weinidogion a swyddogion ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, meysydd sy'n achosi pryder a rhwystrau ymddangosiadol neu wirioneddol yn y system; 
  • bod yn 'gyfaill beirniadol' o ran datblygu polisi Llywodraeth Cymru.


Bydd hefyd yn creu cysylltiad â'r rhaglen Her Ysgolion Cymru i gynnig cyngor ac arweiniad.  

Ymddeolodd Syr Alasdair o'i waith fel addysgwr ym mis Rhagfyr ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i weithio gydag ysgolion yng Nghymru, tan ddiwedd tymor yr haf i gychwyn. Ei gyfrifoldeb cyntaf fydd bod yn brif areithiwr yn y gynhadledd Codi Dyheadau – Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig mewn Addysg ar 20 Mawrth 2014 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.