Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Dirprwy Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan gwaith ieuenctid o ansawdd botensial mawr i gyfoethogi bywydau pobl ifanc yng Nghymru, boed hynny drwy'r profiadau neu’r gefnogaeth sy’n cael eu cynnig iddynt. Fodd bynnag, mae toriadau i gyllid yn bygwth dyfodol darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru. Felly mae angen inni weithio gyda'n gilydd tuag at ddull cenedlaethol cryfach, dull sy'n gallu sicrhau cynnig gwaith  ieuenctid ar draws pob rhan o Gymru.
Yn ystod  fy anerchiad yn y gynhadledd Gyda’n Gilydd ar gyfer Pobl Ifanc yng Nghaerdydd y bore yma, byddaf yn cyhoeddi Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru. Mae’r Siarter yn nodi disgwyliad sylfaenol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith ieuenctid i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’r Siarter wedi’i ysgrifennu o safbwynt y person ifanc yn hytrach na o safbwynt darparwyr gwasanaethau.

Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru


Bydd gan bob person ifanc hawl i gael mynediad rhwydd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg at:
  • Fannau cyfarfod diogel, cynnes a chyflawn, sy'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu perthnasoedd parhaus, gweithgareddau hamdden cyffrous ym meysydd celf a chwaraeon, a phrofiadau newydd a fydd yn ehangu eu gorwelion. 
  • Cyfleoedd i gyfranogi mewn antur awyr agored a phrofiadau preswyl a rhyngwladol.
  • Cyfleoedd i gyfranogi yn y gwaith o wneud penderfyniadau trwy strwythurau anffurfiol a ffurfiol i ymgysylltu â phobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol (e.e. meiri ifanc, cynghorau ieuenctid a’r Senedd).  Dylai trefniadau o’r fath gyfeirio'n eglur at safonau cyfranogi; dylent fod yn seiliedig ar egwyddorion CCUHP; a dylent geisio ennyn diddordeb pobl ifanc yn y gwaith o lywio a chraffu ar y gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. 
  • Gwybodaeth, arweiniad a chymorth ynghylch materion sy’n eu pryderu, yn cynnwys cyflogaeth, tai a lles meddyliol.  Gellir defnyddio'r gwasanaeth trwy gyfrwng cyfryngau digidol a thrwy law oedolion dibynadwy a hyfforddedig.   
  • Anogaeth i ddysgu rhagor am eu diwylliant eu hunain a diwylliannau pobl eraill. 
  • Darpariaeth gydgysylltiedig gan weithwyr ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd a choleg, ymestyn y ‘cynnig i ddisgyblion’ ac felly cyfoethogi’r cwricwlwm ffurfiol a chynorthwyo â datblygiad personol a chymdeithasol.
  • Cyfleoedd i fod yn ymgyrchwyr dinesig e.e. trwy wirfoddoli.
  • Cydnabod a /neu achrediad eu cyflawniadau o ran datblygiad personol a chymdeithasol mewn ysgolion a cholegau ac yn y gymuned hefyd.
Er mwyn sicrhau gweithredu'r Siarter bydd angen gwneud newidiadau o ran sut y caiff y system ei llywodraethu ac ariannu.  Felly rwyf wedi gofyn i fy swyddogion dechrau archwilio sefydlu Fframwaith Cymorth a Datblygu Pobl Ifanc yng Nghymru, Fframwaith fydd yn ystyried datblygu corff strategol cynrychioliadol ar draws gwasanaethau ieuenctid. Gan ddechrau ar lefel genedlaethol bydd y Fframwaith Cymorth yn adeiladu ar drefniadau presennol, trwy ddod a’r cyfeiriad strategol, y cynllunio, adnoddau a chasglu data at ei gilydd.