Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

O 1 Ebrill 2018, bydd y trethi Cymreig cyntaf yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ers 800 o flynyddoedd, gan nodi carreg filltir newydd yn ein taith datganoli.  

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru - awdurdod trethi newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru - yn gyfrifol am gasglu a rheoli treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, y ddwy dreth a fydd yn cymryd lle treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi, yn y drefn honno, yng Nghymru.  

Bydd yr Awdurdod Cyllid yn gyfrifol am gasglu’r refeniw treth hwn ar ran Llywodraeth Cymru.  Bydd y ddwy dreth newydd hyn yn codi mwy na £1 biliwn yn y pedair blynedd gyntaf, gan gefnogi'r GIG, ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Awdurdod Cyllid yn cyhoeddi Ein Siarter heddiw, sy’n nodi’r gwerthoedd a’r ymddygiadau a rennir â threthdalwyr, cyrff cynrychioliadol, sefydliadau partner a'r cyhoedd yng Nghymru i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru.

Caiff y ddogfen hon ei chyhoeddi ar ôl ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid. Cafodd yr Awdurdod Cyllid dros 120 o ymatebion i’w siarter ddrafft - caiff crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ei gyhoeddi heddiw hefyd.  

Mae’r siarter ar gael yn https://beta.llyw.cymru/acc-siarter

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr egwyl er mwyn rhoi’r diweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd ar ôl yr egwyl, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.