Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uchelgais Llywodraeth Cymru yw rhoi’r dechrau gorau posibl i blant, er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial llawn.
I gefnogi hyn, rwyf wedi cyhoeddi heddiw Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu.
Mae datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ragfynegydd pwysig o gynnydd mewn llythrennedd yn nes ymlaen. Dengys tystiolaeth y gall sgiliau gwael gael effaith andwyol ar ystod eang o ddeilliannau i blant, sy’n cynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, pa mor barod ydynt am yr ysgol a chyflogadwyedd.
Gall fod angen cefnogaeth ychwanegol ar unrhyw blentyn i fynd i’r afael â phroblemau neu oedi mewn perthynas a datblygiad sgiliau iaith, lleferydd neu gyfathrebu. Ein nod yw sicrhau bod gan bob plentyn sydd ei angen fynediad at gymorth o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar, gan gynnwys cymorth arbenigol os oes angen hynny, er mwyn datblygu ei sgiliau.
Y cynllun cyflawni trawsbynciol hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Mae’n dwyn ynghyd ystod eang o feysydd polisi, o iechyd i gyflogadwyedd a sgiliau, ac yn hwyluso dull gweithredu mwy cydlynol ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd, gan adeiladu ar bolisïau sydd eisoes yn bodoli a’r hyn sy’n gweithio.
Mae’n nodi ein hymrwymiad i wella deilliannau i blant drwy ddull gweithredu ffres sy’n hybu ac yn cefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant.
Mae’r cynllun wedi’i lywio gan ganlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus a thrwy gydweithredu â Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a Rhwydwaith Rhagoriaeth Clinigol Iechyd Cyhoeddus y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Mae’r gwaith hwn wedi ein helpu i ddatblygu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu dros y blynyddoedd nesaf.
Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn, sydd ar gael yn: https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi-cynllun-cyflawni-ar-gyfer-lleferydd-iaith-chyfathrebu