Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon
Er mwyn helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wneud cynnydd o dan y mesurau arbennig, fe ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal sgwrs â phobl ym mhob cwr o’r Gogledd am ddyfodol y gwasanaeth iechyd yn yr ardal, fel cyfraniad i’r broses o gyflawni canlyniadau gwell. Er mwyn bodloni'r ymrwymiad hwn, rydym wedi ymgysylltu â staff, rhanddeiliaid a’r cyhoedd dros y misoedd diwethaf i ofyn am eu barn.
Cynhaliwyd cyfarfodydd â phartneriaid a rhanddeiliaid i ddechrau, a thrwy’r trafodaethau hyn cawsom wybodaeth werthfawr a’n cynorthwyodd i gynllunio’r digwyddiadau ymgysylltu digidol ac ymgysylltu â’r gymuned a gynhaliwyd wedyn. Roedd y broses ymgysylltu yn cynnwys arolwg ar-lein a mwy nag ugain o ddigwyddiadau ymgynghori/gweithdai galw i mewn a gafodd eu hyrwyddo'n eang ar draws y Gogledd. Cafodd gweithdai eu cynnal â staff y GIG, rhwydweithiau busnes, pobl ifanc, colegau, rhieni ac athrawon a chyda cymunedau, gan gynnwys tri digwyddiad agored a gynhaliwyd ym Mhrestatyn, Wrecsam a Chaergybi.
Mae gwaith yn mynd rhagddo o hyd i gloriannu’r farn a fynegwyd, ond hoffwn rannu rhai o'r penawdau cychwynnol â chi cyn y Nadolig.
Mae llawer o'r staff yn teimlo bod statws mesurau arbennig wedi ysgogi'r newid oedd ei ddirfawr angen. Nodwyd hefyd fod dull y Prif Weithredwr newydd o arwain yn un amlwg a bod dulliau cyfathrebu newydd wedi’u sefydlu. Awgrymwyd bod angen gwelliant mewn rhai meysydd, gan gynnwys cyfathrebu o'r bwrdd i’r ward, cyfeiriad strategol cliriach ar gyfer y sefydliad a mwy o ffocws ar iechyd meddwl i wella canlyniadau ar gyfer cleifion.
Awgrymodd rhai aelodau o staff eu bod am weld y sefydliad yn gweithredu fel un corff ar draws y Gogledd cyfan. Roedd yr ymateb a gyflwynwyd gan bartneriaid yn adlewyrchu'r farn hon, ac roedd consensws cadarn y byddai newid mewn strwythur yn tynnu sylw oddi wrth y prif faterion. Codwyd hyn gan y cyhoedd hefyd, ond nid oedd cefnogaeth gref i ailstrwythuro'r bwrdd iechyd.
Roedd y cyhoedd yn mynegi barn am y bwrdd iechyd a’i wasanaethau ar sail eu profiadau hwy a’u teuluoedd. Tynnwyd sylw at brif feysydd o berfformiad cadarnhaol, sef gofal rhagorol â ffocws ar gydymdeimlad; amrywiaeth eang o arbenigeddau gofal eilaidd; a threfnu a chyflenwi gwasanaethau yn effeithiol. Roedd enghreifftiau cadarnhaol yn cynnwys gofal sylfaenol meddygfa Amlwch, Canolfan Ganser Glan Clwyd a darparu mynediad rhad ac am ddim at ofal iechyd yn gyffredinol a phresgripsiynau am ddim i bawb.
Roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn dangos nad oedd y cyhoedd bob amser yn gwybod beth yw’r bwrdd iechyd na beth mae'n ei wneud, ond soniodd nifer o’r ymatebwyr am yr angen am fwy o welliannau i systemau gwneud apwyntiadau, cyfathrebu, sicrhau bod mwy o fynediad at wasanaethau arbenigol, triniaeth gan feddygfeydd teulu a gofal eilaidd, a bod yn fwy blaengar ac elwa i'r eithaf ar ddatblygiadau technolegol.
Yn y sectorau cyhoeddus, preifat, cymunedol a'r trydydd sector, cafodd ymatebion cadarnhaol iawn eu cofnodi, a oedd yn cefnogi'r sylwadau cadarnhaol a wnaed gan aelodau o'r cyhoedd. Roedd y meysydd i'w gwella hefyd yn adlewyrchu sylwadau a wnaed gan y cyhoedd. Roedd yr holl sefydliadau a gynrychiolwyd yn cydnabod y pwysau a'r galwadau sydd ar staff y bwrdd iechyd ac yn cymeradwyo’r gwaith rhagorol mae llawer o staff yn ei wneud o dan amgylchiadau anodd.
Mae'n bwysig ein bod yn parhau i wrando ar bobl, staff a rhanddeiliaid ar draws y Gogledd er mwyn gallu asesu'r cynnydd a'r gwelliant sy'n digwydd yn y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. Bydd y canfyddiadau hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth i Lywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru pan fyddant yn adolygu'r cynnydd dros y flwyddyn nesaf. Byddant hefyd o gymorth i’r bwrdd iechyd wrth iddo barhau i ymgysylltu â'r cyhoedd, partneriaid a staff.