Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n gwneud y datganiad hwn yn dilyn pryderon a fynegwyd gan rai Aelodau Cynulliad ym mis Mawrth eleni ynglŷn â chau labordai ac oedi i fenywod sy'n cael canlyniadau profion yn Lloegr. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cyflenwi rhaglen Sgrinio Serfigol Cymru, am gyflwyno'r profion Feirws Papiloma Dynol (HPV) risg uchel fel y prawf sgrinio sylfaenol ym mis Medi 2018. Mae hwn yn brawf mwy sensitif a fydd yn atal mwy o achosion o ganser na'r prawf cytoleg sylfaenol. Bydd y rhaglen yn awr yn profi am 14 math o HPV risg uchel, sy'n achosi 99.8% o'r achosion o ganser ceg y groth. Yn sgil symud i brofion HPV, syrthiodd llwyth gwaith archwiliadau cytolegol yng Nghymru yn sylweddol, gyda'r galw o ganlyniad yn ddigon i gynnal dim ond un labordy cytoleg ym Mharc Magden, yn hytrach na phedwar labordy fel o'r blaen.
Roedd Sgrinio Serfigol Cymru wedi paratoi ar gyfer gwneud y gwaith sgrinio HPV sylfaenol am sawl blwyddyn ac wedi gweithio yn effeithiol i gadw’r staff cytolegol a oedd yn parhau i fod yn angenrheidiol i gynnal y gwasanaeth a darparu canlyniadau’r sgrinio o fewn yr amserlenni safonol yn ystod y cyfnod o drosglwyddo i'r prawf newydd. O ganlyniad, nid yw'r rhaglen sgrinio serfigol yng Nghymru wedi wynebu’r un anawsterau â'r rhaglen yn Lloegr. Mae'r amseroedd cyflawni ar gyfer profion sgrinio serfigol yn well na'n targed o 95% o ganlyniadau yn cyrraedd o fewn 4 wythnos, gyda mwy na 99% o fenywod yn cael eu canlyniadau o fewn yr amser safonol. Mae rheolaeth lwyddiannus y gweithlu cytoleg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi golygu mai Cymru yw’r unig wlad hyd yma yn y DU i gyflwyno profion HPV.
Holodd yr Aelodau hefyd ynglŷn â hunan-brofi. Mae'r dechnoleg yn bodoli bellach i fenywod gasglu sampl sgrinio serfigol eu hunain yn eu cartrefi eu hunain, ac mae rhagor o dystiolaeth ar gael drwy’r amser am y dechneg hon, ond nid oes sicrwydd eto ei bod yn ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer sgrinio.
Prosiect ymchwil yw’r astudiaeth beilot hunan-samplu a gyhoeddwyd yn Lloegr, gan ddechrau o fis Medi 2019 mewn rhannau o Lundain y gwyddir sydd â chyfradd sgrinio serfigol isel. Felly, ni fydd Cymru yn dyblygu'r un cynllun peilot, ond byddwn yn aros am y gwerthusiad. Ni fydd hunan-brofi yn cael ei gyflwyno ym mhob rhan o'r DU hyd nes y dangosir bod y cynllun peilot yn ddiogel, a'i fod wedi'i argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC). Gan ragweld argymhelliad o'r fath, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried sut y gellid gweithredu hyn yng Nghymru.
Yn olaf, gofynnodd un Aelod am ddatganiad hefyd i esbonio polisi Llywodraeth Cymru ar sgrinio menywod dan 25 oed sydd â symptomau o ganser ceg y groth.
Mae pob menyw yng Nghymru sy'n 25 i 64 oed ac sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yn cael gwahoddiad yn awtomatig i ddod i gael prawf sgrinio serfigol (bob tair blynedd os ydych yn 25 i 49 oed, a bob pum mlynedd os ydych yn 50 i 64 oed). Pwrpas yr holl raglenni sgrinio yw canfod cyflyrau yn gynharach, fel y gellir eu trin yn haws mewn pobl nad ydynt wedi dechrau arddangos symptomau ond a all fod â risg uwch o ddatblygu cyflwr penodol. Nid yw meddygon teulu yn atgyfeirio pobl i gael eu sgrinio. Os ydynt yn gymwys, byddant eisoes yn cael gwahoddiad ar yr adeg briodol.
Nid yw sgrinio serfigol yn briodol ar gyfer menywod sy'n arddangos symptomau o ganser ceg y groth gan nad yw'n brawf am ganser. Mae'r prawf yn edrych am HPV a chelloedd annormal a allai o bosib ddatblygu i fod yn ganser. Os oes gan fenyw symptomau, byddai sgrinio yn achosi oedi wrth roi diagnosis. Os oes gan feddygon teulu unrhyw bryderon, dylent atgyfeirio menywod ar y llwybr brys lle ceir amheuaeth o ganser i gael archwiliad prydlon.
Mae canser ceg y groth yn brin iawn mewn menywod dan 25 oed gyda thua phump o fenywod dan 25 oed yn cael diagnosis o ganser ceg y groth bob blwyddyn yng Nghymru (tua 3% o'r holl achosion o ganser ceg y groth bob blwyddyn yng Nghymru). Mae Llywodraeth Cymru, fel holl Lywodraethau eraill y DU, yn dilyn cyngor arbenigol yr UKNSC. Yn 2012, argymhellodd yr UKNSC na ddylid sgrinio menywod dan 25 oed. Y rheswm dros hyn yw y dangoswyd nad yw sgrinio menywod dan 25 oed mor effeithiol a bod menywod yn y grŵp oedran hwn yn fwy tebygol o fod ag annormaledd yn eu celloedd sydd fel arfer yn gwella ar ei ben ei hunan. Canfu sgrinio blaenorol y byddai 1 o bob 3 o fenywod a gafodd brawf sgrinio dan 25 oed yn cael canlyniad annormal, o gymharu ag 1 o bob 14 o'r holl fenywod a gafodd eu sgrinio (25 i 64 oed). Cyn codi'r oedran, roedd sgrinio menywod dan 25 oed yn arwain at atgyfeirio llawer o fenywod ifanc am driniaeth ddiangen.
Yn hytrach nag ehangu'r rhaglen sgrinio i gynnwys menywod y tu allan i'r ystod oedran a argymhellir, dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar annog y rhai hynny yn yr ystod oedran cymwys i ddod i'w profion sgrinio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i wella'r niferoedd sy'n dod i'w profion sgrinio, yn enwedig menywod o 25 i 30 oed, sef y grŵp demograffig sydd â'r gyfradd presenoldeb isaf. Mae wedi bod yn cynnal ymgyrch gynhwysfawr i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar brofion sgrinio serfigol. Mae'r ymgyrch farchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, #CaraGegdyGroth, a lansiwyd ym mis Mawrth, yn ceisio annog menywod 25 i 30 oed i fynd am brawf sgrinio serfigol, a chynyddu'r ddealltwriaeth o HPV. Mae ymchwil yn dangos bod embaras yn rhwystr i gael prawf sgrinio serfigol. Mae #CaraGegdyGroth yn defnyddio iaith gadarnhaol a gonest sy'n grymuso, gyda ffocws cryf ar annog menywod i feddwl am eu cyrff mewn ffordd bositif, er mwyn annog menywod i ddod am brawf sgrinio pan fyddant yn cael gwahoddiad.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at ymchwil galonogol iawn yn ymwneud â'r brechlyn HPV. Ers 2008, mae merched 12 neu 13 oed wedi cael cynnig y brechlyn HPV ym mhob rhan o'r DU i'w hamddiffyn rhag canser ceg y groth. Dangosodd ymchwil a gyhoeddwyd yn y British Medical Journal ar 3 Ebrill fod y brechlyn wedi arwain at leihad o 90% mewn celloedd cyn-ganseraidd yn yr Alban.
Nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau o ran canlyniadau canser ceg y groth, ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod cyfraddau goroesi blwyddyn a phum mlynedd ar gyfer canser ceg y groth wedi gwella mwy na phedwar pwynt canran rhwng 2005-09 a 2010-14. Mae’r gyfradd marwolaethau Ewropeaidd yn ôl oedran safonedig fesul 100,000 o bobl wedi syrthio 1.5 pwynt rhwng 2001-03 a 2013-15. Mae'r cyfuniad hwn o imiwneiddio a sgrinio serfigol yn cynnig yr amddiffyniad gorau posib rhag canser ceg y groth, ac rwy'n falch bod menywod yng Nghymru yn cael cynnig y ddau yn rheolaidd. Dros y degawd nesaf gallwn ddisgwyl gweld lleihad sylweddol yn nifer yr achosion o ganser ceg y groth yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny