Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r diweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y newidiadau i sgrinio coluddion yng Nghymru. Ers 31 Ionawr, mae Sgrinio Coluddion Cymru wedi bod yn darparu profion imiwnogemegol ysgarthol (FIT) newydd fel rhan o'i raglen sgrinio reolaidd. Erbyn mis Mehefin 2019, bydd y prawf hwn wedi disodli'r prawf gwaed cudd yn yr ysgarthion (gFOBt) a ddefnyddir ar hyn o bryd yn llwyr. Mae'r prawf newydd wedi'i gyflwyno fesul cam sy'n golygu na fydd pob un sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael y prawf newydd ar unwaith. Mae cyflwyno’r prawf newydd fesul cam fel hyn yn golygu bod modd gwirio'r model data a fydd yn galluogi Sgrinio Coluddion Cymru i ymchwilio i berfformiad y prawf hwn yn ein poblogaeth. Hyd yma, yr Alban yw'r unig wlad arall yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cyflwyno profion imiwnogemegol ysgarthol ac rwy'n falch ein bod yn gallu gwneud hynny yma yng Nghymru.

O safbwynt iechyd y cyhoedd, ceir llawer mwy o fudd o ddefnyddio'r profion imiwnogemegol ysgarthol na'r profion presennol. Maen nhw'n fwy cywir ac yn haws i'w defnyddio na'r prawf gwaed cudd yn yr ysgarthion, ond maen nhw hefyd yn cynnig hyblygrwydd a gellir addasu trothwy sensitifrwydd y prawf er mwyn pennu gwahanol gyfraddau positifrwydd. Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn defnyddio trothwy o 150µg/g (150 microgram o waed fesul gram o ysgarthion) i gychwyn. Disgwylir i hyn gynhyrchu cyfradd positifrwydd ychydig yn uwch na'r prawf presennol, ond gan fod disgwyl i'r nifer a fydd yn cymryd y prawf gynyddu, mae disgwyl i'r galw am archwiliadau diagnosteg dilynol fel colonosgopi hefyd gynyddu'n sylweddol.

Bwriedir cynyddu’n raddol sensitifrwydd y prawf a lleihau'r ystod oedran ar gyfer dechrau cymryd y prawf dros y pedair blynedd nesaf ar yr un pryd â chynyddu'r capasiti ar gyfer triniaethau colonosgopi. Mae'n bwysig mynd ati fesul cam ac mewn ffordd bwyllog i wella effeithiolrwydd y rhaglen sgrinio coluddion er mwyn sicrhau bod modd parhau i gynnal archwiliadau a thrin unigolion yn brydlon pan fo amheuaeth bod ganddynt ganser.