Leighton Andrews, Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Ar bob lefel, mae sgiliau yn hanfodol ar gyfer twf economaidd ac i greu cymdeithas decach. Mae sgiliau yn cyfrannu mewn ffordd bwerus at gynhyrchiant mewn busnes, cynyddu incwm cartrefi a helpu, mewn rhai achosion, i godi plant allan o dlodi.
Mae tair blaenoriaeth i’n hagenda sgiliau:
- helpu pobl i gael gwaith;
- ennyn diddordeb pobl ifanc a chodi lefel cyflogaeth yn eu plith – cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar hyn ym mis Ionawr;
- rhyddhau potensial llawn sgiliau fel dull o hyrwyddo datblygiad economaidd. Yma rydym yn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd sy’n cefnogi Sgiliau ar gyfer Adnewyddu’r Economi.
Mae Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd yn rhoi lle canolog i sgiliau yn ymdrech llywodraeth gyfan y Cynulliad i greu mantais economaidd i Gymru. Mae hyn yn golygu ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar ddiwallu anghenion cyflogwyr a dysgwyr ac alinio adnoddau â blaenoriaethau cenedlaethol. Mae ein dull yn seiliedig ar greu partneriaeth wirioneddol â chyflogwyr o ran sgiliau’r gweithlu. Swyddi a thwf sydd bwysicaf a byddwn yn gweithio’n hyblyg gyda busnesau i gyflawni hyn, gan gydnabod rôl y chwe sector blaenoriaeth, Cwmnïau Angori Cymru a Busnesau Pwysig Rhanbarthol fel y bo’n briodol.
Gwelwn dair her o ran sgiliau allweddol y mae angen mynd i’r afael â hwy er mwyn cefnogi’r syniad o Adnewyddu’r Economi. Mae’r cyntaf yn ymwneud â bylchau mewn sgiliau a sicrhau cyflenwad cryf o bobl ifanc sydd â’r sgiliau priodol i ymuno â’r farchnad lafur. Yr ail yw ceisio paru anghenion cyflogwyr a sgiliau pobl sy’n ddi-waith ar hyn o bryd. Y trydydd yw gwneud y defnydd gorau o’r sgiliau presennol yn y gweithle a gwella’r sgiliau hynny. Ochr yn ochr â ffynonellau traddodiadol o wybodaeth am y farchnad lafur, bydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a’r chwe Phanel Sector newydd sydd dan arweiniad cyflogwyr yn dod â her a deall newydd i’r drafodaeth sy’n parhau ynghylch anghenion, polisi ac arferion o ran sgiliau.
I roi ffocws i’n gwaith, rydym yn symleiddio’r cynnig sgiliau, gyda sylw arbennig i sgiliau sylfaenol yn y gweithle, sgiliau arwain a rheoli, prentisiaethau, cymorth yn ôl disgresiwn i gwmnïau â photensial i dyfu, a chymorth ReAct i’r rhai sy’n ceisio gwella’u sgiliau fel y gallant leihau unrhyw gyfnod o anweithgarwch ar ôl clywed eu bod yn cael eu diswyddo.
Bydd Rhaglen Datblygu’r Gweithlu yn parhau i weithredu fel prif borth i fusnesau i amrywiaeth eang o raglenni sgiliau. Mae’n wasanaeth profedig ac effeithiol, sy’n helpu cyflogwyr i gyflawni eu hamcanion busnes.
Yn sgil y gwerthusiad o ProAct a llwyddiant Sgiliau Twf Cymru, caiff y cyllid sydd ar gael yn ôl disgresiwn drwy Raglen Datblygu’r Gweithlu ei ddefnyddio yn y dyfodol yn unol â’r egwyddorion a’r blaenoriaethau a sefydlwyd drwy’r rhaglenni hynny – gan dargedu cyllid lle byddant yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran twf a chreu swyddi.
Gan helpu i ddatblygu sgiliau yn y gweithle, bydd y Rhaglen Adduned Cyflogwr Sgiliau Sylfaenol yn derbyn £10 miliwn o gyllid ychwanegol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop dros y pedair blynedd nesaf ac yn agor y ffordd i gynnydd dramatig yn y gwaith o ddysg sgiliau sylfaenol. Bydd rhyw 1000 o gwmnïau a 30,000 o unigolion yn elwa.
Mae sgiliau arweinwyr a chyflogwyr busnes yng Nghymru yn hanfodol i greu cyfleoedd economaidd a chyflogaeth newydd a manteisio arnynt. Dyna pam, dros gyfnod o bum mlynedd tan fis Rhagfyr 2014, y bydd Llywodraeth y Cynulliad, gyda chyfraniad oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop a busnesau eu hunain, yn gweithio gyda 15,000 o gyrff y sector preifat a’r trydydd sector i ehangu a datblygu Arwain a Rheoli.
Byddwn yn parhau i hyrwyddo Prentisiaethau fel opsiwn dysgu o ansawdd uchel a, chan gadw fframwaith pob oed, byddwn hefyd yn rhoi pwyslais newydd ar bobl ifanc. Mae ansawdd a chanlyniadau yn parhau i gyfrif ac, er bod cyfraddau llwyddo’r Fframwaith ar gyfer prentisiaethau Lefel 2 a Lefel 3 gyda’i gilydd wedi codi o 54% yn 2006/07 i 75% yn 2008/09, nid ydym yn llaesu dwylo ac rydym yn defnyddio contractau newydd i helpu i godi’r bar yn uwch fyth.
Cyhoeddir y contractau dysgu seiliedig ar waith gwerth £400m ar gyfer 2011/14 yn fuan. Gan ymateb i flaenoriaethau Adnewyddu’r Economi, bydd cysylltiadau newydd yn helpu mewn meysydd sector allweddol, yn ogystal ag ymchwilio i sut gallwn ddiwallu orau anghenion Busnesau Angori.
Roedd y dirwasgiad yn ei gwneud yn anodd i bobl ifanc a oedd am fynd i mewn i Brentisiaeth. Ymatebwyd yn gyflym drwy gyflwyno rhaglen Recriwtiaid Newydd a Llwybrau at Brentisiaethau. Mae Recriwtiaid Newydd, drwy gynnig cymhorthdal cyflog i gyflogwyr sy’n recriwtio prentis 16-24 oed wedi helpu i ddatgloi’r galw am brentisiaid. Hyd yn hyn rydym wedi cymeradwyo 1001 o geisiadau ar gyfer y rhaglen Recriwtiaid Newydd.
Opsiwn dwys, wedi’i leoli yn y coleg, yw Llwybrau at Brentisiaethau, i bobl ifanc nad ydynt wedi’u paratoi am le gyda chyflogwr, neu na allant ddod o hyd i le. Ar gyfer 2011/12 ymlaen, caiff Llwybrau at Brentisiaethau eu halinio â’r sectorau blaenoriaeth. Caiff tua 2000 o lefydd eu cynnig yn 2011/12. I helpu i sicrhau bod cymaint â phosibl o’r bobl ifanc hyn yn gallu symud i brentisiaeth cyflogaeth lawn, bydd ein darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn rhoi blaenoriaeth i unigolion sy’n dod drwy’r rhaglen hon.
Mae rhaglen ReAct Llywodraeth y Cynulliad wedi helpu dros 19,000 o bobl i gael y sgiliau i’w helpu i ddod o hyd i gyflogaeth newydd ers dechrau’r dirwasgiad. O 1 Ebrill, bydd ReAct II yn cyflwyno nifer o newidiadau pwysig i’r cymorth sydd ar gael. Bydd ein pwyslais newydd yn symud o hyfforddiant sy’n ceisio’n syml wella sgiliau gweithwyr sydd wedi’u diswyddo i strwythur cymorth gwell i annog cyflogwyr i recriwtio a hyfforddi gweithwyr sydd wedi’u diswyddo.
I helpu gweithwyr y sector cyhoeddus, mae’r Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau a’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb wedi cyhoeddi £5 miliwn o gyllid ar gyfer “Adapt” – gwasanaeth un man cyswllt ar gyfer materion newid gyrfa.
Bydd Sgiliau ar gyfer Adnewyddu’r Economi yn mynd i’r afael ag anghenion y rhai sydd y tu allan i’r farchnad lafur ar hyn o bryd ac y mae ganddynt, yn y dyfodol, gyfraniad mawr i’w wneud i gyfrannu at Gymru ffyniannus a chynhyrchiol. Bydd y rhaglen Camau at Waith, sy’n disodli Adeiladu Sgiliau i oedolion, yn fyw o fis Awst 2011. Bydd rhaglen hyfforddi newydd i bobl ifanc yn cael ei lansio hefyd fel y mae Datganiad Ionawr yn ei nodi.
Mae goblygiadau mawr i Ddiwygiadau Lles y DU o ran ein hymdrechion i fynd i’r afael â diweithdra yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth y Cynulliad fod yn gysylltiedig â’r cymorth sydd ar gael drwy gynlluniau lles Llywodraeth y DU, yn enwedig y Rhaglen Waith newydd. Mae’n rhaid inni sicrhau nad yw cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer cyflwyno’r Credyd Cynhwysol a’r Rhaglen Waith yn rhoi pobl Cymru dan anfantais. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn elwa’n llawn ar gydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau heb eu datganoli ac sydd wedi’u datganoli. Rydym yn bendant na fydd gwariant Llywodraeth y Cynulliad yn disodli buddsoddiad priodol gan Lywodraeth y DU mewn cyflogaeth yng Nghymru nac yn ei ddyblygu.
Drwy’r Cyd-Fwrdd Cyflenwi Rhaglenni Cyflogaeth, byddwn yn cydweithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyflwyno cynigion i ddatblygu’r cysylltiadau a’r protocolau traws-Lywodraeth sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau cymorth cydgysylltiedig i fusnesau. Rydym yn gobeithio bod mewn sefyllfa i gyhoeddi ‘cynnig un cyflogwr’ symlach i gefnogi recriwtio a hyfforddi yn nes ymlaen eleni.
Mae sgiliau lefel uwch yn hanfodol er mwyn i Gymru symud i economi sy’n ychwanegu gwerth mwy. O dan arweiniad Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae Prifysgolion yn gweithio i sicrhau bod cynnwys a chydbwysedd astudiaethau israddedigion yn cydnabod cyfleoedd yn y farchnad lafur, megis ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a meysydd proffesiynol eraill megis cyfrifyddiaeth a busnes.
Gan ymateb i’r galw sy’n newid, rydym yn gweld Prifysgolion yn cynnig mwy o gyrsiau rhan-amser, a rhaglenni cymhwyso proffesiynol rhan-amser, ac yn hyrwyddo Cyrsiau Gradd Sylfaen sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag angen cyflogwyr. Mae ychydig yn llai na 3000 o bobl wedi elwa o gynllun Go Wales sy’n cefnogi’r arfer o gadw israddedigion yn economi Cymru drwy leoliadau â chyflogwyr.
Rydym yn gwybod bod sgiliau ar gyfer adnewyddu’r economi yn galw am ragoriaeth, creadigrwydd ac uchelgais ar draws y system sgiliau gyfan. Rydym yn edrych at y strategaeth Er Mwyn Ein Dyfodol, yr Agenda Weddnewid, Adolygiadau o Lywodraethu AB ac AU, a diwygio sylfaenol ar drefniadau cyllid ôl-16, i fod yn brif ysgogwyr newid. Rydym yn cydnabod hefyd bod yn rhaid rhannu’r uchelgais hwn gyda chyflogwyr ac unigolion er mwyn ei gyflawni.
Byddwn yn parhau i wrando ar dystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio ac yn sicrhau gwerth da i fusnes, cyflogwyr a llywodraeth. Mae’r hyn y mae cyflogwyr yn ei ddweud wrthym am yr ymateb i gynnig sgiliau Llywodraeth y Cynulliad a’i berthnasedd yn galondid mawr inni, ac rydym yn hyderus y bydd y fframwaith cymorth sydd ar gael yn sylfaen gadarn i adnewyddu’r economi yng Nghymru.