Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Rwyf am hysbysu Aelodau’r Cynulliad fy mod wedi sefydlu Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (y Comisiwn), dan Gadeiryddiaeth yr Athro Andrew Davies, Cynghorydd Strategol Prifysgol Abertawe, gan fod 2012 wedi’i enwi gan y Cenhedloedd Unedig yn Flwyddyn Ryngwladol y Mentrau Cydweithredol.

Gwaith y Comisiwn fydd gwneud argymhellion ynghylch tyfu a datblygu’r economi cydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth i gefnogi nodau ac uchelgais Llywodraeth Cymru.  

Swyddogaeth y Comisiwn fydd:

  • Ystyried y dystiolaeth dros gefnogi’r sector gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru;
  • Ystyried cyngor busnes cyfredol ar gyfer y sector gydweithredol a chydfuddiannol a darparu awgrymiadau am ffyrdd o’i gryfhau;
  • Clustnodi meysydd penodol y gellid eu targedu ar gyfer cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru;
  • Ystyried yr arfer da a’r gwerthusiadau sydd ar gael;
  • Gosod gweledigaeth ar gyfer economi cydweithredol a chydfuddiannol Cymru;
  • Clustnodi a sefydlu meincnodau;
  • Darparu awgrymiadau ynghylch cyfeiriad strategol ac argymhellion ymarferol ar gyfer cyflawni’r weledigaeth.
Rwy’n falch iawn i’r Athro Andrew Davies gytuno i Gadeirio Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru.  Mae gan Andrew gyfoeth o brofiad fel cyn Aelod Cynulliad dros Orllewin Abertawe rhwng 1999 a 2011, ac fel cyn Weinidog Cyllid a Gweinidog Datblygu Economaidd gyda Llywodraeth Cymru mae’n adnabyddus ledled Cymru a’r DU.  Hefyd bu Andrew yn arwain Rhaglen Datblygu a Chynorthwyo Gweithwyr arloesol Cwmni Modur Ford yn ne Cymru yn y 1990au, ac yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr cyswllt gyda chwmni materion cyhoeddus cyn cael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999.  Mae Andrew hefyd yn ymddiriedolwr a chyfarwyddwr anweithredol gyda Banc Elusen y DU.

Byddaf yn gwneud cyhoeddiad pellach ynghylch aelodaeth y Comisiwn ar ôl toriad yr haf.