Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi manylion Setliadau Refeniw a Chyfalaf Terfynol y ddau awdurdod unedol ar hugain yng Nghymru ar gyfer 2014-15.

Y Setliad Cyffredinol

Wrth baratoi'r Setliad Terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad ar y Setliad Dros Dro.  

Y flwyddyn nesaf, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd Awdurdodau Lleol Cymru yn cael £4.264 biliwn o gyllid refeniw cyffredinol. Mae hyn yn ostyngiad o 3.4% o’i gymharu â 2013-14. Mae’r newid cyffredinol fymryn yn well na’r hyn a gyhoeddwyd gennyf yn y Setliad Dros Dro, yn dilyn fy mhenderfyniad i ddadneilltuo £4 miliwn o gyllid a nodwyd ar gyfer Grant Pensiynwyr Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn flaenorol. Er bod y Setliad hwn yn golygu gostyngiad mewn cyllid, mae’n dal i fod yn ganlyniad cytbwys i Lywodraeth Leol Cymru, o ystyried y ffaith y bydd Llywodraeth y DU wedi torri cyfanswm o £1.7 biliwn oddi ar Gyllideb Cymru erbyn 2015-16. Mae’r Setliad Terfynol hwn yn arwydd o’m hymrwymiad i gynyddu hyblygrwydd, i sicrhau tegwch ac i ddarparu cymorth ychwanegol.

Mae’r Setliad yn cynnwys £244 miliwn ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae hefyd yn cynnwys £5.2 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer Cymhorthdal Gweinyddu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Arferai’r Adran Gwaith a Phensiynau ddarparu hwn i Awdurdodau Lleol, ond mae bellach wedi’i drosglwyddo i’r Setliad.  

Dosbarthu rhwng Awdurdodau

Mae Tabl 1 yn cynnwys manylion y newid blynyddol cymharol yn Setliad refeniw’r ddau awdurdod ar hugain, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau.

Grantiau Refeniw Penodol

Rwyf hefyd yn rhoi gwybodaeth i Awdurdodau Lleol am y grantiau penodol y gallant ddisgwyl eu cael yn 2014-15. Gyda’i gilydd, bydd yr wybodaeth am y Grant Cynnal Refeniw a’r grantiau penodol yn rhoi darlun cynhwysfawr i'r Awdurdodau Lleol o'r cyllid y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn 2014 15, ac yn caniatáu  iddynt baratoi eu cyllidebau yn effeithiol. Bydd Awdurdodau Lleol, yn ogystal â derbyn arian drwy'r Setliad, hefyd yn derbyn dros £700 miliwn ar ffurf grantiau penodol.

Mae’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2014-15 yn cynnwys £39.3 miliwn o gyllid a arferai gael ei roi ar ffurf grantiau penodol. Rwyf wedi penderfynu dadneilltuo dros £30 miliwn o gyllid o’m portffolio fy hun, a oedd wedi’i neilltuo’n flaenorol ar gyfer y Fenter Cyllid Preifat a’r Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Mae £3.2 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Pecyn Gwella Camau Cyntaf a £5.2 miliwn ar gyfer gweinyddu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor hefyd yn cael ei drosglwyddo i’r Setliad ar gyfer 2014-15.  

Ar gyfer y Setliad Terfynol, rwyf hefyd wedi penderfynu darparu’r cyllid a neilltuwyd o’r blaen ar gyfer Grant Pensiynwyr Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (£4 miliwn) o fewn y Grant Cynnal Refeniw, yn hytrach nag ar ffurf grant penodol.      

Ochr yn ochr â’r Setliad, caiff £3.5 miliwn yn ychwanegol ei dalu yn 2014-15 o dan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol newydd i ran-ariannu elfen Llywodraeth Cymru o’r Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Darperir hwn y tu allan i’r Setliad ar ffurf grant ar wahân yn 2014-15, am nad yw’r dosbarthiad wedi’i bennu’n derfynol, ond caiff ei drosglwyddo i’r Grant Cynnal Refeniw yn 2015-16.

Gwarchod Ysgolion

Mae’r Setliad yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod cyllid ysgolion er mwyn sicrhau bod plant Cymru yn cael y canlyniadau gorau. Mae’r Setliad, ochr yn ochr â rhan o’r Grant Amddifadedd Disgyblion, yn cynnwys yr adnoddau sydd eu hangen i warchod cyllid ar gyfer ysgolion ar lefel o 1% uwchlaw’r newid cyffredinol i Gyllideb Cymru.  

Lleddfu

Rwy’n gweithredu’r cynnig a gyhoeddwyd gennyf fel rhan o’r Setliad Dros Dro i fabwysiadu mecanwaith lleddfu, er mwyn lliniaru’r effaith o un flwyddyn i’r llall ar unrhyw awdurdod unigol. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac effaith data mwy diweddar, rwyf wedi penderfynu cynnal y trothwy lleddfu a nodais yn y Setliad Dros Dro. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 4.75% o’i gymharu â’i ddyraniad ar gyfer 2013-14, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. Yn ychwanegol at y trothwy hwn, bydd awdurdodau hefyd yn derbyn cyllid ar gyfer Menter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer Priffyrdd a’r Grant Menter Cyllid Cyhoeddus, yn eu dyraniadau Grant Cynnal Refeniw. Drwyddi draw, mae hyn yn golygu na fydd yr un awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 4.6%, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau

Y Setliad Cyfalaf

£406.3 miliwn fydd y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2014-15, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol. Mae hyn ychydig yn uwch na ffigur y Setliad Dros Dro.  

£143 miliwn yw cyfanswm y Gronfa Cyfalaf Cyffredinol. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn. Caiff £54 miliwn ohono ei dalu ar ffurf grant cyfalaf, a chaiff y gweddill, sef rhyw £89 miliwn, ei ddarparu ar ffurf cymorth benthyca.

Gwybodaeth bellach

Cyhoeddir tablau manwl pellach ar wefan Llywodraeth Cymru.

Caiff y cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol 2014-15 ei drafod ar 14 Ionawr 2014.

Bydd yr wybodaeth yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar awdurdodau i bennu eu cyllideb a’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rwyf wedi mynegi’n glir yr hyn rwy’n ei ddisgwyl gan Awdurdodau Lleol o ran codi’r dreth gyngor, a byddaf yn monitro’r sefyllfa yn ofalus. Rwy’n dal yn fodlon defnyddio’r pwerau capio sydd ar gael imi, os bydd angen.