Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Heddiw, rwy’n cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru yn 2012-13.
Y Setliad Cyffredinol
Wrth baratoi’r setliad terfynol rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a ddaeth i law drwy’r ymgynghoriad ar y setliad dros dro.
Y flwyddyn nesaf, ar ôl ystyried trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru’n cael cynnydd o 0.24% ar setliad refeniw’r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn aros yr un fath â’r hyn a gyhoeddais ar gyfer y setliad dros dro ar 18 Hydref 2011.
Wedi’u cynnwys yn y setliad terfynol mae dau grant penodol arall yn unol â’n hymrwymiad i leihau’r swm o arian wedi’i neilltuo a ddarperir y tu allan i’r Grant Cymorth Refeniw. Y rhain yw cyllid Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid a chyllid deddf iechyd meddwl sy’n gwneud cyfanswm o £718 mil.
Gan gydnabod yr achos dros leihau neilltuo grantiau penodol, roeddwn wedi bwriadu cynnwys y £32 miliwn sy’n cael ei ddarparu trwy’r Grant Adsefydlu Anabledd Dysgu yn setilad 2012-13. Yn anffodus nid oedd llywodraeth leol ar y cyd yn gallu cytuno ar y trefniadau i drosglwyddo hwn i’r setliad. Felly rhoddir ystyriaeth bellach i hyn, gyda golwg ar ei gynnwys yn setliad 2013-14.
Grantiau Refeniw Penodol
Rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am yr holl grantiau penodol ar gyfer Cymru y gallant ddisgwyl eu cael yn 2012-13. Gyda’i gilydd bydd y Grant Cymorth Refeniw a’r Grantiau Penodol yn rhoi darlun cynhwysfawr i’r awdurdodau o’r cyllid y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2012-13, er mwyn eu galluogi i reoli eu cyllidebau’n effeithiol. Yn ogystal â’r cyllid y bydd awdurdodau’n ei gael drwy’r setliad, byddant hefyd yn cael dros £700 miliwn mewn grantiau penodol. Ymhlith y rhain mae grantiau sylweddol ar gyfer meysydd fel Tocynnau Teithio Rhatach; Rheoli Gwastraff Cynaliadwy; y Cyfnod Sylfaen a Chefnogi Pobl.
Dosbarthiad rhwng Awdurdodau
Setliad Cyfalaf
O ran y setliad cyfalaf, bydd y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2012-13, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, yn £424 miliwn, yr un fath â ffigur y setliad dros dro.
Mae cyfanswm o tua £161 miliwn yn y Gronfa Gyfalaf Gyffredinol. Mae hwn yn gyllid cyfalaf sydd neb ei neilltuo. Mae £54 miliwn ohono yn cael ei dalu fel grant cyfalaf, a’r gweddill, tua £107 miliwn, yn cael ei ddarparu fel cymorth i fenthyca.
Bydd tablau manwl eraill ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Trefnwyd bod cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymeradwyo adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer 2012-13 yn cael ei drafod ar 10 Ionawr 2012.