Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw yn gosod gerbron y Cynulliad Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2020-21 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2020-21. Cyhoeddiad heddiw gan y Swyddfa Gartref y Ddyraniadau Grant Terfynol yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau eu bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod eu praeseptau erbyn 1 Mawrth.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cynnydd yn y cyllid a dderbyniant o 7.48% ar gyfer 2020-21 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2019-20.

Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2020-21 yw £384 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £143.4 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig. Mae’r arian gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r Swyddfa Gartref yn parhau i darparu’r grant pensiynau fel cyllid penodol.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol fod yn destun trafodaeth yn y Cynulliad ar 10 Mawrth.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:

https://llyw.cymru/setliad-yr-heddlu-terfynol-2020-i-2021

Cyllid Refeniw yr Heddlu

Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (RSG+NNDR, £m)            
                       
      2016-17   2017-18   2018-19   2019-20   2020-21
Dyfed-Powys     12.895   12.870   13.101   13.355   13.150
Gwent     30.107   30.583   31.083   31.701   31.790
Gogledd Cymru     21.578   21.907   22.122   22.496   22.614
De Cymru     72.177   73.341   74.594   75.848   75.845
Cyfanswm     136.757   138.700   140.900   143.400   143.400
                       
Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£m)1            
                       
      2016-17   2017-18   2018-19   2019-20   2020-21
Dyfed-Powys     37.117   36.443   36.212   36.993   40.967
Gwent     42.393   40.904   40.404   41.287   46.660
Gogledd Cymru     51.167   49.821   49.606   50.738   56.101
De Cymru     87.463   84.066   82.812   84.864   96.895
Cyfanswm     218.140   211.234   209.034   213.882   240.622
                       
Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£m)            
                       
      2016-17   2017-18   2018-19   2019-20   2020-21
Dyfed-Powys     50.012   49.313   49.313   50.348   54.116
Gwent     72.501   71.487   71.487   72.988   78.451
Gogledd Cymru     72.745   71.728   71.728   73.234   78.715
De Cymru     159.639   157.407   157.407   160.712   172.740
Cyfanswm     354.897   349.934   349.934   357.282   384.022
Nodiadau:              
1 Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy'n cynnwys y  dyraniad o dan 'Prif Fformiwla' ac 'Ychwanegu Rheol 1' (colofnau a a b) plws swm y 'cyllid  gwaelodol' y mae'r Swyddfa Gartref wedi'i sicrhau sydd ar gael.