Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26, rwy’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i’r awdurdodau lleol drwy setliadau refeniw a chyfalaf terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2025-26.
Wrth baratoi’r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i’r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 24 Ionawr. Rwy’n cydnabod y pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan yr awdurdodau lleol.
Mae cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn cynnwys £8.24m yn ychwanegol i ddiogelu cyllid gwaelodol wedi’i bennu ar 3.8% yn y setliad.
Hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith caled a’r gwytnwch a ddangoswyd ar draws y sector gan swyddogion ac aelodau etholedig dros sawl blwyddyn wrth iddynt ymateb i’r heriau parhaus y mae cynghorau wedi bod yn eu hwynebu. Rydym yn gwybod na ellir gwrthdroi 14 blynedd o doriadau mewn un gyllideb yn unig. Bydd yn cymryd amser i gyllid cyhoeddus adfer. Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i lywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ei phenderfyniadau cyllidebol.
Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2025-26 yn cynyddu 4.5%, ar sail tebyg at ei debyg, o’i gymharu â 2024-25. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael llai na 3.8% o gynnydd. Golyga hynny, felly, y bydd pob awdurdod yn gweld cynnydd mwy nag a welwyd yn 2024-2025. Yn 2025-26, bydd yr awdurdodau lleol yn cael £6.14bn gan Grant Cynnal Refeniw (RSG) Llywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig (NDR) i ddarparu gwasanaethau allweddol.
Mae tabl cryno sy’n nodi’r dyraniadau setliad (Cyllid Allanol Cyfun (AEF)) yn ôl awdurdod ynghlwm wrth y datganiad ysgrifenedig hwn. Mae’r dyraniadau yn deillio o ddefnyddio’r fformiwla y cytunwyd arni â llywodraeth leol.
Yn ogystal â’r setliad craidd, rwy’n cyhoeddi gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf penodol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2025-26, sy’n dod i fwy na £1.3bn ar gyfer refeniw a mwy na £1.0bn ar gyfer cyfalaf.
Mae cyfuno neu ddadneilltuo grantiau yn parhau ar draws ystod eang o feysydd fel rhan o ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ysgafnhau’r baich gweinyddol ar lywodraeth leol. Rydym wedi trosglwyddo £15m o grantiau refeniw i’r setliad yn 2025-26. Mae’n bwysig inni weithio gyda’n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol er mwyn deall effeithiau’r newidiadau hyn wrth iddynt ymwreiddio. Mae hyn yn un o gonglfeini’r gwaith sy’n mynd rhagddo i feithrin perthynas strategol â llywodraeth leol sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth ac ar ganolbwyntio ar y canlyniadau y gellir eu cyflawni mewn partneriaeth. Bydd y gwaith hwn yn parhau i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau ar gyfer yr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hanfon i bob awdurdod lleol a’i chyhoeddi ar Gwefan Llywodraeth Cymru
Fel y nodir yn y Gyllideb Ddrafft, rydym yn darparu pecyn o gymorth ardrethi annomestig a fydd o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru. Bydd hyn yn rhoi cap o 1% ar y cynnydd i’r lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2025-26, ar gost flynyddol gylchol o £7m i gyllideb Cymru. O ganlyniad i’r cap hwn, mae elfen RSG y setliad wedi cynyddu cyfwerth â £7m.
Ochr yn ochr â’r setliad, rydym hefyd yn buddsoddi £78m yn ychwanegol i ddarparu chweched flwyddyn yn olynol o gymorth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Mae’r cymorth parhaus hwn yn cydnabod y pwysau economaidd sy’n wynebu’r busnesau hyn ac mae’n adeiladu ar y £1bn o gymorth a ddyrannwyd drwy ein cynlluniau rhyddhad penodol ers 2020-21.
Gwnaeth y Gyllideb Ddrafft gynyddu’r cyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol i £200m i gydnabod effaith chwyddiant yn ystod y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad i gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Jane Dodd AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae’r Gyllideb Derfynol yn cynnwys £5m yn ychwanegol ar gyfer y Grant Cyfalaf Gwres Carbon Isel. Bydd hyn yn cynyddu’r cymorth sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer gosod systemau gwresogi carbon isel yn eu canolfannau hamdden a’u gwneud yn wyrddach, yn gynhesach ac yn fwy cynaliadwy.
Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac yn ei dro’r dreth gyngor. Bydd angen iddynt ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â’r pwysau sy’n eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Rwy’n falch o’r berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru a byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Bwriedir cynnal dadl ar y cynnig i’r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) ar gyfer 2025-26 ar 4 Mawrth 2025.